91热爆

Prydau ysgol am ddim wedi dod i ben dros wyliau'r ysgol

  • Cyhoeddwyd
Pryd ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn dros wyliau'r ysgol, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau.

Daw ar 么l i Gyngor Caerffili gyhoeddi y bydd yn defnyddio ei gronfeydd wrth gefn i fwydo'r plant mwyaf bregus dros wyliau'r haf.

Roedd Mr Drakeford yn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Senedd Caerffili Hefin David yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Galwodd Mr David ar gynghorau eraill i ystyried dilyn esiampl yr awdurdod lleol, a gofynnodd hefyd a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ariannu'r cynllun ledled Cymru, fel y gwnaeth y llynedd.

'Cefnogaeth'

Yn 么l Mr Drakeford mae llawer o gynlluniau ar gael i helpu plant dros y gwyliau, sy'n darparu cyfleoedd o ran bwyd a chwarae, gan gynnwys gan grwpiau ffydd, yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd y prif weinidog: "Er nad ydym wedi gallu gwneud mwy nag yr oeddem wedi addo ei wneud yn wreiddiol mewn perthynas 芒 chinio ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, nid yw hynny'n golygu nad oes cefnogaeth yno i bobl ifanc sydd ei angen."

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymestyn y cynllun prydau ysgol am ddim i wyliau'r haf yn flaenorol oherwydd "tanwariant" yn y gyllideb, "sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio" gyda Phlaid Cymru, yn 么l Mr Drakeford.

Ychwanegodd, er "nad oes unrhyw danwariant ar 么l yn y gyllideb honno i'w ddefnyddio at y diben hwnnw", fod y llywodraeth "bob amser yn cael trafodaethau" gyda Phlaid Cymru i ddod o hyd i'r ffordd orau o ddefnyddio'r gyllideb sydd ar gael iddynt.

'Siomedig'

Ymatebodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams AS: "Mae Plaid Cymru yn falch o fod wedi cefnogi ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol ar sawl achlysur ac wedi ymgyrchu'n hir ar y mater hwn. Ni chymerwyd y penderfyniad diweddar i atal darpariaeth gwyliau fel rhan o'r cytundeb".

Ychwanegodd: "Roedd y penderfyniad i dorri cymorth prydau ysgol am ddim i blant cymwys dros wyliau'r haf heb rybudd ymlaen llaw yn siomedig ac mae wedi gadael ychydig iawn o amser i rieni gynllunio ymlaen llaw wrth iddynt ei chael yn anodd gwneud trefniadau eraill neu gynilo i dalu'r costau eu hunain."