Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwasanaeth Tân: 'Dim dewis hawdd' i arbed arian
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, Gohebydd 91Èȱ¬ Cymru
Mae ymdrechion i geisio cryfhau'r gwasanaeth tân mewn rhai ardaloedd o'r gogledd yn debygol o olygu lleihau'r ddarpariaeth mewn ardaloedd eraill, o dan opsiynau fydd yn cael eu cyflwyno i'r cyhoedd.
Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru eisiau gwella'r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, ond hefyd eisiau gwneud arbedion ariannol.
Maen nhw felly am ymgynghori ar dri dewis posib sy'n cynnwys lleihau'r ddarpariaeth yng ngorsafoedd Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy.
Mae'r awdurdod yn dweud nad oes unrhyw opsiwn "hawdd".
Yn ôl adroddiad gafodd ei drafod ddydd Llun, mae'r gwasanaeth tân wedi wynebu heriau wrth staffio'r 36 o orsafoedd sy'n dibynnu ar ddiffoddwyr tân ar alwad.
Oherwydd prinder arian, mae'r awdurdod yn ceisio ymateb drwy newid y ddarpariaeth ar draws y gogledd.
Beth ydy'r opsiynau?
Yr opsiwn cyntaf yn yr ymgynghoriad fydd staffio tair gorsaf o'r newydd yn y dydd - Corwen, Dolgellau a Phorthmadog.
Byddai hyn yn digwydd trwy symud diffoddwyr tân o orsafoedd Rhyl a Glannau Dyfrdwy, sydd ar hyn o bryd â swyddogion ar ddyletswydd yno 24 awr y dydd.
Ond fel rhan o'r opsiwn yma byddai'r ddwy orsaf hynny yn cael eu staffio ystod y dydd yn unig, gyda'r diffoddwyr ar ddyletswydd gartref yn y nos - fel sy'n digwydd ym Mae Colwyn, Llandudno, Bangor, Caernarfon a Chaergybi.
Yr ail opsiwn yn yr ymgynghoriad fyddai staffio'r tair gorsaf ychwanegol trwy wneud gorsafoedd y Rhyl a Glannau Dyfrdwy yn ddibynnol ar ddiffoddwyr ar alwad yn y nos a symud un injan dân o Wrecsam.
Byddai'n golygu arbedion o £1.1m ond yn arwain at gael gwared â 22 o swyddi diffoddwyr llawn amser.
Mae'r trydydd opsiwn yn debyg i opsiwn dau, ond dwy orsaf ychwanegol yn unig fyddai'n cael eu staffio yn y dydd, a byddai pum gorsaf sy'n ddibynnol ar ddiffoddwyr ar alwad - yn Abersoch, Biwmares, Llanberis, Conwy a Cherrigydrudion - yn cau.
Byddai hyn yn golygu arbedion ariannol o £2.4m, ond colli 36 o ddiffoddwyr llawn amser a 38 o ddiffoddwyr ar alwad.
Dim cefnogaeth gan y prif swyddog
Mae'r adroddiad i'r Awdurdod ddydd Llun yn nodi nad oes gan opsiwn 3 "gefnogaeth broffesiynol" y Prif Swyddog Tân.
"Mae hyn oherwydd nad ydy'n gwella'r ddarpariaeth frys, gan olygu na fyddai'r gwasanaeth yn medru cyrraedd 2,087 o gartrefi o fewn 20 munud.
"Mae hefyd yn cael gwared â 74 o swyddi sy'n lleihau gallu'r gwasanaeth i ddelio ag unrhyw Ddigwyddiad Difrifol yn y dyfodol."
Bydd trigolion y gogledd yn cael mynegi barn ar y cynigion yma o ddydd Gwener, 21 Gorffennaf.
'Dim un dewis hawdd'
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, y Cynghorydd Dylan Rees, wrth 91Èȱ¬ Cymru ei fod yn "anhapus".
"Petai yna bres ar gael, fyddai dim rhaid i ni fynd lawr yr opsiwn yma."
"Dim ots pa ddewis 'dan ni'n gwneud, dydy o ddim yn un hawdd."
"Fel cynghorwyr yr awdurdod tân, sy'n cynrychioli ein cymunedau, 'den ni eisiau gwneud y peth iawn iddyn nhw."
"A dyna pam mae mor bwysig bod ni'n clywed ganddynt."
Bydd ymgynghoriad Awdurdod Tân ac Achub y Gogledd yn para tan 22 Medi.
Does dim dyddiad ar gyfer cyflwyno unrhyw newidiadau ond y gobaith yw y byddai unrhyw swyddi fydd yn cau yn digwydd yn naturiol dros gyfnod o ddwy flynedd.