Cloc hanesyddol Aberfan yn mynd i Amgueddfa Werin Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd un o wrthrychau mwyaf trawiadol trychineb Aberfan yn cael ei arddangos yn barhaol yn Amgueddfa Sain Ffagan.
Bydd cloc a stopiodd am 09:13 y bore - yr union amser foddwyd y pentref gan domen o l么 ar 21 Hydref 1966, gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion - yn dod yn rhan o gasgliad Amgueddfa Werin Cymru.
Roedd galwadau wedi bod am gartref i gadw'r cloc ar gof a chadw'r genedl, wedi iddo dod yn un o ddelweddau amlyca'r drychineb.
Wedi'i gadw'n ddiogel gan Mike Flynn, roedd ei Dad fod yn un o'r cyntaf i gynnig cymorth ar y diwrnod tywyll hwnnw.
Ond gyda dyhead Mike iddo gael cartref parhaol, cyhoeddwyd heddiw fydd y cloc yn dod yn rhan o gasgliad Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
Roedd ei dad, Mike Flynn (yr hynaf) yn bostman ac yn barafeddyg gyda'r awyrfilwyr yn y Fyddin Diriogaethol, gan fod yn rhan o'r ymdrech achub ar 21 Hydref 1966.
Ond trodd allan ei ddarganfyddiad i fod yn un o ddelweddau mwyaf trawiadol y drychineb, gyda'r cloc wedi stopio wrth i dunelli o lo daro'r ysgol a llawer o'r pentref.
'Helpu cenedlaethau'r dyfodol i gofio'
Yn 么l Amgueddfa Cymru, bydd ei arddangos yn helpu cenedlaethau'r dyfodol i gofio am un o drychinebau mwyaf y genedl.
Dywedodd Mike ei fod yn "hapus iawn" fod y cloc yn mynd i ofal Amgueddfa Cymru.
Gan ddiolch iddo, Ychwanegodd Sioned Williams, Prif Guradur Hanes Modern Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, "Ar 么l i'r cloc gyrraedd byddwn yn ei arddangos cyn gynted 芒 phosib yn oriel Cymru... sy'n adrodd straeon Cymru drwy'r canrifoedd, a bydd ar gael i bawb i'w weld.
"Yn Sain Ffagan rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda Mike a chymuned Aberfan wrth baratoi i arddangos y gwrthrych pwysig hwn o hanes Cymru."
"Rydyn ni'n gobeithio casglu llawer mwy o wrthrychau yn ymwneud a thrychineb Aberfan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2016