91热爆

Costau byw: 'Pres yn mynd cyn gyntad 芒 mae o'n cyrraedd'

  • Cyhoeddwyd
Iwan a Bev Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae'n arian ni gyd yn mynd dyddiau 'ma,' medd Iwan a Bev Jones o Ddinbych

Ar drothwy Datganiad yr Hydref ddydd Iau, mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi rhagor o doriadau i wariant cyhoeddus a chodi trethi.

Bydd hyn yn effeithio ar gyflogau a chyllidebau miliynau o bobl. Yn eu plith, mae teulu Iwan a Bev Jones sy'n byw mewn t欧 dwy ystafell ar stad Maes y Goron yn Ninbych efo'u plant.

Weldiwr llawn amser ydy Iwan, a Bev ei bartner yn gweithio mewn cegin ysgol.

"Mae pres yn mynd cyn gyntad 芒 mae o'n cyrraedd" meddai Iwan wrth siarad 芒 Newyddion S4C.

"Gas un diwrnod, 'letric diwrnod wedyn, gas eto diwrnod ar 么l diwrnod mae o jest yn mynd a mynd a mynd."

Maen nhw'n cael lwfans teulu a chredyd treth, ond maen nhw'n ei chael hi'n anodd.

Gydag Iwan yn cael ei gyflog ar brynhawniau Gwener "erbyn ddydd Sadwrn" meddai "mae o i gyd wedi mynd."

"Gen ti rent i'w dalu, gas, 'letric, car i redag. Mae popeth yn ddrud ddrud ddrud."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r teulu cyfan yn ymdrechu i gadw'r biliau lawr medd Bev Jones a'r mab Gwion, 14

Mae costau byw yn cynyddu, ond nid cyflogau, ac mae'r cwpwl yn teimlo'r esgid yn gwasgu.

"Tydan ni ddim yn s么n am geiniogau, mae'r prisiau yn codi llawer mwy na hynny," meddai Bev Jones.

"Mae o fel petai chi'n mynd i'r gwaith, ond wedyn sgen i'm syniad lle ma'r arian i gyd yn mynd."

Mesurydd talu-wrth-fynd sydd yn y t欧, ac mae'r cwpwl yn tybio eu bod nhw'n gwario dros 拢250 y mis.

'Diffodd y popty a phrynu llai o fwyd'

Yn ystod yr wythnos gyda'r cwpl yn y gwaith a'r plant yn yr ysgol, mae Iwan yn dweud eu bod nhw'n gwario tua 拢8 bob dydd ar nwy a thrydan, ond ar benwythnosau mae eu defnydd yn cynyddu.

"Mae yna fwy o fwyd yn cael ei fwyta, mae na fwy o 'letric, mae yna fwy o gas."

Fel teulu, roedden nhw'n arfer coginio llawer o fwyd cartref gan ddefnyddio llysiau ffres, ond maen nhw'n dweud gan fod prisiau bwyd ac ynni wedi codi gymaint, maen nhw wedi diffodd y popty yn gyfan gwbl.

Erbyn hyn, maen nhw'n dibynnu ar beiriant ffriwr aer, sy'n defnyddio llai o drydan i goginio bwydydd poeth ac mae pawb yn y t欧 yn trio arbed ynni.

"'Dan ni yn troi y golau off pan 'dan ni ddim mewn 'stafell" meddai Gwion, 14, "a 'dan ni'n cofio cau drysau er mwyn neud yn si诺r fod y llofftydd yn gynnes amser gwely."

Mae'r plant yn mynd i siopa bwyd efo'u rhieni, ond yn sylwi nad ydyn nhw yn cael prynu gymaint ag yr oedden nhw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Sioned, 12, ei bod yn sylwi bod llai o fagiau siopa yn cyrraedd bellach

"Oeddan ni yn cael fel pump neu bedwar o fagiau, rwan 'dan ni ond yn cael tri neu ddau," meddai Sioned, 12 oed.

Wrth i wleidyddion San Steffan fynd ati i gael trefn ar y cyfrifon, mae 'na deuluoedd yn trio gwneud yr un fath drwy Gymru.

"Mae isio iddyn nhw fod yn yr un sefyllfa 芒 ni, mae isio nhw ddwad lawr i'r gwaelod atan ni. Brass Tax a byw 'fatha ni. Ddim am wythnos. Ddim am couple of days, ond dod i fyw i fa'ma mewn ty 'fatha hwn, a trio copio efo cyn lleiad o bres a gweld pa mor anodd ydy hi," ychwanegodd Iwan.

"Does na'm pwynt codi ffrae, does na'm pwynt gwylltio. Does 'na'm byd yn mynd i newid. Nawn nhw byth wrando arna' ni.

"Yr unig beth nawn nhw ydi brwshio ni dan y llawr, as long as bod nhw yn iawn yn y top. Maen nhw'n anghofio am y pobl bach 'fatha ni."