System awyru i ddiogelu anifeiliaid yn y Sioe Fawr wrth ddisgwyl 30C
- Cyhoeddwyd
Bydd system awyru newydd i ddefaid yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn y Sioe Fawr wrth i drefnwyr geisio cadw anifeiliaid yn ddiogel yn ystod y tywydd poeth.
Mae'r sioe amaethyddol pedwar diwrnod yn dechrau yn Llanelwedd ddydd Llun, gyda'r ardal dan rybudd ambr gan y Swyddfa Dywydd - rhybudd i baratoi ar gyfer tywydd eithriadol o boeth.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai'r tymheredd gyrraedd 30C neu fwy.
Mae prif filfeddyg y sioe wedi dweud bod "pryderon penodol" am ddefaid yn y gwres a bod anifeiliaid yn dioddef "fel pobl - os nad yn waeth - mewn gwres mawr".
Dywedodd Mared Jones, pennaeth gweithrediadau'r Sioe Fawr bod cynlluniau i ddelio gyda'r tywydd, a'u bod yn edrych ymlaen at groesawu pobl i'r safle.
"Ry' ni yn monitro'r sefyllfa yn agos iawn ac mae gyda ni gynlluniau a chanllawiau mewn lle.
"Ry' ni wedi buddsoddi £50,000 mewn ffaniau mawr yn y sied ddefaid i 'neud siŵr fod popeth yn ddiogel.
"Hefyd mae canllawiau am ddigon o ddŵr, a bydd cyflenwad gan Dŵr Cymru."
'Cymrwch bwyll'
Ychwanegodd: "Dewch a fflasg gyda chi i topio lan â dŵr yn y gwres. Gwisgwch yn ddoeth… dewch a het a digon o eli haul.
"Mae digon o gysgod dan y coed ar y safle a digon o bebyll i fynd am gysgod. Felly'r peth pwysig yw i gymeryd pwyll… ond ar yr un pryd, mwynhewch."
Er y rhybudd, ychwanegodd fod y sioe yn gyfle i bobl ymlacio ac yn achlysur pwysig i bobl ac economi cefn gwlad.
"Ni'n gyffrous tu hwnt, dyma'r sioe amaethyddol fwyaf yn Ewrop ac mae'n bwysig iawn i economi cefn gwlad a hefyd i iechyd meddwl pobl.
"Mae pawb wedi cael eu cynhaeaf i mewn ac felly alla' pawb ddod i fwynhau eu hunain yma."
Cytunodd Dafydd Jones, prif filfeddyg y Sioe Fawr, bod y gwres yn bryder a bod Llanelwedd yn llygad y gwres pan mae'r tywydd yn dwym.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd: "Mae'n peri gofid. Ma'r rhagolygon yn swnio fel sa' hi'n mynd i fod yn boeth iawn, o bosib, ddydd Sul ar ei waethaf o be' 'dan ni'n weld ar hyn o bryd.
"Mae anifeiliaid yn dioddef fel pobl - os nad yn waeth - mewn gwres mawr a mewn lle fel y Sioe Fawr, mae 'na gymaint o anifeiliaid yno, mae'n peri gofid mawr y bydd anifeiliaid yn ei chael hi'n anodd ymdopi 'efo'r gwres."
Mae Ifan Beynon Thomas o'r Hendy ger Llanelli yn mynd â'i ddefaid Berrichon i'r sioe ddydd Sadwrn.
"Mae'n braf iawn bod 'nôl wedi cyfnod y pandemig," meddai wrth siarad â Cymru Fyw, "ond fi'n becso am y tywydd twym."
"Bydd cludo nhw lan yna yn iawn - mae 'da ni ddulliau addas o awyru ond mae mor bwysig bo nhw'n cael digon o awyru wedi cyrraedd.
"Fydd dŵr ddim yn broblem - ond mae'r awyru yn holl bwysig. Bydd angen tipyn o fans yn y sied.
"Does dim pwynt dangos defaid na sy'n teimlo yn iawn nac yn edrych yn iawn. Ni sydd â'r stoc fwyaf o ddefaid Berrichon yng Nghymru.
"Roedd y ddwy sioe ddiwethaf gawson ni yn eitha' twym - ond mae'n mynd i fod yn dwymach 'leni fi'n credu ac yn naturiol mae rhywun yn becso tamed bach."
Yn ôl yr RSPCA mae'n bwysig fod perchnogion anifeiliaid yn sicrhau fod ganddynt ddigonedd o ddŵr a chysgod yn ystod y tywydd poeth.
Dywedodd Sally Hyman, Cadeirydd Ymddiriedolwyr RSPCA Llys Nini, bod rhaid ystyried eu lles yn ofalus.
"Ry'n ni'n amlwg yn poeni am arddangos anifeiliaid mewn sioeau", meddai.
"Mae'r rhan fwyaf o berchnogion anifeiliaid yn gwybod, wrth gwrs, sut i drin anifeiliaid yn y tywydd twym - ac mae'n hanfodol bwysig eu bod yn cael eu cadw yn y cysgod ac yn cael digon o ddŵr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022