Dyled, blancedi a sbarion - realiti'r argyfwng costau byw
- Cyhoeddwyd
Bwyta sbarion, dewis blancedi dros gynnau'r gwres a defnyddio cwmn茂au credyd i dalu am anrhegion Nadolig - dyma realiti effaith y cynnydd mewn costau byw ar un teulu o Gaernarfon.
Mae Allison Edwards yn byw yn ei chartref ar gyrion stad Ysgubor Goch ers yn blentyn.
Erbyn hyn mae'n gartref iddi hi, ei phartner a'i phedwar o blant - llond t欧, sy'n golygu bod costau fel gwres a bwyd yn uchel, ac yn cynyddu.
"Da' ni wedi dechrau teimlo'r pinch," meddai Allison.
"Mae bwyd 'di mynd fyny. Pethau bach oedd yn treats i ni, fel Lucozade, mi oedd o arfer bod yn 拢2.
"'Naethon ni weld bob wythnos oeddan nhw'n cynyddu. Maen nhw jest yn 拢4 r诺an."
'Dwi'm yn gweld pethau'n gwella'
Mae torri ar eitemau a bwydydd sy'n cael eu hystyried yn bethau moethus yn hanes cyffredin i nifer o deuluoedd bellach.
Mae Allison hefyd yn ceisio gwneud arbedion drwy ddefnyddio siopau elusen wrth siopa am nwyddau i Esma, eu merch ieuengaf sy'n flwydd oed.
"Mae bob dim yn dod o'r charity shop, siop O Law I Law yng Nghaernarfon, ac mae hwnna wedi helpu lot, ond 'dio dal ddim i dd'eud bo' ni ddim yn stryglo braidd," meddai.
"Efo'r ffordd eith pethau r诺an, dwi'm yn gweld nhw'n gwella."
Fe benderfynodd Allison beidio 芒 dychwelyd i'r gwaith ar 么l ei chyfnod mamolaeth gydag Esma, gan ddweud fod yr arian maen nhw'n ei dderbyn drwy Gredyd Cynhwysol yr un faint 芒'i chyflog yn y gweithle, heb s么n wedyn am yr arian fyddai'n rhaid gwario ar ofal plant.
Mae'n dweud bod ei phartner, sy'n gweithio mewn siop leol, yn ennill cyflog da a bod hynny'n help mawr, ond mae'r sefyllfa dal yn heriol.
"Fatha heddiw, aethon ni i siopa. Troli bach, 'naeth o gostio jest i 拢200 ac oedd hynna yn amlwg efo clytia, bwyd i bawb," meddai.
"Dwi wedi meddwl mynd i'r banc bwyd ond dwi'n teimlo, mae 'na rai pobl lle dydi eu partner ddim yn gweithio ac maen nhw'n stryglo. Dwi'n teimlo'n unfair yn mynd yna fy hun.
"Gaethon ni fil electric few months yn 么l - 拢1,300 am dri mis, ac mae'n dechrau mynd yn oer r诺an a da' ni'n trio peidio rhoi'r heaters on.
"Dwi'n bwyta sgraps y plant, neu nai jest cael tost bach.
"Dwi ddim yn cael brecwast, nai sgipio cinio, dwi jest yn cael te so dwi'n teimlo wedyn mae'r plant yn cael be' ma' nhw eisiau a ddim yn colli allan ar y pethau syml mewn bywyd fel bwyd a gwres."
Mae'r straen sy'n dod ynghlwm 芒 phryderon ariannol yn enfawr, ac fel nifer mae Allison yn teimlo'r pwysau o geisio cydbwyso'r sefyllfa.
"Dwi 'di bod yn syffro efo anxiety ers months, ac mae hynna 'di mynd yn waeth," meddai.
Yn 么l Allison, mae ceisio gwarchod yr holl bryderon rhag y plant hefyd yn her.
"Ma'n anodd. Os dwi'm eisiau rhoi y gwres 'mlaen, fedrai roi dressing gown arnyn nhw a d'eud be' am noson fach cosy?
"Mae gyno ni flancedi, rhoi ffilm 'mlaen a pan ma' nhw'n dweud 'da ni'n oer', wel blanced arall."
Wrth edrych tua'r misoedd i ddod does dim ateb syml, meddai Allison, ond mae'r Nadolig bendant yn achos pryder.
"Dwi 'di gorffen efo'r rhai bach 'ma efo Dolig, ond dwi heb allu talu am bethau yn llawn," meddai.
"Dwi 'di gorfod iwsio stwff fel Zilch (cwmni talu fesul tipyn), ac mae hynny'n boen oherwydd dwi'n gwybod dwi'n gorfod talu nhw 'n么l ac mae'r prisiau wedi mynd yn manic - so y pres sydd gen i r诺an, mae o gyd yn mynd at y Nadolig.
"Dwi ddim isio iddyn nhw golli allan ond mae'n rhoi mwy o stress arna fi.
"Dwi'n mynd i fwy o ddyled, methu talu rhein i ffwrdd ac wedyn talu am fwyd, gas ac electric - y thought o betha'n mynd yn fwy, mae'n amser i rywun 'neud rhywbeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022