Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cap cyntaf i Mason Grady wrth i Gymru enwi eu tî³¾ o'r diwedd
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi'r tî³¾ fydd yn wynebu Lloegr ddydd Sadwrn yn y Chwe Gwlad, yn dilyn ansicrwydd a fyddai'r gêm yn digwydd o gwbl.
Roedd y tî³¾ i fod ei gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, ond fe gafodd ei ohirio oherwydd "ansicrwydd" ynghylch cytundebau.
Mae'r prif hyfforddwr wedi gwneud naw newid ers y golled yn erbyn Yr Alban bythefnos yn ôl.
Bydd Mason Grady yn dechrau dros Gymru am y tro cyntaf, gan gymryd lle George North fel canolwr.
Datrys yr anghydfod
Roedd chwaraewyr Cymru wedi rhoi tan ddydd Mercher i Undeb Rygbi Cymru ddatrys yr anghyfgod, gan fygwth peidio chwarae.
Er nad yw union fanylion y datrysiad wedi ei gyhoeddi, fe wnaeth y capten, Ken Owens, gadarnhau brynhawn Mercher fod y gêm yn mynd yn ei blaen.
Dywedodd Owens fod y chwaraewyr wedi bod yn "broffesiynol iawn" dros y dyddiau diwethaf wrth i'r trafodaethau barhau a'u bod yn barod am y gêm ddydd Sadwrn.
Wrth siarad ar ôl cyhoeddi'r tî³¾, dywedodd Warren Gatland ei fod yn awyddus i "dynnu llinell" o dan yr anghydfod ac i ganolbwyntiau ar faterion ar y cae.
Roedd y prif hyfforddwr wedi gohirio enwi ei dî³¾ ddydd Mawrth, gan gydnabod fod y chwaraewyr wedi gofyn iddo wneud hynny rhag ofn na fyddai'r gêm yn mynd yn ei blaen.
"Gofynnwyd i mi gan y chwaraewyr i beidio ag enwi'r tî³¾ ddydd Mawrth, ac roedd hynny'n ymwneud â'u hamddiffyn nhw hefyd cymaint ag unrhyw beth arall," meddai Gatland.
"Pe bai'r gêm wedi cael ei gohirio ar ôl enwi'r 23, yna'n sydyn iawn mae'r chwaraewyr hynny dan y chwyddwydr a bron yn cael eu cyhuddo o ohirio'r gêm.
"Rwy'n gwybod beth fyddai'n digwydd ar ôl hynny. Rydych chi [y cyfryngau] yn mynd o gwmpas ac yn gofyn iddyn nhw a ydyn nhw am i'r gêm fynd yn ei blaen, ac mae'n bosib y byddan nhw'n cael eu hynysu.
"Felly roedd e i wneud gydag amddiffyn y chwaraewyr yn y garfan, nes i ni gael cadarnhad bod y gêm yn mynd yn ei blaen.
"Un o'r pethau eraill oedd, os edrychwch chi, mae pum chwaraewr o [glybiau yn] Lloegr yn rhan o'r 23.
"Roedd yn rhaid i ni wneud galwad ar hynny oherwydd pe na baen ni'n enwi'r tî³¾ ddydd Mawrth, neu ddim yn hysbysu eu clybiau eu bod nhw'n cymryd rhan, fe fydden nhw i gyd wedi gorfod mynd yn ôl i'w clybiau yn Lloegr ddydd Mawrth.
"Roedd hynny'n rhywbeth roedd yn rhaid ystyried a dadlau."
Y rheol 60 cap
Ychwanegodd Gatland nad oedd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau rhwng chwaraewyr a phenaethiaid Cymru ynglŷn â lleihau'r rheol 60 cap i 25.
Roedd yn golygu na fyddai rhywun sy'n chwarae i glwb y tu allan i Gymru yn cael ei ddewis i'r tî³¾ cenedlaethol os nad oedden nhw eisoes wedi ennill 60 o gapiau.
Ond fel cyfaddawd mae'r cap nawr wedi ei ostwng i 25.
"Pan gyflwynwyd y cap yn 2017, fe gafodd ei gyfeirio ato fel 'Rheol Gatland' am rhyw reswm," meddai.
"Pan ofynnwyd i mi am y peth, roeddwn i'n gallu gweld y manteision o helpu'r rhanbarthau a bod o fudd iddyn nhw.
"Roeddwn i eisiau 30, roedd y rhanbarthau eisiau 70 ac yn y diwedd roedd gennym ni 60.
"Roedd y chwaraewyr eisiau ei dynnu allan yn gyfan gwbl ac mae'r cyfaddawd i lawr i 25. Ond wnaethon nhw ddim gofyn i mi am y rhif yna o gwbl."
Y garfan
Ymhilth y newidiadau eraill yn y tî³¾ i wynebu Lloegr mae Owen Williams, fydd yn dechrau yng nghrys y maswr.
Wrth i Gatland aildrefnu'r strwythur ganol cae, bydd Joe Hawkins hefyd yn dechrau.
Bydd y cefnwr Leigh Halfpenny a'r asgellwr Louis Rees-Zammit yn dychwelyd am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth eleni yn dilyn anafiadau.
Tî³¾ Cymru: Halfpenny; Adams, Grady, Hawkins, Rees-Zammit; O Williams, T Williams; G Thomas, Owens (capten), Francis, Beard, AW Jones, Tshiunza, Tipuric, Faletau.
Eilyddion: Roberts, Carre, Lewis, Jenkins, Reffell, Hardy, Biggar, Tompkins.