Torri dwy record byd ar ben-blwydd yr Urdd yn 100

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Mae cefnogwyr yr Urdd wedi torri dwy record byd ar ben-blwydd y mudiad yn 100 oed.

Yn ystod y bore, bu cannoedd o unigolion a grwpiau yn canu'r gân 'Hei Mistar Urdd' ac yn uwchlwytho'r recordiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Brynhawn Mawrth fe gyhoeddodd y mudiad "bod yr Urdd a'i gefnogwyr wedi torri dwy record byd" drwy lwytho y nifer mwyaf o fideos o bobl yn canu'r un gân ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cyn heddiw 250 oedd y nifer oedd wedi postio yr un gân ar Twitter ond rhwng 10:45 a 11:45 fore Mawrth roedd 1,176 wedi postio fideo ohonyn nhw'n canu'r gân 'Hei Mistar Urdd'.

I osgoi neges Twitter, 1
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 1

I osgoi neges Twitter, 2
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 2

Gydol y dydd mae degau wedi bod yn rhannu eu hatgofion am y mudiad gyda nifer yn rhannu lluniau ohonynt mewn eisteddfodau a gwersylloedd.

Mae nifer eraill wedi bod yn anfon eu dymuniadau da.

I osgoi neges Twitter, 3
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 3

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis bod y pen-blwydd yn gyfle i "ddathlu stori'r urdd ac edrych tua'r dyfodol".

Fe sefydlwyd yr Urdd ym 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.

Cyhoeddodd y syniad mewn erthygl yng nghylchgrawn 'Cymru'r Plant' a'r bwriad oedd rhoi rhagor o gyfleodd i blant yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg.

Sefydlwyd adran gyntaf yr Urdd yn Nhreuddyn, Sir Y Fflint yn yr un flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Roedd yr Urdd wedi bod yn cydweithio gyda grwpiau ac ysgolion ledled Cymru er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgais i dorri record byd.

Yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth roedd gor-ŵyr Syr Ifan ab Owen Edwards ymhlith y rhai fu'n canu.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd y prifathro, Clive Williams, ei fod wedi bod yn fore hynod o gyffrous.

"Mae wedi bod yn hynod o braf gweld pawb yn mwynhau eto wedi cyfnod anodd," ychwanegodd.

Yn gynharach dywedodd Lewys Jones, Swyddog Celfyddydau a Gwersylloedd yr Urdd: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n holl bwysig bod yr Urdd yn teimlo eu bod nhw'n ymestyn ei profile mewn ffordd a rhoi cyfle i bob math o bobl ifanc a plant o amgylch Cymru.

"Mae'n bwysig bod pob un ohonyn nhw'n teimlo eu bod nhw'n perthyn i'r iaith ac yn cael cyfle i ymwneud â gwahanol weithdai drwy'r Gymraeg - yn chwaraeon neu'n eisteddfodau neu drwy'r celfyddydau.

"Felly mae'n grêt cael mynd i ysgolion sydd ella erioed wedi cymryd rhan efo'r Urdd o'r blaen a rhoi blas iddyn nhw o'r iaith a gweithgareddau gwahanol."

'Mor berthnasol ac erioed'

Yn ôl Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, ma'r pen-blwydd yn gyfle i edrych ymlaen hefyd.

"Mae'r Urdd wedi bod yn fudiad hollol unigryw ac arloesol ers y cychwyn, ac mor berthnasol heddiw i fywydau pobl ifanc ag yr oedd ganrif yn ôl.

"Mae cyrraedd y garreg filltir arbennig hon yn gyfle inni ddathlu stori'r Urdd ac edrych tua'r dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bydd y canmlwyddiant yn 'flwyddyn i'w chofio' yn ôl Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis

Cafodd y partïo rhithiol yr Urdd ei ddarlledu ar 91Èȱ¬ Radio Cymru ac ar 91Èȱ¬ Radio Wales hefyd.

Yn ôl Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau 91Èȱ¬ Cymru, Rhuanedd Richards, mae'r 91Èȱ¬ yn falch o fod yn rhan o'r digwyddiadau.

"Mae gan yr Urdd a 91Èȱ¬ Cymru bartneriaeth arbennig sy'n ymestyn dros ddegawdau, gyda'r 91Èȱ¬ yn darlledu o Eisteddfod yr Urdd ers y saithdegau."

Ddydd Mawrth hefyd fe wnaeth Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan agor arddangosfa newydd i ddathlu'r canmlwyddiant.

Mae adeiladau nodedig ar draws Cymru wedi cael eu goleuo yn lliwiau'r Urdd.