'Mwy o wirfoddolwyr nag erioed' i Eisteddfod Pen Ll欧n
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen wedi cynnig gwirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol, medd swyddogion y brifwyl.
Cafodd porth gwirfoddoli Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd ei agor dair wythnos yn 么l, ac eisoes mae dros 1,350 o geisiadau am sesisiynau gwirfoddoli unigol wedi'u gwneud - nifer sy'n "torri pob record", medd datganiad.
Ymhlith y rhai sydd wedi bod yn gwirfoddoli fel rhan o d卯m yr Eisteddfod ers dechrau'r daith yn Ll欧n ac Eifionydd bron i bedair blynedd yn 么l mae Michael Strain, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd ei fod wedi bod yn annog pobl o bob cwr o'r dalgylch, a thu hwnt, i ddod i helpu yn ystod yr wythnos.
"Rydyn ni wedi gwirioni gyda'r ymateb i'r ap锚l am wirfoddolwyr i ddod atom i Foduan ym mis Awst, ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cynnig dod i helpu ar hyd a lled y Maes," meddai.
"Mae denu gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o genadwri'r Eisteddfod yn flynyddol, ac rydw i mor falch o weld bod cynifer o bobl leol wedi ymuno 芒'r t卯m, gyda nifer fawr ohonyn nhw'n cynnig helpu am y tro cyntaf.
"Eleni yw ein cyfle ni i gynnal ein g诺yl genedlaethol yn Ll欧n ac Eifionydd, ac rydw i mor falch y bydd 'na gymaint o drigolion lleol yn gwirfoddoli o amgylch y Maes i gynnig croeso cynnes ac unigryw ein hardal ni i bawb."
Yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion y llynedd fe wnaeth un o brif stiwardiaid yr Eisteddfod alw am "waed newydd" i stiwardio yn eisteddfodau'r dyfodol.
Mae Cledwyn Ashford o Gefn-y-bedd, Wrecsam, wedi bod yn gwirfoddoli fel un o Brif Stiwardiaid yr Eisteddfod ers 12 mlynedd.
Mae'n bwysig, meddai Mr Ashford, annog mwy o bobl ifanc i wirfoddoli er mwyn diogelu "traddodiad yr Eisteddfod".
Yn 么l Janet Mair Jones o Bencader, Sir G芒r a gafodd ei hurddo i'r Orsedd yn Nhregaron am ei gwaith fel stiward, mae'n brofiad arbennig.
Ychwanegodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, bod y cyfle i wirfoddoli yn y Gymraeg yn rhan bwysig o ap锚l yr 诺yl.
"Mae llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddibynnol ar gefnogaeth a chymorth llu o wirfoddolwyr, nid yn unig yn ystod yr wythnos ond drwy gydol y flwyddyn, wrth baratoi ar gyfer y Brifwyl, ac rydyn ni'n ddiolchgar i bawb sy'n rhan o'r t卯m," meddai.
"Mae'r ffaith fod nifer fawr o siaradwyr Cymraeg newydd yn defnyddio gwirfoddoli yn yr Eisteddfod fel cyfle i gael mwy o hyder i ddefnyddio ein hiaith yn gymunedol yn bwerus iawn, ac rydyn ni'n croesawu'r gwaith mae'r Eisteddfod yn ei wneud yn y maes hwn, yn lleol a chenedlaethol yn arw iawn.
"Rwy'n edrych ymlaen at gael sgwrsio gyda nifer o wirfoddolwyr ar y Maes ym Moduan ym mis Awst, a diolch i chi am gefnogi ein hiaith a'n diwylliant mewn ffordd mor ymarferol."
Yn 么l swyddogion yr Eisteddfod, mae sicrhau bod gwaddol gwirfoddoli ar ddiwedd yr Eisteddfod hefyd yn rhan bwysig o weledigaeth yr 诺yl.
Mae'r trefnwyr wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Menter Iaith Gwynedd dros y misoedd diwethaf ar brosiect 'Tyrd i Helpu', sy'n annog trigolion Gwynedd i wirfoddoli mewn pob math o weithgareddau Cymraeg ar hyd a lled y sir.
Maen nhw hefyd yn awyddus i atgoffa pobl bod yna gyfleoedd i wirfoddoli yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Rhondda Cynon Taf - fe fydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Aberd芒r ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan o 5-12 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
- Cyhoeddwyd6 Awst 2022
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022