91热爆

Cadeirydd Cyngor y Sioe am bwysleisio cyfraniad merched

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nicola DaviesFfynhonnell y llun, Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Nicola Davies eisoes yn brif sylwebydd y Sioe, ac mae hi wedi bod yn is-gadeirydd y cyngor ers tair blynedd

Mae'r ddynes gyntaf i gael ei hethol yn gadeirydd Cyngor Cymdeithas Sioe Amaethyddol Cymru yn dweud bod ei phenodiad yn "gyfle i ddangos cymaint yw r么l menyw yng nghefn gwlad".

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd Nicola Davies ei bod yn gobeithio bod ei phenodiad yn gyfle i herio'r "ddelwedd" bod amaethyddiaeth yn faes i ddynion yn bennaf.

Ms Davies yw prif sylwebydd y Sioe ac mae hi wedi bod yn is-gadeirydd y cyngor ers tair blynedd.

"Mae Ms Davies yn ffigwr awdurdodol a galluog fydd yn llysgennad ardderchog i'r gymdeithas," meddai cadeirydd bwrdd y cyfarwyddwyr, John T Davies.

Ychwanegodd Ms Davies y bydd yn "blaenoriaethu a pharchu traddodiadau'r gymdeithas tra'n sicrhau eu bod yn berthnasol i'r Gymru fodern".

Dywedodd hefyd ei bod am geisio mynd i'r afael ag effaith y pandemig ar y gymdeithas wedi i'r Sioe Fawr gael ei chanslo yn 2020 a 2021.

Rhybuddiodd cadeirydd y bwrdd yn 2020 y gallai gymryd pum mlynedd i ddygymod 芒'r golled ariannol o ganslo'r Sioe.

Disgrifiad,

Nicola Davies sy'n s么n am yr heriau sy'n dod gyda'i swydd newydd fel Cadeirydd Cyngor y Sioe.

'Dewis naturiol'

Cafodd Ms Davies ei magu ar fferm Maes Mynach yng Nghribyn, Ceredigion.

"Mae'r teulu 'di bod yn aelodau oes, a finne 'di bod yn mynd i'r Sioe ers o'n i'n un fach iawn yn y pushchair gyda 'nhad a'n fam," meddai.

Mae ganddi atgofion "melys iawn o fod yn rhan o'r prif gylch - o fod gyda'n ffrindiau pan o'n i'n ifancach".

Heddiw, mae hi'n magu cobiau ac yn gyfieithydd.

Ffynhonnell y llun, Nicola Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nicola Davies ym Mhasiant Sir Ceredigion yn 1995 - y flwyddyn yr oedd y Cardis yn noddi'r sioe

Dywedodd Ms Davies nad yw hi "erioed" wedi teimlo unrhyw anfantais yn y gymdeithas am ei bod hi'n fenyw.

"Ond fi yn teimlo bod e'n gam da" ethol y ddynes gyntaf fel cadeirydd y cyngor, meddai.

"Mae'n gyfle i ddangos bo' ni'r menywod hefyd ar flaen y gad gyda'r gymdeithas."

Mae Ms Davies yn olynu David Lewis, sydd yn ymddeol ar 么l dros 40 mlynedd yn gweithio i'r gymdeithas.

Dywedodd John T Davies mai Ms Davies oedd y "dewis naturiol" ar gyfer y r么l.

"Mae hi wedi tyfu lan yn sioeau Cymru ac mae hi wedi rhoi gwasanaeth anhygoel i'r gymdeithas trwy ei hoes, fel arddangoswr, stiward, llysgennad, uwch-sylwebydd ac is-gadeirydd y cyngor," meddai.

'Cyfnod o newid'

Yn 么l Ms Davies, cafodd canslo'r sioeau yn sgil coronafeirws effaith gymdeithasol yn ogystal ag ariannol.

"Mae e 'di bod yn golled ariannol wrth gwrs, mae hynny'n amlwg ddigon," meddai.

"Ond mae colli digwyddiadau hefyd wedi cael cryn effaith ar gefn gwlad, ar yr aelod cyffredin - ar y ffermwr cyffredin.

"Mae e'n rhoi rhyw frig ar y flwyddyn i chi pan i chi'n gallu mynd yn gynta' i'r ffair wanwyn ac wedyn i'r sioe haf, mae'n dod 芒 phobl ynghyd."

Ffynhonnell y llun, Nicola Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nicola Davies yn dangos cobyn Cymreig yn y cylch yn y '90au

Ychwanegodd: "Roedd y bobl weles i yn y Sioe Aeaf, ga'th ei chynnal fis diwethaf, yn dangos gymaint o'dd angen i bobl ddod at ei gilydd i gael clonc a sgwrs.

"Dwi'n gobeithio bydd y sioe yn parhau i gynnig hynny i bobl mewn nifer o flynyddoedd i ddod."

Gyda'r prif weithredwr yn ymddeol wedi Sioe Fawr 2022, dywedodd Ms Davies ei bod hi wedi camu i'r r么l mewn "cyfnod o newid i'r gymdeithas".

"Felly mae'n gyfnod o newid, ond wrth gwrs rhaid i ni edrych arno fe fel cyfnod cyffrous hefyd yn hanes y gymdeithas," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig