Lle oeddwn i: Aberfan
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n drychineb ysgwydodd y byd. Ar 21 Hydref 1966 cafodd 116 o blant a 28 oedolyn eu lladd pan lithrodd tomen lo anferth i lawr ochr mynydd Merthyr gan ddinistrio Ysgol Gynradd Pantglas ym mhentre' Aberfan.
Newidiodd bywydau sawl teulu mewn amrantiad yn ogystal 芒 sawl un oedd yn dystion i'r gwaith o chwilio am gyrff y meirw. Yn eu plith roedd Geraint Stanley Jones, a oedd ar y pryd, yn newyddiadurwr ifanc gyda'r 91热爆.
Mewn cyfweliad emosiynol, yr olaf cyn ei farwolaeth ym mis Awst 2015, bu cyn-bennaeth 91热爆 Cymru ac S4C yn hel atgofion am yr wythnos ddirdynnol yn Aberfan wedi'r drychineb. Roedd Geraint Stanley Jones yn aelod o d卯m rhaglen Heddiw y 91热爆 pan ddaeth yr alwad i'r stiwdios yn Llandaf:
'Yr alwad'
"Ro'n i yn y swyddfa am 10 o'r gloch y bore yn trafod rhaglen y dydd oedd yn mynd allan amser cinio. Mi ddaeth yr alwad ac mi es i yn syth i Aberfan.
"Be' dwi'n gofio fwya' ydy'r tawelwch ofnadwy. Doedd 'na ddim symud, doedd na'm smic yn unman. Ro'dd y pwll glo oedd bron ynghanol y pentre wedi stopio'n llwyr.
"Doeddwn i ddim yn gw'bod ble roedd yr ysgol. Ond yn sydyn wrth fynd rownd y gongl, dwi'n gweld y domen 'ma a dim byd ond dynion yn crebachu ar y domen efo rhawiau a phiciau a'u dwylo.
"Plant oedden nhw, roedd e'n gwbl annisgwyl. Rwy'n cofio i Owen [Edwards y gohebydd] lwyddo i roi geiriau at ei gilydd trwy gyfeirio at y plant yn hytrach na'r achlysur mewn ffordd."
Trobwynt
"Ro'n i ar y pryd ar fy ffordd i fod yn newyddiadurwr teledu, ond wedi iddo fo (Aberfan) ddigwydd, penderfynais i nad o'n i wedi fy nhorri allan i'r math yna o beth. Fedrwn i ddim bod yn ddigon gwrthrychol dwi'n credu.
"Trwy gydol yr wythnos ro'n i eisiau cydio mewn rhaw a gwneud rhywbeth nid jyst sefyll yn s么n amdano fo.
"Am bedwar o'r gloch ar y pnawn Gwener fe ge's i neges fod fy ail blentyn wedi ei geni. Dyma fi'n troi i lawr am Gaerdydd yn drewi o lwch y mynydd ac yn cydio yn fy mhlentyn. Mae pen-blwydd Siwan yn fwy na phen-blwydd yn dydi... mae'n gofadail."
Roedd y cyfweliad llawn i'w weld ar raglen 'Cymoedd Roy Noble' ar S4C ym mis Ionawr 2016.