Dros 1,100 o ffoaduriaid Wcr谩in wedi cyrraedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae pobl o Gymru wedi agor eu cartrefi i dros 1,100 o ffoaduriaid o Wcr谩in, yn 么l y ffigyrau diweddaraf.
Mae ystadegau'r Swyddfa Gartref yn dangos bod 1,126 o ffoaduriaid wedi cyrraedd Cymru fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcr谩in.
Mae cyfanswm o 3,338 o fisas wedi'u darparu i ffoaduriaid o'r wlad sy'n ceisio cyrraedd Cymru.
Golyga bod 34% o'r bobl sydd wedi derbyn fisas wedi cyrraedd Cymru bellach.
Cadarnhaodd ffigyrau'r Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau hefyd bod 37,500 o fisas wedi'u cyhoeddi ledled Prydain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 Mai 2022