91热爆

Prydau ysgol dros yr haf: 'Dim arian i barhau' medd Drakeford

  • Cyhoeddwyd
bwydFfynhonnell y llun, Getty Images

Does dim arian i barhau i gynnig prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud.

Mae arweinydd Llafur Cymru dan bwysau o fewn ei blaid ei hun i barhau y cynllun.

Wrth siarad 芒'r 91热爆, dywedodd Mr Drakeford eu bod "bob amser wedi dweud" y byddai'n rhaid i'r cynllun ddod i ben "n么l yn ystod hanner tymor y Sulgwyn, oherwydd daeth y cyllid yr ydym wedi gallu ei ddefnyddio ar ei gyfer i ben - does dim arian at y diben hwn".

"Ni fyddai'r un gweinidog Llafur nac aelod o'r meinciau cefn ddim eisiau gallu ymestyn ymhellach gynllun yr oeddem yn gallu ei gyflwyno yn ystod amgylchiadau argyfwng Covid."

Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru mai tua 拢15m fyddai cost prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf.

'拢900m yn llai'

Ond dywedodd Mr Drakeford fod cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth "拢900m yn llai na'r hyn oedd yn werth ym mis Hydref 2021".

"Y frwydr sy'n wynebu Llywodraeth Cymru eleni a'r flwyddyn nesaf fydd parhau i fforddio'r pethau rydyn ni'n eu gwneud yn barod.

"Yn syml, does dim arian i wneud pethau ychwanegol drosodd a throsodd."

Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r cynllun "bwyd a hwyl" ar gyfer gwyliau'r haf.

Yr oedd yn darparu prydau mewn 139 o ysgolion yn 2022.

Ddydd Mercher, fe wnaeth rhai o wleidyddion Llafur Cymru, yn ogystal ag aelodau Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig, fynegi siom ynghylch y cyhoeddiad.