Twf y Gymraeg mewn gemau fideo poblogaidd
- Cyhoeddwyd
Wrth i fwy o bobl droi at gemau fideo i ddianc i fyd gwahanol am ychydig yn ystod y pandemig coronafeirws, gemau fel Animal Crossing a Fortnite sydd wedi hawlio llawer o'r sylw.
Ond mae 'na rai sy'n ceisio datblygu cymuned Gymraeg ym myd y gemau fideo - ac yn meddwl y gall hyn helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ym mis Ebrill, yng nghanol y pandemig, cafodd g锚m newydd ei rhyddhau gan gwmni Pug Fugly Games o Gaerdydd.
Swyddog digidol gyda Menter Iaith Caerffili, Morgan Roberts, gyfieithodd Destructivator 2 i'r cwmni. Roedd yn frwdfrydig i weld mwy o gynnwys Cymraeg mewn gemau fideo.
"O'n i wedi gwerthu'r ffaith bod cyfieithu'r g锚m yn gyfle gwych iddo fe gael mwy o bobl a byddai'n beth positif iddo fe allu gwerthu'r g锚m," meddai.
Mae Morgan wedi bod yn ceisio gwthio'r iaith Gymraeg mewn gemau fideo ers blynyddoedd, ac yn danfon gwybodaeth allan i ddatblygwyr i geisio cael mwy o gemau wedi eu cyfieithu.
Datblygwyr y dyfodol
Yn 么l y gwaith ymchwil diweddaraf gan Miller Research, mae yna 79 o ddatblygwyr gemau fideo yng Nghymru, a gyda chyrsiau ar gael ym mhrifysgolion fel Glynd诺r a De Cymru, mae Morgan yn meddwl bod yna gyfle da i gyrraedd datblygwyr y dyfodol.
"Dechrau fan yna i blannu'r hadau o'r syniad o gael fersiwn Cymraeg. Achos i lot ohonyn nhw, so' nhw gydag unrhyw negatif yngl欧n 芒 defnyddio'r Gymraeg ond does neb byth wedi gofyn iddyn nhw," meddai.
"Mae rhai pobl yn anwybodus a ddim yn deall niferoedd y siaradwyr Cymraeg, felly dwi'n trio cysylltu 芒 phobl i drio gwella'r sefyllfa."
Yn byw yn Llundain, mae Gav Murphy yn berchen ar gwmni RKG, sy'n creu fideos a phodlediadau o bobl yn chwarae gemau.
"Bendant mae 'na alw am fwy o gemau wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Mae fy nghariad ar y funud yn chwarae The Witcher 3 ac mae hi newydd ddod ar draws cymeriadau gydag acen Gymraeg," meddai.
"Mae pobl Cymraeg yn excited achos maen nhw mor prowd o lle maen nhw'n dod. Os fyddai 'na g锚m massive fel Assassin's Creed hefo cyfieithiad Cymraeg, bydd 'na gynulleidfa massive i hwnna."
Un cwmni sy wedi bod yn cefnogi'r iaith yn eu gemau ers blynyddoedd yw Wales Interactive, o Ben-y-bont ar Ogwr.
Maen nhw'n gwerthu eu gemau ar draws y byd, wedi ennill sawl BAFTA, ac ar fin rhyddhau g锚m newydd.
Dywedodd David Banner, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni: "Ni wnaeth y g锚m console Cymraeg cyntaf, ac mae llawer o'n gemau yn Gymraeg.
"Mae ein g锚m ddiweddaraf, Maid of Sker yn cynnwys hwiangerdd Gymraeg - Suo G芒n, ac mae wedi creu dipyn o gynnwrf.
"Mae llawer o bobl wedi bod yn gofyn 'pa iaith yw honna?', maen nhw'n meddwl mai Daneg ydy hi!
"Felly rydym yn defnyddio'r Gymraeg i'w marchnata hi ac i ychwanegu gwerth i'r g锚m yr ydym yn ei greu."
Her darganfod gemau
Ond er bod 'na gefnogaeth i'r iaith, mae'n dipyn o her i ddod o hyd i'r gemau Cymraeg sy'n bodoli.
Wrth chwilio ar un siop gemau ar-lein, dydy Destructivator 2 ddim yn ymddangos ar 么l teipio geiriau fel 'Cymru, Cymraeg, Wales, Welsh' i mewn i'r blwch chwilio, er bod y g锚m ar gael yn y siop.
Er yr heriau i'r iaith Gymraeg mewn gemau fideo, mae'r diwydiant yn dal i dyfu - erbyn hyn mae'n fwy hyd yn oed na'r diwydiant cerddoriaeth a ffilm wedi eu cyfuno.
Mae angen manteisio ar hynny felly, yn 么l Morgan Roberts.
"Mae disgwyliadau gan fusnesau i wneud pethau'n ddwyieithog, ond bydde cael yr un fath o gyfle ar gyfer gemau fideo yn cael effaith hynod, achos mae fe'n blatfform sy'n gallu cael ei rannu gyda miloedd o bobl o gwmpas y byd," meddai.
"Felly mae 'na rywbeth fan 'ma sydd yn gallu cael ei gefnogi ar lefel lot uwch, i wneud gwahaniaeth mawr.
"A gyda'r targed o filiwn o siaradwyr, dwi'n credu bod hyn yn gyfle gwych tuag at y nod hynny."
Clybiau gemau yn Gymraeg
Parhau felly mae Menter Caerffili i ddatblygu cymuned o chwaraewyr Cymraeg ar-lein, trwy redeg nifer o glybiau gemau fideo cymunedol ar sianeli YouTube a Twitch, 'Yn Chwarae', sy'n rhoi cyfle i bobl sgwrsio yn Gymraeg tra'n chwarae gemau fideo.
Ychwanegodd Morgan: "Bydd e'n haws i ni allu cael cymuned Cymraeg digidol os mae'r cynnwys yn y Gymraeg a dwi'n credu gyda'r diwydiant gemau, dyw e ddim yn andros o anodd.
"Mae'r codwyr yma yng Nghymru ac mae'r cyfieithwyr yma yng Nghymru hefyd. Felly jyst mater o roi'r dots gyda'i gilydd. Bydd angen cefnogaeth ariannol wrth gwrs, ond fi'n si诺r gwelwn ni twf wedyn o ran defnydd iaith."
Fel rhan o 诺yl Ffilifest, sy'n rhedeg y penwythnos hwn (6ed-9fed o Fehefin), mi fydd Morgan a Menter Iaith Caerffili yn chwarae pob g锚m Gymraeg ar eu sianel Twitch - 'Yn Chwarae' - gan ddechrau am 10:00 fore Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2020