Marwolaethau Covid ar ei lefel isaf ers naw mis
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y marwolaethau'n ymwneud 芒 Covid yng Nghymru wedi disgyn i'w lefel isaf ers naw mis, yn 么l ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yn yr wythnos ddiweddaraf, hyd at 20 Mai, bu farw 16 o bobl yng Nghymru gyda Covid-19 yn cael ei roi fel un o'r achosion ar y dystysgrif marwolaeth.
Cafodd chwe marwolaeth eu cofnodi ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi mewn wyth sir: Blaenau Gwent, Caerffili, Ceredigion, Gwynedd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Sir Benfro, a Bro Morgannwg.
Mae hyn yn dod 芒 chyfanswm y marwolaethau'n ymwneud 芒 Covid i 10,328 ers dechrau'r pandemig.
Un claf Covid i'r ysbyty mewn diwrnod
Ddydd Llun, fe aeth un claf oedd wedi profi'n bositif am Covid i'r ysbyty yng Nghymru - a hynny am ond yr ail dro ers dechrau'r pandemig.
Roedd y claf yn ardal Caerdydd a'r Fro, yn 么l ffigyrau diweddaraf Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Y tro ddiwethaf i un claf yn unig fynd i'r ysbyty hefo Covid mewn diwrnod oedd yn hwyr ym mis Mehefin 2021.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022
- Cyhoeddwyd17 Mai 2022