Diffyg perfformiad drama fuddugol yn destun 'siom'

Disgrifiad o'r llun, Gruffydd Sion Ywain: "Y peth am theatr yw bod o ddim wir yn dod yn fyw tan i chi glywed y geiriau yn dod allan o gegau actorion"
  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru

Flwyddyn ar 么l ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, mae Gruffydd Si么n Ywain wedi datgan ei siom bod ei ddrama fuddugol "Nyth" dal heb ei chyflwyno yn ei chyfanrwydd.

Hon oedd ei ddrama gyntaf, ac mae'n dweud ei fod wedi gobeithio y byddai cyfle i'w datblygu a'i gweld ar lwyfan.

"Mae geiriad y gystadleuaeth yn ofalus iawn yngl欧n 芒'r wobr, ac yn dweud yn ddigon clir eu bod yn gwobrwyo potensial a bod cyfle i gyd-weithio ond ddim o reidrwydd i roi perfformiad o'r ddrama ymlaen," meddai.

Tra'n derbyn hynny, mae'n dweud bod pob dramodydd am weld ei waith yn dod yn fyw ar lwyfan.

"Y peth am theatr yw bod o ddim wir yn dod yn fyw tan i chi glywed y geiriau yn dod allan o gegau actorion, ac yn cael ei ddehongli.

"Cywaith yw drama, mae gen ti llais yr awdur i ddechrau ond dydy pethe ddim yn gorffen yn fanna."

Mewn ymateb fe ddywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol mai "potensial yn hytrach na sicrwydd i'w datblygu ymhellach" sy'n cael ei wobrwyo, ac mai "dewis y cwmn茂au proffesiynol yw penderfynu a fyddai'r gwaith yn gweddu eu rhaglenni gwaith".

Perygl o 'golli statws i'r ddrama'

Fe gafodd detholiad o'r ddrama ei chyflwyno ym mhabell Paned o G锚 ar y maes, ac roedd hynny'n gyffrous yn 么l y dramodydd sy'n wreiddiol o Ddolgellau.

Ond byddai wedi bod wrth ei fodd i weld cyflwyniad o'r ddrama yn ei chyfanrwydd.

"Yn bendant byddwn i 'di licio gweld y gwaith yn cael ei berfformio fan hyn ar faes y Steddfod.

"Dwi'n meddwl yn sicr bod unrhyw un sy'n cystadlu am y Fedal Ddrama yn gobeithio y bydd yna gyfle i weld y gwaith yn ei gyfanrwydd."

Disgrifiad o'r llun, Daeth Gruffydd i'r brig gyda'i ddrama 'Nyth' - ei ffugenw oedd 'Dy Fam'

Does yna ddim theatr ar y maes eleni, na phentref drama.

Tra'n croesawu cyflwyno syniadau newydd, mae Gruffydd hefyd yn cyfaddef ei fod ychydig yn bryderus yngl欧n ag effaith bosib hynny ar statws y ddrama.

"Dwi'n cydymdeimlo 芒'r ddadl bod angen i'r ddrama esblygu ac i'w gweld ar draws y maes mewn llefydd gwahanol, a dwi'n meddwl bod hynny yn gyffrous iawn.

"Ond be' dwi'n feddwl sydd angen g'neud, yn si诺r ohono, yw ein bod ni ddim yn colli statws i'r ddrama trwy golli un cartref penodol, oherwydd mae hynny mor bwysig.

"Am wn i y peryg yw os nad oes un lle penodol i'r ddrama fe allai fynd ar goll ymysg y bwrlwm a phetha' eraill ar y maes, ond gobeithio ddim."

'Cyfle i arbrofi'

Mae Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn dweud ei fod yn "gyffrous iawn am yr arlwy amrywiol yn Eisteddfod".

"Mae eleni yn cynnig amryw o leoliadau gwahanol, efallai yn annisgwyl, lle bydde' chi ddim yn disgwyl theatr.

"Wedyn mae hynny yn gallu ehangu cynulleidfa a phobl yn dod ar draws theatr a meddwl 'o mae hyn yn ddiddorol' ac o bosib yn mynd wedyn i'r theatr eto ar 么l yr Eisteddfod i weld rhywbeth gwahanol."

Disgrifiad o'r llun, Mae Steffan Donnelly yn "gyffrous iawn am yr arlwy amrywiol yn Eisteddfod"

Mae'n s么n fod hyn yn rhan o'i weledigaeth fel cyfarwyddwr: "Theatr i bobl, i Gymru, yw fy mwriad a mynd a'r gwaith allan at y bobl.

"Hon yw'r unig wythnos yn y flwyddyn lle 'da ni'n gallu gneud petha' pop-up.

"Gweddill y flwyddyn 'da ni'n teithio i'n theatrau a'n canolfannau ni."

Yn 么l Mr Donnelly mae'r wythnos hon yn gyfle i arbrofi: "Ar faes mor amrywiol a chyffrous a hyn byddai'n wirion i beidio 芒 chwilio am bosibiliadau gwahanol.

"Ydy mae yn newid ond rwy'n meddwl ei fod yn newid blaengar a chadarnhaol iawn."

'Dewis i'r cwmn茂au proffesiynol'

Mewn ymateb fe ddywedodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn wahanol i'r prif wobrau eraill [ac eithrio Tlws y Cerddor] gwobrwyo addewid a wneir drwy'r Fedal Ddrama. Potensial yn hytrach na sicrwydd i'w datblygu ymhellach a wobrwyir.

"Ceir darlleniad o ddarn o'r gwaith fel rhan o'r seremoni, sy'n cyfateb i'r hyn a geir yn seremoni wobrwyo Tlws y Cerddor.

Disgrifiad o'r llun, Betsan Moses: "Dewis y cwmn茂au proffesiynol yw penderfynu a fyddai'r gwaith yn gweddu eu rhaglenni gwaith hwy"

"Fel rhan o'r pecyn rhoddir cyfle i'r cyw ddramodydd weithio gyda dramodydd i ddatblygu'u crefft, a chred yr Eisteddfod fod y cynnig hwn yn ganolog i hybu ysgrifennu newydd a dramodwyr y dyfodol.

"Yn yr un modd, rhennir y sgript gyda holl gwmn茂au proffesiynol Cymru ar eu cais i sicrhau y gall unrhyw gwmni weithio gyda'r dramodydd i lwyfannu'r gwaith fel rhan o'u harlwy.

"Dewis y cwmn茂au proffesiynol yw penderfynu a fyddai'r gwaith yn gweddu eu rhaglenni gwaith hwy."