Uchelgais i fod yn dîm merched lled-broffesiynol cyntaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr tîm pêl-droed merched Wrecsam yn dweud y gallai statws rhannol-broffesiynol fod yn "anhygoel" i gamp y merched yn y gogledd.
Yn gynharach yn y mis, fe gyhoeddodd y clwb y bydd eu tîm merched yn chwarae'n lled-broffesiynol y tymor nesaf - os ydyn nhw'n sicrhau dyrchafiad a thrwydded i chwarae ym mhrif gynghrair merched Cymru.
Ar hyn o bryd maen nhw ar frig yr Adran North, ac yn brwydro gyda Chei Connah am i orffen ar y brif a chyrraedd yr Adran Premier.
Roedd datblygu tîm y merched yn un o addewidion sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, pan ddaethant yn berchnogion y clwb yn 2021.
Torri tir newydd
Mae Lili Jones, sy'n 17, eisoes yn chwarae i'r tîm hŷn.
"'Den ni'n creu hanes bob dydd yma'n Wrecsam erbyn hyn," meddai.
"Os fyse hynny yn digwydd, fyse hynny'n anhygoel, nid yn unig i'r clwb, ond i ogledd Cymru i gyd rili.
"Mae merched yn chwarae mwy a mwy. Mae 'na fwy o dimau merched o gwmpas ar ddydd Sadwrn yn chwarae ar y caeau.
"A dim yr hogiau ydy o gyd erbyn hyn. Mae'r merched rili yn rhoi eu troed i fewn."
Mae Wrecsam ar hyn o bryd yn chwarae yng nghynghrair y gogledd Adran Genero, sef yr ail haen yng Nghymru.
Maen nhw ar fin rhoi cais am drwydded i chwarae yn yr haen uchaf, ac o gael honno - a'r mater bach o ennill dyrchafiad ar y cae - mi fydd y tîm yn chwarae'n lled-broffesiynol y tymor nesaf.
Os bydd hynny'n digwydd, nhw fydd y tîm rhannol-broffesiynol cyntaf yn y pyramid merched yng Nghymru.
Mae Siwan Williams yn chwarae i dîm merched dan-19 oed Wrecsam, ac yn dweud bod y newid yn anhygoel.
"Dwi'n meddwl bod y newyddion yma'n enfawr i blant ifanc yng ngogledd Cymru," meddai.
"Dwi wedi bod yn chwarae i Wrecsam ers blynyddoedd, ac mae gwybod bod 'na siawns cael gyrfa gyda'r clwb yn anhygoel.
"Dwi'n caru'r clwb yma efo bob dim, ac aros yma tan dwi'n hÅ·n, mae o'n freuddwyd yn dod yn wir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022