Cyngor i osgoi teithio ar dr锚n ar ddyddiau streic
- Cyhoeddwyd
Mae Trafnidiaeth Cymru'n cynghori pobl i osgoi teithio ar drenau yn ystod tri diwrnod o weithredu diwydiannol, ac i ddisgwyl tarfu yn gyffredinol am wythnos gyfan.
Bydd aelodau undeb yr RMT ar streic ar ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn yn sgil anghydfod gyda Network Rail.
Fe wnaeth trafodaethau munud olaf i geisio datrys yr anghydfod fethu ddydd Llun, meddai'r RMT.
Mae'n golygu na fydd unrhyw wasanaethau o gwbl ar y dyddiau hynny ar draws gogledd Cymru nag yn ardal Abertawe.
Ond mae yna rybudd y bydd yna darfu hefyd ar y dyddiau cyn ac ar 么l y tri diwrnod o weithredu diwydiannol, yn arbennig ben bore, ac y bydd trenau fod "yn hynod o brysur drwy gydol yr wythnos".
Mae gweinidog Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles wedi galw ar Lywodraeth y DU i "gymryd pob cam" i atal y streiciau.
Mae gweinidog trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Grant Shapps, wedi cyhuddo'r undebau o "ymateb yn rhy fuan".
Pa wasanaethau fydd yn rhedeg?
Mae Trafnidiaeth Cymru yn "cynghori cwsmeriaid i ddim ond defnyddio'r tr锚n os yw hi'n hanfodol eu bod yn gwneud hynny ar 20, 22, 24 a 26 Mehefin, ac i beidio 芒 theithio o gwbl ar y tr锚n ar 21, 23 a 25 Mehefin".
Er nad oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r RMT, mae'r gweithredu diwydiannol yn golygu na fydd modd rhedeg gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.
Mae disgwyl mai dim ond tua 4,500 o bobl fydd yn gallu teithio ar draws Prydain, yn hytrach na'r 20,000 arferol.
Ni fydd Avanti West Coast yn cynnal unrhyw wasanaethau ar draws gogledd Cymru ar ddiwrnodau'r streic;
Yr unig wasanaethau a fydd yn rhedeg ar 21 a 23 Mehefin fydd gwasanaeth llai rhwng Radur a Threherbert, Aberd芒r a Merthyr Tudful, a bydd bysiau yn lle tr锚n rhwng Radur a Chaerdydd Canolog;
Ar 25 Mehefin, bydd yna lai fyth o wasanaethau rhwng Radur a Threherbert, Aberd芒r a Phontypridd, gyda bysiau yn lle trenau rhwng Radur a Chaerdydd Canolog, a rhwng Pontypridd a Merthyr Tudful. Mae hynny yn sgil gwaith sy'n parhau ar gyfer cynllun Metro De Cymru;
Bydd cwsmeriaid sydd 芒 thocynnau, nad sy'n docynnau tymor, ar gyfer teithio rhwng 21 a 25 Mehefin yn gallu eu defnyddio rhwng 20 a 27 Mehefin.
Mae'r cwmn茂au tr锚n yn dal yn cadarnhau eu hamserlenni ar gyfer y cyfnod dan sylw, ac yn cynghori teithwyr i gynllunio o flaen llaw.
Mae Avanti West Coast yn rhagweld mai ond tua 25% o'r gwasanaethau arferol fydd yn rhedeg ddydd Mawrth a dydd Iau, a tua 33% o amserlen arferol dyddiau Sadwrn ar 25 Mehefin.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Phil Whittingham bod y penderfyniad "siomedig" i fynd ar streic "yn gynamserol" a "bydd yn achosi gofid mawr i'n cwsmeriaid".
Mae'n rhybuddio bod trenau'n debygol o fod yn brysur iawn, gyda threnau'n stopio'n "llai aml, os o gwbl" mewn gorsafoedd, gan annog pobl i deithio ar ddyddiau gwahanol "neu hawlio ad-daliad llawn".
Ychwanegodd bod y cwmni'n "erfyn ar yr RMT i beidio 芒 pharhau gyda'r gweithredu diwydiannol ac i weithio gyda ni i ddiogelu dyfodol hirdymor i'r gwasanaeth rheilffordd".
Mae Colin Dayan yn gweithio mewn ysbyty, gan deithio ar y tr锚n o Fryste fel arfer.
"Fe fydd yn fy effeithio i dros y pedwar diwrnod nesa' felly bydd rhaid i mi yrru am ddau ddiwrnod a gweithio o gartre', os yw hynny'n bosib."
Penderfynodd Katie Vanstone deithio i'r gwaith ddydd Llun, gan obeithio osgoi'r streic yn ddiweddarach yn yr wythnos.
"Oedi ac anghyfleustra" fydd prif effaith y gweithredu iddi hi.
"Mae'r cwmni'n hoffi bod ni yn y swyddfa unwaith yr wythnos felly 'nes i feddwl gwneud hynny heddiw cyn bod gweddill y streics yn digwydd."
Dywedodd yr arbenigwr trafnidiaeth, yr Athro Stuart Cole o Brifysgol De Cymru: "Mae llwyth o bobl yn trafeili mewn i lefydd fel Caerdydd bob dydd - cymudwyr wrth gwrs. Fe fyddan nhw yn cael tipyn o drafferth os ydyn nhw yn gweithio mewn siop er enghraifft.
"Ond y lot o bobl sydd yn gweithio mewn swyddfeydd, maen nhw wedi bod yn gweithio o'r t欧 am ryw dair blynedd dros Covid, felly rwy'n rhagweld y bydd llwyth o gwmn茂au yn symud 'n么l at hwnna dros yr wythnosau nesaf.
"Mae'r cwmn茂au rheilffordd nawr yn 'neud mwy o arian a mwy o gwsmeriaid yn mynd fel twristiaid, ac nid cymudwyr. "Achos hynny bydd pobl sydd wedi bwcio, wedi penderfynu 'awn ni ar y tr锚n' nawr yn troi 'n么l i'w ceir nhw yn lle.
"Llefydd fel Sir Benfro, Yr Wyddfa, Eryri fydd yn cael yr effaith os yw pobl wedi bwcio ar y tr锚n."
'Mae'r cwmn茂au yn nwylo'r llywodraeth'
Ychwanegodd yr Athro Cole ei fod yn credu bod lle gan Lywodraeth y DU i atal y streiciau, er eu bod nhw yn dweud mai rhwng cyflogwyr a'r undebau y mae angen trafodaethau.
"Os yw hyn yn mynd i ddigwydd mis ar 么l mis tan y Nadolig, fel maen nhw yn siarad am, mae hynny really yn mynd i gael effaith ar y rheilffyrdd.
"Wrth gwrs, mae Mr Shapps yn dweud ei fod lan i gwmn茂au, ond mae'r cwmn茂au nawr yn nwylo'r llywodraeth ers Covid.
"Mae'r llywodraeth yn y peth yma yn gyfan gwbl ac mae lan iddyn nhw, y cwmn茂au a'r undebau i ddod i ryw fath o deal newydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2022