91热爆

Cynnydd arall mewn achosion o Covid-19 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
prawf

Mae achosion o Covid-19 yng Nghymru wedi cynyddu am yr ail wythnos yn olynol, yn 么l arolwg wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn yr wythnos ddiweddara, hyd at 20 Medi, roedd yna amcangyfrif bod 62,900 o bobl yng Nghymru wedi eu heintio, sy'n un o bob 50 o bobl (2.07% o'r boblogaeth).

Mae hynny'n cymharu 芒 39,700 yn yr wythnosau blaenorol, un o bob 75 o bobl.

Dyma'r ail wythnos o gynnydd ar 么l i'r achosion ostwng am ddeufis cyn hynny. Mae'n golygu bod lefelau'r haint ar ei huchaf ers canol mis Awst.

Ers i brofion eang ddod i ben, arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ydy'r mesur pwysicaf o lefelau'r feirws.

Mae'r amcangyfrif yng Nghymru yn is nag yn Yr Alban, lle mae'r patrwm yn aneglur, ond mae'n uwch nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

O edrych yn fanylach ar yr amcangyfrifon yng Nghymru, mae'r heintiadau ar eu huchaf ymysg pobl dros 80 oed, ac ar eu hisaf ymysg plant ifanc.

Ffigwr 'R' ar gynnydd

Yn y cyfamser, mae'r ffigwr 'R' - sy'n mesur atgynhyrchiad y feirws - ar gynnydd am y tro cyntaf ers dros fis.

Roedd wedi aros rhwng 0.7 a 1.1 drwy fis Awst a'r rhan fwyaf o fis Medi, ond mae bellach wedi codi ychydig i rhwng 0.8 ac 1.2.

Mae hynny'n awgrymu, am bob 10 person sydd 芒 Covid-19 yng Nghymru mae rhwng wyth a 12 arall yn cael eu heintio.

Mae nifer y cleifion ysbyty sydd 芒 Covid-19 hefyd yn cynyddu, ond mae 96% ohonyn nhw yn gleifion sy'n cael eu trin am gyflyrau eraill.

Ar gyfartaledd roedd 11 o gleifion mewn ysbytai yn cael eu trin yn bennaf am Covid-19 yn yr wythnos ddiwethaf.

Pynciau cysylltiedig