Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Streic yn achosi trafferthion i deithwyr trenau
Mae disgwyl i deithwyr trenau wynebu trafferthion yn ystod y dyddiau nesaf wrth i aelodau undeb weithredu'n ddiwydiannol.
Bydd nifer o newidiadau i'r amserlen arferol rhwng dydd Mercher a dydd Sul, a dydd Mercher fydd dim un tr锚n o gwmni Great Western Railway (GWR) yn teithio o dde Cymru i Loegr.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni GWR bod y streiciau yn "amharu" ar y trafodaethau ac "y byddai'n llawer gwell pe na fyddent yn digwydd".
Mae'r undebau mewn anghydfod gyda Llywodraeth y DU a chwmn茂au tr锚n.
Mae Network Rail, sydd berchen ac yn gweithredu'r rheilffyrdd, yn dweud bod angen eu moderneiddio ac maen nhw'n cynnig 8% o godiad cyflog i weithwyr yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Yn 么l ysgrifennydd cyffredinol undeb Aslef, Mick Whelan, mae cwmn茂au tr锚n yn dweud wrth "yrwyr trenau am gymryd gostyngiad yn eu cyflog".
"Gyda chwyddiant bellach yn 12.3% ac yn debygol o godi - mae'r cwmn茂au yn dweud wrth yrwyr am weithio cyn galeted a chyn hired am dipyn llai o arian," meddai.
Mae disgwyl i deithwyr wynebu trafferthion ar y dyddiau canlynol:
Dydd Mercher, 5 Hydref
Yn sgil streic gan undeb Aslef fydd 'na ddim trenau GWR rhwng Cymru a Lloegr.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu amserlen arferol ond mae disgwyl trafferthion yn sgil y gweithredu ac maen nhw'n rhybuddio teithwyr rhai siwrneiau i deithio ond os oes rhaid - gan gynnwys y daith rhwng Caerfyrddin a Chasnewydd.
Mae disgwyl i'r teithiau tr锚n rhwng Amwythig ac Wolverhampton, Caerdydd a Cheltenham a rhwng Caer a Chaergybi fod yn brysur.
Mae'r ffaith fod gorsaf Birmingham New Street ar gau yn golygu y bydd y gwasanaethau rhwng gogledd Cymru a Birmingham International yn dod i ben yn Wolverhampton.
Dydd Iau, 6 Hydref a Gwener, 7 Hydref
Bydd gweithredu diwydiannol gan undeb TSSA ddydd Iau hefyd yn cael effaith ar deithiau ddydd Gwener - ac ychydig iawn o wasanaethau GWR fydd yn weithredol.
Ddydd Iau bydd y trenau yn cychwyn am 07:30 ac yn gorffen am 19:00 - mae hynny yn cynnwys y teithiau o Paddington yn Llundain i Abertawe.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio y byddant yn brysur iawn o ganlyniad.
Sadwrn, 8 Hydref
Ddydd Sadwrn bydd aelodau undeb yr RMT, yn eu plith signalwyr, ar streic.
Mae disgwyl i'r gweithredu effeithio ar nifer o wasanaethau gan fod gweithwyr Network Rail yn aelodau o'r undeb.
Bydd gwasanaethau cwmni GWR yn cychwyn am 07:30 ac yn gorffen cyn 18:30 - gwasanaeth cyfyngedig iawn fydd yna rhwng Llundain a Chaerdydd a rhwng Caerdydd a Chaerfaddon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog teithwyr i beidio teithio ar dr锚n os yn bosib.
Dim ond rhai o drenau Cledrau'r Cymoedd fydd yn weithredol ac fe fydd un tr锚n yn teithio rhwng Caerdydd a Chasnewydd bob awr rhwng 07:30 a 18:30.
Fydd na'r un arall o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn weithredol yng Nghymru na'r Gororau.
Sul, 9 Hydref
Er bod disgwyl i drenau deithio fel arfer mae cwmni GWR yn rhybuddio y bydd rhai trenau yn cychwyn yn hwyrach nag arfer yn sgil effeithiau gweithredu diwydiannol yn ystod y diwrnodau blaenorol.
Fydd trenau Trafnidiaeth Cymru ddim yn gweithredu cyn 07:00 ac y mae disgwyl i wasanaethau fod yn brysurach nag arfer - yn enwedig y gwasanaethau cynharaf.