Seremoni i gyhoeddi'r Brenin Charles III yn swyddogol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Llywydd y Senedd, Elin Jones wedi mynychu seremoni Cyngor yr Esgyniad yn Llundain ddydd Sadwrn, wrth i'r Brenin Charles III gael ei gyhoeddi'n swyddogol fel Brenin.
Fe ddechreuodd seremoni'r proclamasiwn am 10:00, gyda'r proclamasiwn yn cael ei ddarllen ac yna'i arwyddo'n ffurfiol.
Yn dilyn hynny fe wnaeth y Brenin Charles III annerch Cyngor yr Esgyniad yn Ystafell yr Orsedd ym Mhalas St James, gan gyhoeddi marwolaeth ei "annwyl fam, y Frenhines".
"Fe wnaeth fy Mam roi esiampl o gariad gydol oes a gwasanaeth anhunanol," meddai.
"Roedd ei theyrnasiad yn ddigymar yn ei hirhoedledd ac ymroddiad. Hyd yn oed wrth i ni alaru, rydym yn diolch am y bywyd ffydlon hwn.
"Rwy'n ymwybodol iawn o'r etifeddiaeth ddofn ac o'r cyfrifoldebau a dyletswyddau dwys sydd nawr yn pasio i mi."
Fe wnaeth yr Arglwydd Lywydd Penny Mordaunt, oedd yn cadeirio'r seremoni, gadarnhau y bydd diwrnod angladd Brenhines Elizabeth II yn 诺yl y banc swyddogol, a hynny gyda s锚l bendith y Brenin.
Cafodd y proclamasiwn wedyn ei ddarllen am y tro cyntaf yn gyhoeddus am 11:00 o falconi Palas St James.
Ar draws y Deyrnas Unedig, mae baneri wedi bod yn cyhwfan yn llawn dros gyfnod y proclamasiwn ddydd Sadwrn, cyn dychwelyd i hanner mast ddydd Sul, wrth i'r cyfnod o alaru barhau.
Yng Nghastell Caerdydd bu gynau'n tanio saliwt i nodi'r proclamasiwn yn Llundain ddydd Sadwrn.
Fe fydd proclamasiwn swyddogol yng Nghastell Caerdydd ddydd Sul, am hanner dydd.
Cyn y seremoni, fe fydd milwyr o fataliwn y Cymry Brenhinol yn gorymdeithio o Neuadd y Ddinas i'r castell.
Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Cymru fod yn bresennol, ac fe fydd hyd at 2,000 o aelodau'r cyhoedd yn cael mynychu hefyd.
Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon yng Nghymru wedi eu canslo dros y penwythnos i ddangos parch i'r Frenhines Elizabeth II.
Bydd Llyfrau o Gydymdeimlad yn cael eu hagor yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru o 11:00, i roi cyfle i'r cyhoedd ysgrifennu neges o ddiolch.
Cyngor yr Esgyniad
Mae Cyngor yr Esgyniad yn draddodiad hynafol sy'n rhoi gwybod yn swyddogol am benodiad y Brenin newydd.
Mae seremoni Cyngor yr Esgyniad ym Mhalas St James yn cynnwys aelodau'r Cyfrin Gyngor - gr诺p o ASau presennol a blaenorol - ynghyd ag uwch gomisiynwyr y Gymanwlad, Arglwydd Faer Llundain a rhai gweision sifil.
Mae dwy ran i Gyngor yr Esgyniad.
Mae'r rhan cyntaf yn cynnwys aelodau'r Cyfrin Gyngor yn cyhoeddi'n swyddogol y sofran newydd heb bresenoldeb y Brenin.
Fe fydd yr ail ran o'r cyfarfod yn cynnwys y Brenin Charles yn tyngu llw, ac yn cwrdd yn swyddogol 芒'r Cyfrin Gyngor am y tro cyntaf.
Yn draddodiadol, mae'r proclamasiwn yn gyfres o wedd茂au a llwon sy'n canmol y Brenin neu Frenhines flaenorol, ac yn datgan cefnogaeth i'r Brenin newydd.
Fel gyda phob un o'r seremon茂au hyn, bydd sylw'n cael ei roi i'r hyn allai fod wedi cael ei addasu, ychwanegu neu ddiweddaru yn y proclamasiwn, fel arwydd o oes newydd.
Mae disgwyl i'r proclamasiwn gael ei ddarllen yng Nghymru ac mewn mannau eraill ar draws y Deyrnas Unedig am 12:00 ddydd Sul.
Bydd Aelodau'r Senedd hefyd yn cael eu galw yn 么l i dalu teyrngedau ddydd Sul, ond mae holl fusnes arall y Senedd wedi'i ohirio nes ar 么l y cyfnod o alaru cenedlaethol.
Ymhlith y rheiny oedd wedi ymgynnull yng Nghastell Caerdydd fore Sadwrn oedd Carys Roberts. Fe ddywedodd ei bod hi yno er mwyn "bod yn rhan o hanes".
"Mae'n rhywbeth mawr, mawr iawn sydd 'di digwydd," meddai.
"Ni'n teimlo'n eitha' trist, ni'n teimlo dros y teulu. Mae'r Frenhines wedi 'neud lot ar gyfer y wlad."
Wrth edrych ymlaen at esgyniad y Brenin Charles III i'r orsedd, ychwanegodd: "Jyst gobeithio 'neith e setlo mewn i'r r么l a gwneud beth sydd yn bwysig iddo fe ar gyfer y wlad hefyd."
Gohirio digwyddiadau
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu gohirio yn ystod cyfnod o alaru swyddogol yn dilyn marwolaeth y Frenhines.
Fore Sadwrn, fe wnaeth yr Arglwydd Lywydd Penny Mordaunt a oedd yn cadeirio'r seremoni gadarnhau y bydd diwrnod angladd Brenhines Elizabeth II yn 诺yl y banc swyddogol.
Daeth cadarnhad gan y 91热爆 bod noson olaf y Proms, oedd i fod i ddigwydd yn Llundain nos Sadwrn, wedi cael ei chanslo.
Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon wedi eu gohirio dros y penwythnos fel arwydd o barch.
Ni fydd gemau rygbi timau dros 18 oed yn cael eu chwarae o gwbl, ac mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi gohirio gemau ar bob lefel.
Ond bydd gemau rygbi plant yn cael eu cynnal.
Fe ddywedodd Undeb Rygbi Cymru: "Mae gan gemau plant o dan 18 oed a oedd wedi cael eu trefnu o flaen llaw ganiat芒d i barhau dros y penwythnos, ond mae gofyn i glybiau i arsylwi dwy funud o dawelwch cyn pob g锚m."
Mae gornest bocsio Lauren Price yn yr 02 yn Llundain hefyd wedi cael ei ohirio, yn dilyn penderfyniad i ganslo bob gornest dros y penwythnos.
Fe fydd cystadleuaeth Ironman Cymru yn Sir Benfro yn cael ei chynnal, ond mae'r gystadleuaeth ar gyfer plant ddydd Sadwrn wedi ei ohirio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022