Holl gyfreithiau Covid Cymru yn dod i ben ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Ni fydd yn ofynnol yn 么l y gyfraith i wisgo mygydau yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru o ddydd Llun ymlaen.
Hon oedd y rheol olaf ar 么l yng nghyfraith coronafeirws y wlad, a fydd yn dod i ben yr un diwrnod.
Dywed gweinidogion bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus wedi parhau i wella dros yr wythnosau diwethaf.
Cymru oedd rhan olaf y DU gyda rheolau coronafeirws yn dal mewn grym.
Mae data arolwg diweddar wedi amcangyfrif bod lefelau Covid wedi parhau i ostwng, ac mae nifer y cleifion ysbyty sy'n profi'n bositif wedi lleihau.
Annog defnyddio mygydau
Bydd canllawiau yn parhau yn eu lle sy'n argymell yn gryf y defnydd o orchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd i helpu i amddiffyn y rhai mwyaf bregus.
Ychwanegodd undeb nyrsio RCN Cymru eu bod hefyd yn apelio ar bobl i barhau i wisgo mygydau mewn lleoliadau iechyd os ydyn nhw'n cael cais i wneud hynny.
Dyna gyngor Cymdeithas Feddygol y BMA hefyd er mwyn gwarchod pobl fwy bregus, fel yr eglurodd Dr Phil White ar raglen Dros Frecwast.
"Dydi Covid heb fynd o 'ma," meddai. "Mae 'na rhai achosion o gwmpas o hyd... bydden ni yn cynghori pobl, er bod y gyfraith ddim yna yn eich gorfodi chi i wisgo mwgwd, o ran edrych ar 么l pobl er'ill mi ddylech chi neud.
"Fydd hi'n anodd ca'l pobl i 'neud ond os 'dach chi'n defnyddio synnwyr cyffredin mae'n gam eitha' bychan i gymryd mewn llefydd cyfyng fel meddygfeydd ac ysbytai a chartrefi henoed.
"Os bydde 'na ryw amrywiolyn newydd o Covid yn codi, bydden ni mewn trafferthion os bydd pawb yn mynd o gwmpas heb fygyde yn y llefydd 'ma."
"Mae hwn yn sicr yn foment carreg filltir yn hanes Covid yng Nghymru - hwn oedd yr unig reol oedd dal ar 么l," meddai'r meddyg teulu, Dr Eilir Hughes ar Dros Frecwast.
Ond fe ychwanegodd "bod y datganiad yma wedi dal ni allan i fod yn onest, oedd yn syrpr茅is i ni".
Mae'n rhagweld angen cynnal "asesiad risg i bob adeilad i gychwyn" gan ystyried natur anhwylder cleifion sy'n ymweld 芒'r feddygfa, a phosibilrwydd "y gall polis茂au gwahaniaethau o feddygfa i feddygfa ysbyty i ysbyty, o fwrdd iechyd i fwrdd iechyd".
'Angen hyder i fynd n么l i normalrwydd'
Dywedodd Jayne Evans, rheolwraig Cartref Glyn Nest yng Nghastellnewydd Emlyn y bydd staff "yn falch iawn" o beidio gorfod gwisgo mygydau sydd wedi achosi "problemau cyfathrebu" ar adegau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ond "rhaid cofio fod y deiliad yn fregus iawn", meddai, a "bydd asesiad risg yn cael ei neud cyn tynnu nhw".
Ychwanegodd: "Mae angen hyder nawr i fynd n么l i normalrwydd - mae dwy flynedd yn gyfnod hir i fod dan y rheolau caled 'ma."
Yn 么l amcangyfrif diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddydd Gwener mae gan un o bob 55 o bobl yng Nghymru Covid - gostyngiad am chweched wythnos yn olynol.
Yn gynharach yr wythnos hon dangosodd ffigyrau bod nifer y derbyniadau Covid i ysbytai yng Nghymru ar gyfartaledd yn naw y dydd, y tro cyntaf iddynt fod mewn ffigurau sengl ers canol mis Gorffennaf y llynedd.
Yn cadarnhau'r newidiadau, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar fywydau pob un ohonom - mae pawb wedi aberthu cymaint, ac wedi gorfod gwneud newidiadau i'w bywydau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Ond diolch i'ch ymdrechion chi, gallwn symud y tu hwnt i'r ymateb argyfwng a byw'n ddiogel gyda'r feirws hwn.
"Hoffwn ddiolch i bawb am bopeth rydych wedi'i wneud i ddiogelu eich hunain a'ch anwyliaid. Rydych wedi dilyn y rheolau ac wedi diogelu Cymru."
Trin Covid fel 'salwch tymhorol'
Ychwanegodd yng nghynhadledd i'r wasg y llywodraeth brynhawn Gwener y bydd awdurdodau yn delio gyda Covid fel "unrhyw salwch tymhorol arall" o nawr ymlaen.
"Ond rydyn ni wedi dysgu dro ar 么l tro bod y feirws yma yn gallu ymddwyn mewn ffyrdd annisgwyl ac anrhagweladwy," meddai.
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru'n "barod i ailgyflwyno profi ac olrhain cysylltiadau" pe bai angen.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Russell George: "Rwyf wrth fy modd bod rhyddid llawn y Cymry wedi ei adfer o'r diwedd.
"Er ei bod wedi teimlo ein bod wedi dysgu byw gyda Covid ers rhai misoedd bellach, roedd cyfyngiadau parhaus ar ein rhyddid o hyd a dim ond eleni roedd gennym gyfyngiadau llym diolch i orymateb Llafur i Omicron.
"Nid yn unig y mae angen i ni gofio pawb a gollodd fywydau ac anwyliaid i gloeon clo a'r feirws ei hun, ond dysgu gwersi'r pandemig am sut y gallwn wrthsefyll un arall ac asesu effaith gosod cyfyngiadau brys llym ar ein poblogaeth.
"Ond ni fydd yr un ohonom byth yn cael yr atebion yr ydym yn eu haeddu heb yr ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru y mae pawb yn y wlad ei eisiau ar wah芒n i - nid yw'n syndod - y llywodraeth Lafur sy'n ofn craffu."
Yn y gynhadledd newyddion brynhawn Gwener, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn "hyderus" y bydd yr ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yn rhoi atebion i'r cyhoedd ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig.
'Nerfusrwydd ymhlith staff'
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "rhannu'r nerfusrwydd ymhlith staff iechyd proffesiynol ynghylch dileu'r angen i wisgo mygydau mewn lleoliadau iechyd a gofal, oherwydd bregusrwydd gymaint o bobl o fewn y sector".
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn "monitro'n ofalus iawn i ba raddau y bydd pobl yn dilyn y cyngor i barhau i'w gwisgo yn y lleoliadau hyn".
Mae profion llif unffordd yn parhau i fod ar gael yng Nghymru am ddim i bobl sydd 芒 symptomau tan fis Mehefin.
Cadarnhaodd Mr Drakeford bod gan Gymru stoc o 90m o'r profion ac mae penderfyniad eto i'w wneud a ddylid eu cynnig am ddim yn y gaeaf.
Ychwanegodd bod trafodaethau'r parhau gyda Llywodraeth San Steffan i weld a fydd cytundebau prynu rhagor o brofion llif unffordd yn digwydd ar ran y DU gyfan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2022
- Cyhoeddwyd23 Mai 2022
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2022