91Èȱ¬

‘Methu disgwyl i weld pêl-droed merched mewn 10 mlynedd’

  • Cyhoeddwyd
Merch ifanc yn chwarae pel-droedFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Wrth i dîm merched Cymru ailddechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd ar 8 Ebrill, myfyriwr newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, Alyssa Upton, sy'n edrych ar y gwelliannau diweddar i'r gamp - a'r gobaith i'r dyfodol.

Mae camau breision wedi eu cymryd i godi safon a chefnogaeth i'r gêm menywod ar ôl hanes hir o frwydro am gydnabyddiaeth, ond mae ffordd bell i fynd o hyd i gael cydraddoldeb yn ôl nifer.

Yn wreiddiol o'r Rhyl, mae Josie Smith yn chwarae i fenywod Everton dan 21 ac wedi ennill sawl cap dros Gymru.

"Mae'r stigma bod pêl-droed yn gêm dyn yn dechrau diflannu, ond mae 'na dal ffordd i fynd gyda rhywfaint o gasineb tuag at fenywod yn chwarae'r gêm," meddai.

"Mae'r nifer yn y timau merched yn cynyddu'n aruthrol - sy'n dda, ac mae safon y chwaraewyr yn gwella blwyddyn ar ôl blwyddyn oherwydd y cynnydd mewn timau a chwaraewyr."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Josie Smith, ar y chwith yn y cefn, gyda thîm Cymru dan 19 yn 2019

Un peth sydd wedi gwella yw bod gemau merched nawr yn cael eu darlledu trwy system ffrydio FA Player. Mae modd gwylio'r gemau yn fyw gydag uchafbwyntiau'r Uwch Gynghrair Merched a'r pencampwriaethau ar gael am ddim er mwyn cynyddu sylw i'r timau benywaidd.

Cyflog cyfartal neu gyfleoedd cyfartal?

Mae Josie, 19, yn dweud bod ffactorau ariannol yn arwain at anghyfartaledd mawr o ran addysg a hyfforddiant merched sy'n chwarae pêl-droed, ond tydi hi ddim yn credu fod angen cyflog cyfartal i holl chwaraewyr pêl-droed ar hyn o bryd.

Meddai: "Ni ddylai cyflog cyfartal ddigwydd eto mewn gwirionedd oherwydd dydy menywod ddim yn cyrraedd unrhyw le yn agos at y nifer o gefnogwyr fel y dynion, felly, yn lle hynny dylid buddsoddi'r arian fel bod yr amodau'n well i bawb a gobeithio dros amser bydd hynny'n cynyddu safon pêl-droed eto ac felly cynyddu gwylwyr a chefnogwyr."

Bydd gêm ragbrofol Cwpan y Byd Cymru v Ffrainc yn cael ei darlledu yn fyw o Barc y Scarlets ar Cymru Fyw nos Wener 8 Ebrill am 1945

Mae'r ffigurau moel yn dangos cynnydd. Mewn pum mlynedd mae nifer y merched sydd wedi cofrestru â chlybiau pêl-droed wedi codi 50% i 10,000 yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae hyn yn ddatblygiad positif, ond eto, mae dal yn ffigwr pitw o gymharu â sefyllfa gêm y bechgyn.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Sesiwn yn Llanelli wedi ei threfnu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i annog merched i chwarae'r gêm

Mae'r pandemig wedi effeithio ar gêm y merched, fel popeth arall, a gyda ffigurau yn dangos bod dwy ran o dair o ferched yn rhoi'r gorau i'r gêm erbyn iddyn nhw droi'n ddeunaw mae digon o waith i'w wneud.

Er hyn, mae Josie yn obeithiol am ddyfodol pêl-droed merched os ydi'r patrwm presennol yn parhau.

Meddai: "Mae'r 10 mlynedd diwethaf wedi gweld newidiadau anferth, a dwi methu disgwyl i weld be' fydd pêl-droed merched fel mewn 10 mlynedd eto.

"Dwi'n gobeithio gweld hyd yn oed mwy o fuddsoddiad, sylw yn y cyfryngau, hyd yn oed mwy o gemau'n cael eu dangos yn fyw, buddsoddiad mewn chwaraewyr a thimau, a gwell cyfleusterau i hyfforddi ar gyfer menywod."

Mae ymdrechion i geisio ehangu'r gêm ar gyfer menywod yn cynnwys buddsoddi mewn adnoddau ag amcanion strategaeth newydd #FelMerch sy'n ceisio ysbrydoli merched ifanc i chwarae'r gêm mewn system sy'n cefnogi merched.

Ffynhonnell y llun, John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr Cymru Gemma Grainger mewn digwyddiad yn Llangrannog y llynedd. Mae'r Gymdeithas Bêl-droed a'r Urdd yn cydweithio i hybu chwaraeon ymysg pobl ifanc a phlant, yn cynnwys annog merched i chwarae pêl-droed ac ymgyrch #FelMerch

Mae Dr Kerry Moore, sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn chwarae'r gêm ac yn rhan o bwyllgor clwb pêl-droed merched Cyncoed, Pontypridd. Mae hi'n ymfalchïo yn y gwelliannau diweddar, yn cynnwys sefydlu'r Uwch Gynghrair.

"Mae newidiadau mawr ym mhêl-droed menywod Cymru wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai.

"Rwy'n credu yn rhannol bod hynny oherwydd bod gan yr FAW (Cymdeithas Bêl-droed Cymru) ychydig mwy o arian nawr, a bod llwyddiant y dynion yn yr Ewros pan gyrhaeddon nhw'r rownd gynderfynol wedi cyfrannu at hyn.

"Ond rwy'n credu bod yna ewyllys gwirioneddol gan yr FAW i geisio gwella gêm y merched a gwella gêm menywod."

Ffynhonnell y llun, Omar Arnau
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm cenedlaethol yn hyfforddi yn Sbaen ar gyfer Cwpan Pintar yn gynharach yn 2022

Ond fel erioed yn hanes gêm y menywod, mae diffyg arian yn dal i amharu ar ei datblygiad.

Yn ôl Dr Kerry Moore mae'n anodd dibynnu ar wirfoddolwyr oherwydd bod rhaid i'r unigolion ddangos angerdd i fuddsoddi amser yn y gêm.

Yn aml iawn chwaraewyr neu rieni chwaraewyr sy'n cyfrannu o'u gwirfodd i gefnogi'r gêm "ond ni all hyn fod yn ddiddiwedd ac ni all barhau am byth".

Ychwanegodd: "Dydy gêm merched yng Nghymru ddim yn gynghrair broffesiynol, mae'n dibynnu ar waith gwirfoddolwyr - prin iawn yw'r swyddogaethau taledig, rydym yn erfyn am gael rhai swyddi cyflogedig - ac mae hynny'n dod o noddwyr."

Hefyd o ddiddordeb: