91热爆

Bygythiad i 228 o swyddi t芒n y Gogledd

  • Cyhoeddwyd
tan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwasnaeth t芒n ac achub wedi gofyn am ymateb i'r syniadau

Fe allai dros 200 o ddiffoddwyr t芒n golli eu swyddi yn 么l Awdurdod T芒n ac Achub Gogledd Cymru.

Mae'r Awdurdod yn ymgynghori ar sut i wneud arbedion, ac mae dileu swyddi cymaint 芒 228 o ddiffoddwyr t芒n yn cael ei ystyried.

Hefyd maen nhw yn ystyried cau saith o orsafoedd yn y rhanbarth, a chael gwared ag un o'r ddwy injan d芒n yn Wrecsam.

Mae'r ddogfen drafod yn gofyn am sylwadau gan awdurdodau lleol yr ardal yn ogystal 芒'r cyhoedd, cyn iddyn nhw ddod i unrhyw benderfyniad.

'Pwysau ariannol'

Mewn datganiad dywedodd yr Awdurdod: "Mae pwysau ariannol ar wasanaethau cyhoeddus yn golygu bod angen gwneud penderfyniadau anodd yngl欧n 芒 chwrdd 芒 galwadau am wasanaethau gyda chyllidebau sydd yn crebachu."

Yn 么l yr Awdurdod un opsiwn arall fyddai gofyn i'r awdurdodau lleol yn yr ardal gynyddu eu lefelau cyllido er mwyn cynnal y lefel presennol o wasanaeth.

Byddai hyn yn costio rhwng 拢83,000 a 拢125,000 ychwanegol i bob cyngor sir yn y gogledd.

Mae disgwyl trafodaethau dwys rhwng penaethiaid y gwasanaeth t芒n a'r cynghorau sir yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd yr Awdurdod eu bod yn bwriadu cyhoeddi eu cynlluniau terfynol ar gyfer y gwasanaeth yn y gwanwyn.