91热爆

Prydau ysgol gwyliau'r haf: Ystyried her gyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Dwy ferch yn bwyta pryd ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai penderfyniad dadleuol i gael gwared ar gynllun oedd yn darparu prydau bwyd am ddim i blant cymwys yn ystod y gwyliau gyrraedd y llysoedd yn y pen draw.

Mae elusen gyfreithiol sy'n gweithredu ar ran rhiant sengl sy'n ceisio lloches yng Nghaerdydd yn paratoi her gyfreithiol.

Mae'r rhiant wedi dweud bod y penderfyniad wedi ei gadael mewn "sioc" ac y dylai gweinidogion fod wedi rhoi mwy o amser i deuluoedd baratoi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried eu hymateb.

Mae'r Prosiect Cyfraith Gyhoeddus (Public Law Project) yn dweud bod y penderfyniad wedi'i wneud ar fyr rybudd ac y gallai fod yn anghyfreithlon oherwydd nad oedd gweinidogion wedi meddwl am sut i leihau'r effaith ar bobl ddifreintiedig.

Mae'n anghytuno 芒 honiad Llywodraeth Cymru bod gweinidogion wedi gwneud penderfyniad ym mis Mawrth, a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi gadael rhieni "mewn twll".

Ffynhonnell y llun, DANIEL LEAL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Matthew Court o'r PLP bod prydau am ddim yn "hollbwysig" i sicrhau bod plant yn cael eu bwydo'n iawn

Mae'r cyfreithwyr wedi galw am adfer y cynllun tra'n disgwyl asesiad effaith ac ymgynghoriad llawn - ac os na fydd hynny'n digwydd bydd cais am adolygiad barnwrol yn y llys.

Mae gweinidogion y llywodraeth wedi dweud nad oes digon o arian yn y coffrau i barhau gyda'r cynllun a gafodd ei gyflwyno yn ystod y pandemig.

拢15尘

Credir y byddai'n costio 拢15尘 i dalu am brydau yn ystod gwyliau ysgol. Mae pedwar cyngor wedi penderfynu parhau i dalu am y cynllun o'u harian eu hunain.

Dywedodd y rhiant, sy'n cael ei hadnabod gan yr elusen fel Nadia, ei bod "wedi cael sioc wrth edrych ar yr e-bost" oedd yn dweud wrthi y byddai'r taliadau'n dod i ben.

Mewn dyfyniadau a ddarparwyd gan yr elusen, dywedodd: "Mae'r talebau hyn yn hanfodol ar gyfer bwydo fy nau blentyn.

"Mae fy ymennydd yn gweithio 24/7 yn ceisio darganfod sut rydw i'n mynd i wneud i hyn weithio. Rwyf eisoes yn prynu'r pethau sylfaenol a'r pethau rhataf, ond nid wyf yn gwybod faint yn is y gallaf fynd.

"Fe ddylen nhw fod wedi rhoi o leiaf ychydig fisoedd i ni baratoi ar gyfer hyn - byddwn i wedi bod yn fwy parod i helpu fy hun a fy mhlant."

Dywedodd yr elusen fod gan Nadia incwm o rhwng 拢120-125 yr wythnos.

Roedd y talebau a ddarperir gan y cynllun bob pythefnos - gwerth 拢20 y plentyn neu 拢40 yn ystod misoedd yr haf - yn "gynnydd cymharol sylweddol" yn incwm Nadia, meddai'r llythyr.

'Bywyd yn anoddach'

Dywedodd Sarah Taylor, sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf ac sydd 芒 thair merch, ei bod yn dibynnu ar fudd-daliadau oherwydd afiechyd.

Dywedodd fod colli y taliadau prydau ysgol am ddim dros y gwyliau wedi "gwneud bywyd yn anoddach".

Dywedodd Ms Taylor, nad yw'n rhan o'r camau cyfreithiol, fod y penderfyniad yn golygu bod llai o arian i'w wario ar ddiwrnodau allan a gweithgareddau i'w phlant, a'i bod yn gwario'r arian parod sydd ganddi i dalu biliau cyfleustodau cynyddol y mae ganddi 么l-ddyledion amdanynt.

Dywedodd Ms Taylor mai ychydig iawn o rybudd oedd bod y taliad yn dod i ben - dywedodd iddi ddarganfod drwy neges gan un o ysgolion ei phlant ar 10 Gorffennaf.

Galwodd y penderfyniad i ddileu'r taliadau yn "erchyll".

"Alla i ddim deall pam y gwnaethon nhw ddileu'r achubiaeth honno ar hyn o bryd. Dyma'r amser gwaethaf," meddai.

Mae cyfreithwyr PLP yn anghytuno 芒 honiad Llywodraeth Cymru sef eu bod wedi penderfynu ym mis Mawrth, pan gafodd y cynllun ei ymestyn hyd at ddiwedd gwyliau hanner tymor mis Mai yn unig.

Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, dywedodd PLP nad oedd unrhyw gyhoeddiad wedi'i wneud nac arwydd mai dyma'r estyniad olaf i'r cynllun.

Clywodd cynghorau yn bendant ar 28 Mehefin na fyddai cyllid dros y gwyliau, ar 么l i swyddogion "archwilio'n llawn" opsiynau ar gyfer ariannu estyniad pellach.

Mae'r llythyr, sy'n rhybuddio am gais posib am adolygiad barnwrol, yn dweud nad oes tystiolaeth bod gweinidogion wedi cydymffurfio'n ddigonol 芒'u dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

'Pobl fregus'

Dywedodd cyfreithiwr y PLP Matthew Court: "Mae'n rhaid i bob llywodraeth weithiau wneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd, yn enwedig pan fo adnoddau'n brin.

"Ond y cwestiwn yw, a ddylen nhw wneud hynny heb ystyried yr effaith ar bobl fregus, yn enwedig pan fo hynny'n golygu cael gwared ar wasanaeth sy'n hanfodol i sicrhau bod plant yn cael eu bwydo'n iawn?"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae llythyr cyn-gweithredu yn amlinellu adolygiad barnwrol arfaethedig wedi dod i law mewn perthynas 芒 darparu prydau ysgol am ddim dros wyliau'r ysgol.

"Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu hymateb."

Pynciau cysylltiedig