Cofio hyn? Oriel i ddathlu 100 mlynedd o'r Urdd

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Mwynhau Glan-llyn yn yr 1980au

Glan-llyn, Llangrannog, Eisteddfodau... mae cenedlaethau o blant wedi cael mwynhad ers sefydlu'r Urdd gan mlynedd yn 么l.

Pan wnaeth Syr Ifan ab Owen Edwards roi ap锚l i ddechrau mudiad Cymraeg yn ei gylchgrawn Cymru'r Plant fis Ionawr 1922, prin fyddai wedi gallu dychmygu y byddai'n parhau ganrif yn ddiweddarach - ond gyda 55,000 aelod, 170 o staff, 10,000 gwirfoddolwr, 900 o adrannau a llond trol o atgofion.

Ffynhonnell y llun, Urdd Treuddyn

Disgrifiad o'r llun, Aelodau cyntaf yr Urdd yn yr adran gyntaf i gael ei sefydlu - a hynny yn Nhreuddyn, yn 1922. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd gan yr Urdd 720 aelod - erbyn heddiw mae 55,000

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Pebyll wedi eu codi am gyfnodau byr oedd gwersylloedd cynharaf yr Urdd. Roedd y gyntaf un yn Llanuwchllyn, ger Y Bala, yn 1928 - i fechgyn yn unig ac am gost o 10 swllt yr un - gyda'r gwersyllwyr yn golchi yn yr afon. Trefnwyd gwersyll i ferched yn unig yn Llangollen, fel yr un yn y llun yn 1931

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Ymwelwyr cyntaf safle parhaol cynta'r Urdd yn Llangrannog, yn haf 1932. Codwyd gwersyll am bedair wythnos yno ar dir oedd wedi ei roi yn rhodd i'r mudiad ieuenctid gan JM Howell

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Datblygwyd safle Llangrannog dros y degawdau, gyda chabanau pren yn cael eu codi

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Mae dipyn o newid wedi bod dros y degawdau - gwersyll Llangrannog heddiw
Disgrifiad o'r llun, Eisteddfod yr Urdd ydy digwyddiad blynyddol mwya'r mudiad. Cafodd y gyntaf ei chynnal yng Nghorwen yn 1929 ac erbyn yr un yma yn Llanidloes yn 1970, roedd yr 诺yl yn cael ei darlledu
Disgrifiad o'r llun, Mae'r Maes wedi newid dros y degwadau hefyd - dyma faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caergybi 1966
Disgrifiad o'r llun, Mae wynebau bechgyn Y Drenewydd yma yn Eisteddfod Caergybi yn awgrymu nad oedd dawnsio gwerin at ddant pawb...

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Pan ddaeth Plas Glan-llyn, ger Y Bala, ar gael i'w rentu ar ddiwedd yr 1940au, sefydlwyd gwersyll yno - gyda'r ymwelwyr yn cael eu cludo yno o'r orsaf dr锚n ar draws Llyn Tegid ar gwch y Brenin Arthur. Prynwyd y safle gan yr Urdd yn 1964. Daw'r llun yma o 1950

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Llangrannog

Disgrifiad o'r llun, Mae gweithgareddau awyr agored - a gweithgareddau d诺r yn enwedig - wedi bod yn rhan o wersylloedd yr Urdd ers y cychwyn. Ond weithiau roedd yn waith caled i gael y cychod i'r d诺r, fel mae'r t卯m yma yn Llangrannog yn dangos

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Glan Llyn yn y 2000au, a chyfarpar dipyn gwell

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Ond rhan fawr o'r hwyl, fel yma yn Llangrannog, oedd mynd i mewn i'r d诺r

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Mae cerddoriaeth bop Cymraeg wedi bod yn rhan o brofiad aelodau'r Urdd ers degawdau, gan gynnyws perfformiadau byw...

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, ... a'r disgo, fel yr un yma yn Llangrannog yn yr 1990au

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Y Swogs - y bobl ifanc oedd yn trefnu gweithgareddau a chadw golwg ar aelodau iau - yn cael hwyl yn Llangrannog

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Rhai o staff yr Urdd - yn cynnwys yr actor Mici Plwm (ar y dde) a'r darlledwr Dei Tomos (canol) - yn cael saib wrth greu llwybr newydd

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Un ffordd o osgoi llosgi yn yr haul

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Lle maen nhw nawr? Mwynhau yng Nglan-llyn yn yr 1970au

Hefyd o ddiddordeb: