Chwe Gwlad: Disgwyl penderfyniad ar g锚m Cymru-Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i benderfyniad gael ei wneud ddydd Mercher a fydd g锚m Cymru yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad yn mynd yn ei blaen.
Wrth i'r ffrae am gytundebau barhau, mae chwaraewyr rygbi Cymru wedi rhoi tan 22 Chwefror i Undeb Rygbi Cymru (URC) ddatrys yr anghydfod.
Maen nhw wedi bygwth gwrthod chwarae yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.
Dywedodd y sylwebydd rygbi, Gareth Charles y gallai gohirio neu ganslo'r g锚m fod yn "ddechrau diwedd" URC.
"Mae rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Cymru ar groesffordd," meddai ar raglen Dros Frecwast 91热爆 Radio Cymru fore Mercher.
"Mae delwedd Rygbi Cymru wedi cael ei sarnu fel ma'i dros y misoedd diwethaf, ond petai'r g锚m yma ddim yn cael ei chwarae, i mi dyma ddechrau diwedd Undeb Rygbi Cymru.
"Mae sylw'r byd rygbi arnyn nhw ac mae sylw'r byd yn gyffredinol arnyn nhw."
Wynebu colli 拢12m?
Hefyd ar y rhaglen rhybuddiodd Huw Jones - cyn-bennaeth Chwaraeon Cymru ac aelod o Ymddiriedolaeth Rygbi CF10, corff annibynnol sy'n cynrychioli clybiau Caerdydd - am yr oblygiadau ariannol os na fydd y g锚m yn cael ei chwarae.
"Ar y funud 'dan ni 'di gweld yr undeb yn colli rhyw 拢1.5m ar 么l diswyddo Wayne Pivac ac arwyddo Warren Gatland," meddai.
"Mi fyddan ni wedi colli arian ar 么l colli'r ddwy g锚m gyntaf o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad. Hefyd, 'w'rach y bydd URC yn cael dirwy gan bwyllgor y Chwe Gwlad os na fyddai'r g锚m yn mynd yn ei blaen.
"Felly byddai'n hawdd gweld ni'n colli rhywbeth fel 拢12m, yn hawdd, ac mae hynny yn mynd i effeithio ar bopeth, a fydd y g锚m yn cael ei rheoli, os ydan ni'n lwcus, gan fanc NatWest."
Ddydd Mawrth, fe ddywedodd Warren Gatland ei fod yn "hyderus" y bydd y g锚m yn mynd yn ei blaen ac y bydd "datrysiad" yn dilyn trafodaethau.
Roedd Gatland wedi gohirio cyhoeddi'r t卯m ar gyfer y g锚m oherwydd "diffyg eglurder y sefyllfa".
Ond dywedodd ei fod yn clywed "pethau positif" gan chwaraewyr a staff URC ynghylch parhau 芒'r g锚m ddydd Sadwrn.
Ar hyn o bryd, mae gan hyd at 70 o chwaraewyr yng Nghymru gytundebau sy'n dod i ben ddiwedd y tymor, ac felly dydyn nhw ddim yn gwybod a fydd ganddyn nhw swydd wedi mis Mehefin.
Mae URC yn dweud eu bod wrthi'n ffurfio cytundebau ariannol gyda'r pedwar rhanbarth - Y Dreigiau, Caerdydd, Gweilch a'r Scarlets.
Dechreuodd y trafodaethau ym mis Ionawr 2022, a rhoddodd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol s锚l bendith i gytundeb ariannol chwe blynedd rhwng URC a'r rhanbarthau fis Rhagfyr, ond dyw'r cytundeb ddim wedi'i arwyddo hyd yma.
Heb gytundeb cadarn dyw'r rhanbarthau ddim yn gallu ffurfio cytundebau gyda chwaraewyr - ac fe allai rhai fod yn ddi-waith mewn rhai misoedd.
Mae'r chwaraewyr hefyd yn galw am gynrychiolaeth mewn cyfarfodydd o'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) yn ogystal 芒 chael gwared ar y rheol 60 cap.
Mae hynny'n golygu na fydd rhywun sy'n chwarae i glwb y tu allan i Gymru yn cael ei ddewis i'r t卯m cenedlaethol os nad ydyw eisoes wedi ennill 60 o gapiau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023