91热爆

Perchennog yn ystyried dyfodol Siop y Pethe yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Siop y PetheFfynhonnell y llun, Siop y Pethe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Ry'n ni wedi cael cyfnod hynod o anodd yn ddiweddar," medd y perchennog Aled Rees

"Mae'n gyfnod torcalonnus a does gen i ddim dewis ond ystyried dyfodol Siop y Pethe yn Aberystwyth," medd y perchennog Aled Rees.

Mewn cyfweliad emosiynol gyda Cymru Fyw dywedodd Mr Rees bod yna ddyddiau lle mae ond yn derbyn 拢18 y dydd yn y siop gan gwsmeriaid - ond bod y costau yn fawr ac yn codi.

"Dwi'n gorfod talu staff, wrth gwrs, ac mae yna lot fawr o gostau eraill gan bo' ni wedi cael benthyg arian i adnewyddu'r siop.

"Dwi angen 'neud 拢12,000 y mis yn wir er mwyn break even ond ers Covid does yna fawr o neb yn dod i'r siop. Ar ben hynny mae costau byw yn codi - pris trydan yn codi'n sylweddol.

"Mae'r cyfan yn gwasgu lot arna' i ac wrth gwrs dwi'n poeni am ddyfodol lle mor eiconig 芒 Siop y Pethe.

Pan brynais i'r lle ro'dd 'da fi gymaint o gynlluniau ond mae pob breuddwyd wedi'u chwalu," meddai.

'Anodd colli enw Siop y Pethe'

Ar y cyfryngau cymdeithasol nos Wener fe wnaeth Aled Rees rannu ei bryderon gan ofyn am syniadau.

"Dwi'n gwybod - mae e'n rhywbeth braidd yn rhyfedd i 'neud. Mae angen i bobl wybod yn iawn beth yw'r gwir sefyllfa a dwi'n awyddus i rannu fy mhrofiad.

"Fi'n gwybod nad fi yw'r unig un sy'n teimlo fel hyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwilym a Megan Tudur yn trosglwyddo'r siop i'r perchnogion newydd yn 2015

Yn ei neges, dywedodd: "Mae'r byd wedi newid! Busnes wedi newid! Mae'r stryd fawr wedi newid! Mae siopa wedi newid!

"Yn Siop y Pethe rydym yn gorfod edrych ar bethau o ddifri ar hyn o bryd i weld beth ddylen ni wneud yn barhaus gyda'r busnes.

"Roedd cymryd drosodd y siop a phrynu'r adeilad yn 2015 yn anrhydedd ac yn fraint! Fel y siop Gymraeg gyntaf erioed o'i bath, fel [sefydliad] parhaol yng nghanol Aberystwyth ers 1967 cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar ddyfodol y siop byddem yn gwerthfawrogi eich barn chi, ein cwsmeriaid ffyddlon, a'n cefnogwyr."

'Y gystadleuaeth yn fwy'

Wrth fanylu ar yr ochr ariannol ysgrifennodd: "Yn 2019 o 1af o Ionawr i 11fed o Fawrth gwnaeth y siop tua 拢20,000. Os cymerwch ein bod ni ar gyfartaledd yn [gwneud] elw o tua 35% byddai hyn yn gadael 拢7,000 i ni.

"Os ydych yn ystyried cyflogau staff, rhent (morgais), trethi a chyfleustodau, byddwn yn ffodus i gael unrhyw ran o'r elw ar 么l.

"Nawr ystyriwch y byd rydyn ni'n byw ynddo heddiw! Yr un dyddiadau eleni rydym wedi gwneud ychydig dros 拢8,000 drwy'r til. Mae costau'n cynyddu... Nid oes angen Einstein i sylweddoli beth mae hyn yn ei olygu."

Ffynhonnell y llun, Siop y Pethe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Dyw pobl ddim yn dod mewn i'r siop i edrych ar bethau ers Covid,' medd Aled Rees

Ychwanega'r neges: "Gall pethau newid wrth gwrs, gallai mwy o bobl ddod drwy'r drws wrth i bethau wella gyda'r pandemig, ond a fydd yn ddigon?

"Rydym yn ymwybodol o'r hyn y byddai hyn yn ei olygu i Aberystwyth ac mae ein calonnau'n dweud y dylem frwydro trwy bethau ac y gallai pethau wella.

"Ond ar 么l y ddwy flynedd waethaf i'r stryd fawr mae ein penaethiaid yn dweud na fydd pethau'n newid mor gyflym 芒 hynny.

"Rydym bellach yn cystadlu 芒 llawer mwy nag yr oeddem ddwy flynedd yn 么l. Mae'r ffordd y mae llawer o bobl yn siopa wedi newid. Nawr mae pobl yn prynu mwy ar-lein, Amazon, Etsy ac ati a hyd yn oed yn uniongyrchol gyda'n cyflenwyr - gan dorri'r dyn canol (ni'r siop) allan.

"Wrth gwrs, rydym hefyd yn deall bod arferion gwario wedi newid, a phrisiau/costau yn newid mewn byd sy'n newid yn barhaus.

"Deallwn fod yna flaenoriaethau eraill wrth wario a bod mwy a mwy yn gorfod 'gofalu am y ceiniogau'. Dyma ffordd y byd ac nid oes unrhyw ffordd i'w newid.

"Mae mor bwysig i ni fod ein cwsmeriaid ffyddlon yn cael gofal, a byddai'n hynod emosiynol i ni golli'r enw 'Siop y Pethe' oddi ar y stryd yn Aberystwyth.

"Fodd bynnag, rhaid inni edrych ar hyn yn bersonol a'r straen o gynnal busnes nad yw'n gwneud unrhyw incwm, neu'n waeth byth mae colled yn cymryd ei effaith."

'Cyfnod du iawn'

"Roeddwn wir angen i bobl wybod yr uchod," ychwanegodd Aled Rees.

Ffynhonnell y llun, Siop y Pethe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ambell ddiwrnod ychydig iawn sy'n dod trwy'r til a ni angen o leiaf 拢12,000 y mis - mae hynna heb 'neud elw, ychwanegodd Aled Rees

"Mae'n sefyllfa ofnadwy ar y stryd fawr y dyddiau 'ma ac efallai bydd ysgrifennu hyn yn help i eraill.

"I ddweud y gwir mae'n waeth nawr nac yn ystod Covid - fe gawson ni gymorth furlough yr adeg hynny ond nawr ym mis Ebrill bydd y trethi yn rhywbeth ychwanegol."

Mae Aled Rees hefyd yn rhedeg cwmn茂au teithio Tango a Cambria ac yn sgil Covid dyw'r cwmn茂au ddim wedi gallu gweithredu.

Ffynhonnell y llun, Aled Rees
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Roedd gen i lawer o freuddwydion ar gyfer Siop y Pethe,' medd Aled Rees

"Dyw rhywun ddim yn sylweddoli mae ar rai cyflenwyr filoedd o arian i ni. Problem arall yw bod rhai cwmn茂au wedi mynd i'r wal ac mae 拢5,000 yn ddyledus i ni gan un cwmni hedfan - y dydd o'r blaen fe gafon ni siec o 拢250 ganddyn nhw!

"Roeddwn hefyd yn rhan o fwyty Y Byrgyr yn y dre 'ma - ond wedi Covid doedd dim posib cael staff a bu'n rhaid cau y bwyty."

"Rwy'n gobeithio," ychwanegodd Aled Rees, "y bydd rhywun yn gallu llogi rhan o adeilad Siop y Pethe ac y bydd hynny yn dod ag incwm ond mae'n gyfnod tywyll, cyfnod du iawn i fusnesau fel ni.

"Mae'r cyfan yn straen mawr ac mae'n rhaid i fi feddwl am y dyfodol er lles fy nheulu ifanc."

Pynciau cysylltiedig