91热爆

Siop y Pethe yn Aberystwyth: Diwedd 'oes y Tuduriaid'

  • Cyhoeddwyd
Gwilym a Megan TudurFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwilym a Megan Tudur wedi rhedeg Siop y Pether er 1968

Mae perchnogion un o siopau llyfrau amlycaf Cymru wedi penderfynu gwerthu'r busnes ar 么l 45 mlynedd wrth y llyw.

Agorwyd Siop y Pethe gan Gwilym a Megan Tudur ar gornel Sgw芒r Glynd诺r yn Aberystwyth ym mis Rhagfyr 1968.

Ond yn awr mae'r p芒r priod wedi penderfynu ei fod yn amser iddynt ymddeol gan obeithio y bydd rhywun arall yn cymryd yr awenau i werthu llyfrau, cardiau a CDau.

Mae'r siop ar werth am 拢445,000 yn 么l Mr Tudur sy'n gobeithio ail-gydio yn ei yrfa ysgrifennu wedi iddo ymddeol.

'Oed yr addewid'

Dywedodd Mr Tudur mai Siop y Pethe oedd y siop Gymraeg modern gyntaf.

"Roedd siopau llyfrau Cymraeg wedi bodoli yn llefydd fel Caerdydd a Chaernarfon ond ni oedd y siop gyntaf yng Nghymru i werthu recordiau, llyfrau, cardiau a phosteri yn y Gymraeg," meddai.

"Roedd diwedd yr 1960au a dechrau'r 1970au yn oes aur o ran recordiau Cymraeg ac fe werthwyd nifer o recordiau gan Dafydd Iwan, Tony ac Aloma a Hogia'r Wyddfa.

"Siop y Pethe hefyd oedd lleoliad swyddfa gyntaf Cymdeithas yr Iaith yn ystod cyfnod Arfon Gwilym a Ffred Ffransis ar ddechrau'r 1970au," meddai.

Yn 么l Mr Tudur mae'r siop wedi bod yn ganolfan gymdeithasol a man cyfarfod ar gyfer llu o bobl yn ystod y 45 mlynedd diwethaf.

"Rwy'n falch fy mod wedi bod yn rhan o fywyd diwylliannol Ceredigion dros y blynyddoedd ond rwyf i a Megan wedi cyrraedd oed yr addewid felly mae'n amser inni ymddeol," meddai.

Mr Tudur yw awdur llyfrau sy'n cynnwys Byclings a Wyt ti'n cofio? sef cyfrol yn cyflwyno hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y 25 mlynedd gyntaf.

Yn 么l Mr Tudur ei fwriad yw ysgrifennu mwy o lyfrau pan fydd y siop yn cael ei gwerthu.