91热爆

Galw ar Lywodraeth y DU i osgoi streic reilffyrdd

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf drenau Bae Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dim ond dau lwybr tr锚n fydd yn weithredol yng Nghymru ar ddiwrnodau'r streic sef 21, 23 a 25 Mehefin

Nid oes gan weithwyr rheilffordd sy'n bwriadu streicio "lawer o opsiynau", yn 么l un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jeremy Miles AS nad oes neb "eisiau gweld streiciau" ac anogodd Lywodraeth y DU i "gymryd pob cam" i atal y streiciau.

Mae gweinidog trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Grant Shapps, wedi cyhuddo'r undebau o "ymateb yn rhy fuan".

Dim ond dau lwybr tr锚n fydd yn weithredol yng Nghymru ar ddiwrnodau'r streic sef 21, 23 a 25 Mehefin.

Yn ystod y gweithredu bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cynnal gwasanaeth o Radyr, yng Nghaerdydd, i Dreherbert, Merthyr Tudful ac Aberd芒r.

Bydd gwasanaeth bws arall yn mynd 芒 theithwyr o Radyr i Gaerdydd Canolog.

Ffynhonnell y llun, Construction Photography/Avalon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y streic yn effeithio ar wasanaethau ar draws Cymru, gan gynnwys Bangor

Llwybr Caerdydd i Dwnnel Hafren Great Western Railway (GWR) yw'r unig wasanaeth arall fydd yn weithredol.

Ffrae undebau a Network Rail

Er nad yw Trafnidiaeth Cymru mewn anghydfod ag Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT), ni fydd y cwmni yn gallu rhedeg y mwyafrif helaeth o'i wasanaethau oherwydd bod staff Network Rail yn gweithio fel signalwyr ar y trac.

Mae Network Rail, sy'n gyfrifoldeb llywodraeth y DU, yn bwriadu torri 2,500 o swyddi cynnal a chadw wrth iddyn nhw geisio gwneud 拢2bn o arbedion dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd yr RMT bod y swyddi yn hollbwysig o ran diogelwch, ac y bydd eu torri yn gwneud damweiniau yn fwy tebygol.

Ond mae Network Rail yn dweud na fyddai'n ystyried unrhyw newidiadau fyddai'n gwneud y rheilffyrdd yn llai diogel a bod angen eu moderneiddio.

'Nid oes gan bobl lawer o opsiynau'

Wrth siarad ar raglen Politics Wales dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, fod Llywodraeth Cymru yn "amlwg yn falch" nad yw staff Trafnidiaeth Cymru yn streicio.

Dywedodd: "Yn amlwg bydd y streiciau mewn mannau eraill yn cael effaith sylweddol yng Nghymru ac rydym yn gofyn i lywodraeth y DU wneud popeth i osgoi'r aflonyddwch hwnnw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jeremy Miles: 'Does neb eisiau gweld streiciau, dim hyd yn oed yr undebau, ond mae angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy nawr'

"Pan fydd pobl yn cael eu rhoi yn y fath sefyllfa gan lywodraeth y DU, nid oes gan bobl lawer o opsiynau.

"Does neb eisiau gweld streiciau, dim hyd yn oed yr undebau, ond mae angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy nawr," ychwanegodd.

Dywedodd cynrychiolydd yr RMT a llywydd TUC Cymru, Brendan Kelly, wrth Politics Wales fod ei undeb "ar gael 24/7 ar gyfer trafodaethau cynhyrchiol ac ystyrlon."

Ychwanegodd Mr Kelly: "Yr hyn sydd wedi digwydd yw chwalfa yn y trafodaethau hynny oherwydd ni ddaeth Network Rail 芒 dim byd o sylwedd i'r bwrdd.

"Mae gennym ni berthynas llawer gwell gyda Llywodraeth Cymru, a llawer gwell perthynas gyda Thrafnidiaeth Cymru.

"Rydym yn cynyddu swyddi ar y rheilffyrdd ac mae yna ymrwymiad i beidio 芒 dileu swyddi'n orfodol... felly, mae'n ddewis gwleidyddol. Mae San Steffan wedi dewis gwneud y toriadau hyn."

Dywedodd hefyd y gallai "o bosib" streiciau pellach ddigwydd dros yr haf, wrth i undeb TSSA baratoi i gynnal pleidlais ymhlith 6,000 o staff Network Rail.

'Undebau yn sownd yn y gorffennol'

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Tom Giffard, wrth Politics Wales ei bod hi'n "anffodus iawn bod y streiciau hyn yn mynd yn eu blaenau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tom Giffard: 'Prin fod y trafodaethau wedi dechrau cyn i'r undebau ddechrau pleidleisio i streicio'

"Roedd Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth [llywodraeth y DU] yn dweud mai prin ddechrau oedd y trafodaethau cyn i'r undebau ddechrau pleidleisio i streicio... ac mai amseriad y streic hon yn sicrhau'r aflonyddwch mwyaf posib," meddai.

"Nid yw'n ymwneud yn gymaint 芒 thoriadau, mae'n ymwneud 芒 newid y ffordd y mae system reilffordd y DU yn gweithio.

"Felly, er enghraifft, mae yna fwth tocynnau a gweithredwyr sydd prin yn gwerthu tocyn ond mae ganddyn nhw staff llawn bob awr o'r dydd - mae'n debyg nad yw hynny'n realistig mewn oes lle mae pobl yn defnyddio apiau ar eu ffonau i brynu tocynnau.

"Yn anffodus, mae'r undebau jyst yn sownd yn y gorffennol ar y mater hwn."