91Èȱ¬

Eisteddfodwyr: 'Plîs ewch i gefnogi busnesau Pen Llŷn'

Liz Saville Roberts
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi "erfyn" ar bobl i grwydro tu hwnt i'r maes, er mwyn sicrhau bod ardal gyfan LlÅ·n ac Eifionydd yn elwa o'r Brifwyl.

Dywedodd Liz Saville Roberts y byddai hynny'n sicrhau bod arian yn mynd yn "uniongyrchol" i'r bobl hynny sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau bod modd cynnal yr ŵyl.

Daw hynny wedi i'r Eisteddfod gyhoeddi bod y pwyllgor gwaith lleol yr Eisteddfod eleni bellach wedi codi dros £500,000, sy'n swm record.

Fe agorodd y maes ym Moduan ei drysau ddydd Sadwrn, a bydd yr ŵyl yn gorffen ar 12 Awst.

'Andros o amser da'

Ms Roberts yw'r Aelod Seneddol sy'n cynrychioli ardal Dwyfor Meirionydd yn San Steffan, ac fe roddodd araith yn y Pafiliwn ddydd Sadwrn i groesawu'r Eisteddfod i'r ardal.

Wrth siarad gyda 91Èȱ¬ Cymru ddydd Sadwrn, pwysleisiodd yr angen i bobl gefnogi digwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod sy'n cael eu cynnal tu allan i'r maes hefyd.

"Mae'n bwysig i ni wneud yn siŵr bod yr ardal gyfan yn gweld gwerth yr Eisteddfod," meddai.

"Dwi'n gwybod fod 'na dafarndai a chaffis sydd 'di rhoi digwyddiadau 'mlaen, a dwi'n erfyn ar i bobl i wneud yn siŵr, plîs, eich bod chi'n cefnogi nhw.

"Achos 'dach chi'n rhoi'ch pres chi'n uniongyrchol ym mhocedi'r bobl sy'n byw yn yr ardal yma, ac mi fyddan nhw'n cofio hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gigiau a digwyddiadau eisoes wedi'u trefnu gan fusnesau lleol Pen LlÅ·n y tu hwnt i faes yr Eisteddfod

Ychwanegodd bod pobl leol wedi poeni ar un adeg a fyddai'r Eisteddfod fyth yn dychwelyd i'r ardal, gan nad oedd y Brifwyl wedi ymweld â chyffuniau Pwllheli ers 1955.

Ers hynny yr unig ymweliadau eraill i ardal LlÅ·n ac Eifionydd oedd Cricieth yn 1975, a Phorthmadog yn 1989.

Oherwydd hynny, meddai Ms Roberts, mae'r trigolion yn frwdfrydig iawn i'w chroesawu unwaith eto.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn mynd i gael andros o amser da," meddai. "Dyma ardal sy'n gallu ymdopi efo ymwelwyr.

"Ond i gael ymwelwyr sy'n dod yma i fwynhau bob agwedd o ddiwylliant Cymraeg, mae hwnna'n rhywbeth arbennig."

'Perthyn i ni gyd'

Fel un gafodd ei geni a'i magu yn Llundain, cyn symud i Gymru'n ddiweddarach, wnaeth Liz Saville Roberts ddim ymweld â'r Eisteddfod nes ei bod hi'n oedolyn yn dysgu'r iaith.

Ac mae'n pwysleisio ei bod yn llwyfan mor bwysig ag erioed i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau, yn ogystâl a llwyfan i'r rheiny sy'n ei siarad yn rhugl.

"Fy mhrofiad cyntaf i o Eisteddfod oedd pan o'n i'n dysgu Cymraeg yn Llanbedr [a'r Eisteddfod yno yn 1984]," meddai.

"Mae rhywun sydd jyst yn siarad ychydig o eiriau hyd yn oed, mae'r traddodiad a'r diwylliant yn perthyn i chi yr un fath.

"Dyna yw rhinwedd yr Eisteddfod - nid jyst bod y Gymraeg yn rhywbeth 'dych chi'n dysgu yn yr ysgol, ond mae'n rhywbeth 'dych chi'n cael hwyl ynddo fo, cymdeithasu ynddo fo, cystadlu ynddo fo - falle meddwi 'chydig bach ynddo fo!

"Ond mae'n perthyn i ni gyd, a dyna be' sy'n bwysig."