91热爆

Rygbi: G锚m Cymru v Lloegr i fynd yn ei blaen ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
George North ac Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Bydd y g锚m Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr ddydd Sadwrn yn mynd yn ei blaen, yn dilyn trafodaethau pellach rhwng y chwaraewyr a phenaethiaid rygbi.

Roedd y chwaraewyr wedi rhoi tan 22 Chwefror i ddatrys materion yn ymwneud 芒 chytundebau, yn ogystal 芒 phryderon eraill.

Ond er nad yw manylion llawn y datrysiad terfynol wedi eu cadarnhau eto, dywedodd y capten Ken Owens y byddai'r chwaraewyr yn chwarae ddydd Sadwrn.

Roedd amcangyfrif y gallai peidio chwarae'r g锚m gostio tua 拢12m i Undeb Rygbi Cymru, gan olygu mwy fyth o drafferthion i sefydliad sydd eisoes wedi bod dan bwysau'n ddiweddar.

Disgrifiad,

Ken Owens: "Ni'n gwbl barod i chwarae yn erbyn Lloegr"

Trafodaethau drwy'r dydd

Wrth siarad y tu allan i Westy'r Fro brynhawn Mercher, dywedodd Owens fod y chwaraewyr wedi bod yn "broffesiynol iawn" dros y dyddiau diwethaf wrth i'r trafodaethau barhau.

"Mae'r bois wedi troi lan, wedi paratoi, a ni'n gwbl barod i chwarae ddydd Sadwrn yn erbyn Lloegr," meddai.

Ychwanegodd y capten ei bod hi'n "rhwystredig" fod yr anghydfod wedi mynd ymlaen mor hir, ond fod angen i'r chwaraewyr "wneud safiad" ac mai'r ffordd orau ymlaen oedd "gyda'n gilydd".

"Nid jyst y bois yng ngharfan Cymru sydd wedi cael eu heffeithio, weithiau mae pobl yn anghofio am y chwaraewyr rhanbarthol a'r chwaraewyr ifanc."

Ychwanegodd prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru (URC), Nigel Walker fod "sgyrsiau cadarn" wedi bod.

"Ddylai'r PRB ddim fod wedi rhoi nhw [y chwaraewyr] yn y safle yma," meddai.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cymru wedi colli dwy g锚m allan o ddwy yn y Chwe Gwlad hyd yma, yn erbyn Iwerddon a'r Alban

"Mae nifer o bethau nawr mewn lle er mwyn sicrhau bod y ddeialog yn parhau."

Bydd Warren Gatland nawr yn enwi ei d卯m ddydd Iau ar gyfer yr ornest - ar 么l gohirio cyhoeddiad ddydd Mawrth oherwydd yr ansicrwydd.

Datgelodd y prif hyfforddwr fod sesiwn ymarfer brynhawn ddydd Mawrth wedi cael ei chanslo, er mwyn gadael i chwaraewyr barhau gyda'r trafodaethau.

Cafwyd cyfarfod fore Mercher o'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB), sy'n rhedeg y g锚m broffesiynol yng Nghymru ac yn cynnwys cynrychiolwyr y pedwar rhanbarth - Caerdydd, y Gweilch, y Dreigiau a'r Scarlets.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y chwaraewyr wedi cyflwyno nifer o ofynion i benaethiaid rygbi

Yna fe wnaeth cadeirydd PRB, prif weithredwr URC Nigel Walker, a phenaethiaid y rhanbarthau, gyfarfod gyda dros 100 o chwaraewyr proffesiynol Cymru yng Ngwesty'r Fro, sef canolfan ymarfer t卯m Cymru.

Cafwyd cyfarfod pellach eto wedyn rhwng Walker, Wall, bwrdd URC, a'r capten Ken Owens.

Roedd y chwaraewyr yn galw am:

  • Gynrychiolaeth mewn cyfarfodydd o'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB);

  • Gael gwared ar y rheol 60 cap - sy'n golygu na fydd rhywun sy'n chwarae i glwb y tu allan i Gymru yn cael ei ddewis i'r t卯m cenedlaethol os nad ydyw eisoes wedi ennill 60 cap;

  • Gael gwared o'r syniad o gytundebau lle byddai 80% yn gyflog sefydlog ac 20% yn seiliedig ar fonysau.

Mae'r cyfaddawd sydd wedi ei gyrraedd bellach yn cynnwys gostwng y rheol 60 cap i 25.

Bydd chwaraewyr hefyd yn cael y dewis rhwng cytundeb sefydlog, neu un sy'n cynnwys rhywfaint o amrywiaeth.