Heintiadau Covid yn dal i godi, ond ar raddfa lai
- Cyhoeddwyd
Mae heintiadau Covid yn parhau i godi yng Nghymru, er gwelwyd llai o gynnydd na'r wythnos gynt.
Yn 么l arolwg swab wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, amcangyfrifir bod 68,500 o bobl 芒'r feirws yn yr wythnos hyd at 18 Mehefin.
Mae hyn yn cymharu 芒 64,800 yn yr wythnos flaenorol - sef 2.25% o'r boblogaeth, neu un o bob 45 person.
Yn ystod anterth ton Omicron ddechrau fis Ionawr, yr amcangyfrif oedd bod 169,100 o bobl wedi'u heintio.
Mae'r ffigyrau'n dangos fod lefel yr haint yn is yng Nghymru na gwledydd eraill y DU, a holl ranbarthau Lloegr ar wah芒n i'r gogledd-ddwyrain.
Mae'r heintiadau ychydig yn uwch ar gyfer pobl yn eu 30au ac ar eu hisaf ymysg y rhai dros 70 oed.
Cleifion yn yr ysbyty
Bu cynnydd diweddar yn nifer y cleifion 芒 Covid yn yr ysbyty, sy'n adlewyrchu'r cynnydd mewn heintiau cymunedol.
Ond ar gyfartaledd, yn ystod y saith diwrnod diwethaf, dim ond 28 o gleifion oedd mewn gwirionedd yn cael eu trin am Covid mewn ysbytai yng Nghymru, gyda thua 40% o gleifion 芒 Covid yn yr ysbyty wedi'i ddal tra roedden nhw yno.
Roedd cyfartaledd o wyth o bobl mewn gofal critigol gyda Covid - y nifer isaf ers mis Gorffennaf 2021.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022