91热爆

Lluniau: Trychineb Aberfan

  • Cyhoeddwyd

Ar 21 Hydref 1966 cafodd 144 o bobl eu lladd pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a chladdu ysgol gynradd a deunaw o dai ym mhentref Aberfan. O'r rheiny fu farw, roedd 116 yn blant rhwng saith a deg oed.

Dyma drychineb Aberfan mewn lluniau.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd plant Ysgol Gynradd Pantglas newydd orffen gwasanaeth boreol pan dorrwyd ar yr heddwch

Ffynhonnell y llun, Fox Photos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd st芒d o argyfwng ei gyhoeddi yn y pentref a heidiodd pobl o bob rhan o Brydain i helpu

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid i weithwyr gadw'n dawel ar adegau rhag ofn i unrhyw un glywed gweiddi ymysg y rwbel

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Corff yn cael ei gludo o'r dinistr gan wirfoddolwyr a phlismyn. Dim ond 25 o blant wnaeth oroesi'r drychineb

Ffynhonnell y llun, Keystone/Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wrth i'r oriau fynd heibio roedd hi'n mynd yn fwy anhebygol bod unrhyw un a oedd wedi goroesi ar 么l

Ffynhonnell y llun, Jim Gray
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu gwirfoddolwyr a thimau achub yn gweithio'n ddiflino drwy'r nos i geisio achub pobl

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teulu yn galaru mewn angladd torfol - i 81 o'r rheiny fu farw - ar 28 Hydref 1966

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llawer o'r cyrff wedi'u claddu wrth ochr ei gilydd

Ffynhonnell y llun, Chuck Rapoport
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cenhedlaeth wedi mynd: Bachgen ar ei ben ei hun mewn maes chwarae yn Aberfan rhai wythnosau wedi'r gyflafan

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cofeb sydd i'w gweld yng Ngardd Goffa Aberfan ers 2006

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhesi o gerrig beddi gwyn yn rhoi syniad o faint y golled y diwrnod hwnnw