91热爆

Agor pont newydd Bodefail mewn da bryd i'r Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Magi, y ferch sydd wedi enwi Pont Bodefail

Mae pont newydd sy'n cysylltu ardal Pwllheli gyda rhannau pwysig o Ben Ll欧n wedi agor yn swyddogol.

Fe gaeodd Pont Bodfal yn 2019 yn dilyn difrod sylweddol ar 么l i storm ansefydlogi sylfeini'r bont, a oedd yn cysylltu ardal Efailnewydd a Boduan.

Roedd 'na alw wedi bod i sicrhau bod pont newydd yn agor mewn pryd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd, sy'n cael ei chynnal ym Moduan ym mis Awst eleni.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, wedi buddsoddiad o fwy na 拢1.2m, mae pont newydd wedi ei hagor i draffig unwaith eto.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Disgybl ifanc, Magi - a enwodd Pont Bodefail - yn ei hagor yn swyddogol gyda'r cynghorydd, Anwen Davies

Mewn seremoni fore Mercher, daeth gwleidyddion, trigolion a chynrychiolwyr lleol ynghyd i dorri rhuban wrth nodi agoriad swyddogol Pont Bodefail.

Mae'r hen Bont Bodfal bellach wedi'i thrwsio, ac ar agor i gerddwyr a beicwyr.

Mae'r bont newydd wedi ei chodi ochr yn ochr 芒'r hen Bont Bodfal, a godwyd yn wreiddiol ym 1805.

Rhoddwyd cyfle i ddisgyblion lleol roi cynigion ymlaen i osod enw ar y bont newydd.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid cau Pont Bodfal ym mis Ionawr 2019 oherwydd difrod

Y bardd, Meirion MacIntyre Huws fuodd yn gweithio gydag ysgolion ac yn helpu i ddewis yr enw newydd.

"Mi ddaeth sawl enw i'r fei, un o'r rhai mwyaf poblogaidd oedd 'Pont o'r Diwedd!" meddai.

"Mi ddaru nhw gynnal cystadleuaeth yn yr ysgolion lleol ac o Ysgol Pentreuchaf ddoth yr enw newydd gan Magi.

"A Bodefail oedd yr enw - yn pontio ardal Boduan ac Efailnewydd - enw da iawn. Fydd yr enw yma am ganrifoedd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Fydd yr enw yma am ganrifoedd" dywedodd Meirion MacIntyre Huws

Ac i Magi o Ysgol Bentreuchaf, mi oedd hi'n ddiwrnod cyffrous.

"O'n i'n meddwl am y pentrefi bob ochr. 'Efail' am Efailnewydd a 'Bod' am Foduan," meddai.

"Dwi'n gyffrous a dwi'm yn gallu coelio.

"Roedd 'na lot o blant yn yr ysgol efo syniadau ac oeddan nhw'n dewis y pump gora'!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Dwi'm yn gallu coelio," meddai Magi

Ychwanegodd y cynghorydd lleol, Anwen Davies, ei bod yn "falch ofnadwy" fod y bont wedi'i hagor.

"Mae'n mynd i wneud gwahaniaeth mawr, mae'r hen bont yn gul ac wedi ei gwneud ar gyfer ceffyl a throl ond mae hon yn llif i ben draw Ll欧n!"

Barod am yr Eisteddfod

Dros gyfnod o bedair blynedd, mae cwynion wedi bod yn lleol fod y gwaith o atgyweirio'r hen bont a chodi'r bont newydd wedi bod yn araf.

Ond yn 么l y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, aelod cabinet Cyngor Gwynedd, mae sawl cam wedi bod wrth drefnu cyllid, codi pont dros dro, sefydlogi'r hen bont a chodi un newydd.

"Mae 'di cymryd amser hir," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Ni'n ddiolchgar iawn i bobl leol am eu hamynedd," dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

"Yn gyntaf roeddem yn gobeithio ella lledaenu'r bont sydd yma r诺an ond doedd hynny ddim yn opsiwn felly dyma hynny yn dal pethau'n 么l.

"Mae'n deg dweud bod ni'n ddiolchgar iawn i bobl leol am eu hamynedd tra bod y gwaith wedi bod yn mynd ymlaen.

"Dwi'n sicr neith o dipyn o wahaniaeth."

Bydd goleuadau traffig a pheth gwaith yn parhau ar y bont newydd am rhai wythnosau eto wrth i weithwyr orffen tacluso a gosod rhannau olaf y l么n.

Ond mae yna groeso'n lleol y bydd y bont a'r l么n wedi eu cwblhau erbyn cyfnod yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, sydd ychydig gaeau gerllaw.

"Beth well na phont newydd fel yr un yma i gario'r holl garafanau a thraffig at yr Eisteddfod - fydd o werth o - mae croeso i bawb!" ychwanegodd y Cynghorydd Anwen Davies.