Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd: Seremoni y Fedal Ddrama

Seremoni y Fedal Ddrama fydd prif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn Mawr ddydd Iau.

Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Y beirniaid eleni oedd Steffan Donnelly, Elgan Rhys a Seiriol Davies.

Fel yn achos Gwobr Goffa Daniel Owen, seremoni fer fydd hon heb yr Archdderwydd na'r Orsedd yn cymryd rhan.

Mae'r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam, a 拢750 o Gronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli.

Gwobrwyir drama sydd 芒 photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

Os bydd teilyngdod cyflwynir rhan o'r gwaith gyda chefnogaeth Cronfa Goffa J O Roberts.

Disgrifiad o'r llun, Daeth Gruffydd i'r brig gyda'i ddrama 'Nyth' - ei ffugenw oedd 'Dy Fam'

Gruffydd Si么n Ywain, o Ddolgellau yn wreiddiol, oedd enillydd y fedal hon yn 2022.

Daeth i'r brig gyda'r ddrama 'Nyth' mewn cystadleuaeth a ddenodd 15 o ymgeiswyr.

Yn y Pafiliwn Mawr hefyd ddydd Iau fe fydd cystadleuaeth y Rhuban Glas Offerynnol i rai o dan 19 a Gwobr Goffa Osborne Roberts - sef y Rhuban Glas i gantorion 19 ac o dan 25 oed.