91热爆

Llinell amser Adran gyntaf yr Urdd yn Nhreuddyn

  • Cyhoeddwyd
Yr aelodau cyntaf yn Yr Adran Gyntaf yn Nhreuddyn y tu allan i Gapel Jerusalem (Capel y Rhos)Ffynhonnell y llun, Urdd Treuddyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr aelodau cyntaf yn Yr Adran Gyntaf yn Nhreuddyn

Mewn digwyddiad arbennig mae modd cofnodi a dathlu cysylltiad unigryw un o bentrefi Sir y Fflint gyda mudiad yr Urdd.

Yn Nhreuddyn ger Yr Wyddgrug ddydd Sadwrn mae llinell amser ddarluniadol wedi cael ei dadorchuddio.

Mae'r llinell amser, a gr毛wyd gan aelodau'r gymuned leol, yn cynnwys ffotograffau ar hyd y degawdau i ddathlu pen-blwydd 90 oed yr Urdd y llynedd.

Yn Nhreuddyn y cafodd y clwb ieuenctid cyntaf erioed, neu'r 'Adran', ei gynnal yn 1922.

Cafodd y prosiect gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae'r llinell amser yn rhan o brosiect sy'n cael ei arwain gan Ceinwen Parry a Mary Roberts sy'n byw yn y pentre' a chymorth Cynghorydd Cymuned a Sir Treuddyn, Carolyn Thomas, rheolwr prosiect, Lorna Jenner a'r Urdd.

Cafodd y prosiect grant o 拢9,000 gan y Gronfa a chyllid ychwanegol oddi wrth Cadwyn Clwyd drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru, Menter Iaith Sir y Fflint a Chyngor Cymuned Treuddyn.

Hyfforddiant a chymhwyster

Mae disgyblion ysgolion cynradd Ysgol Terrig ac Ysgol Parc y Llan, yn Nhreuddyn, ac Ysgol Uwchradd Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug, wedi chwarae rhan allweddol yn y prosiect.

Yn ogystal 芒 chasglu ffotograffau a phethau cofiadwy eraill, gan gynnwys bathodynnau, baneri a phosteri, mae'r bobl ifanc yn cymryd rhan weithredol mewn cyfweld ag aelodau h欧n y gymuned.

Ffynhonnell y llun, Urdd Treuddyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aelodau Adran Yr Urdd yn Nhreuddyn yn 2012

Fel rhan o gymhwyster Bagloriaeth Cymru disgyblion Maes Garmon cafodd hyfforddiant ffilmio a thechnegau cyfweld ei ddarparu.

Bydd y bobl ifanc yn Neuadd y Pentref ddydd Sadwrn rhwng 2pm a 5pm, i recordio cyfweliadau 芒 thrigolion Treuddyn a'r gymuned ehangach er mwyn creu ffilm fer ar gyfer gwefan .

Mae llyfryn o straeon a ffotograffau hefyd yn cael ei gynhyrchu a bydd yn cael ei ddosbarthu i gartrefi pobl leol, tra bod digwyddiad dathlu yn cael ei gynllunio ar gyfer diwedd mis Mehefin.

"Rydym wrth ein bodd i ddathlu treftadaeth yr Urdd ar adeg pan fo nifer o blant ysgol lleol yn parhau i fwynhau gweithgareddau'r Urdd hyd heddiw," esboniodd y Cynghorydd Carolyn Thomas.

"Fel rhan o'r prosiect, rydym yn annog pobl ifanc i ysgrifennu am eu profiadau eu hunain o Eisteddfodau'r Urdd i wibdeithiau i Lanllyn ac ati.

"Rydym wedi cael ymateb gwych hyd yn hyn ac ry'n ni'n edrych ymlaen yn fawr at ddadorchuddio'r llinell amser, un o uchafbwyntiau'r prosiect."

Eisteddfod leol

Treuddyn yw'r unig gymuned yn Sir y Fflint sy'n parhau i gynnal eisteddfod leol flynyddol, sy'n denu cystadleuwyr o bell ac agos.

"Roedd yr Urdd yn ffordd o fyw pan gefais fy magu yn y pentref - roedd fy rhieni yn aelodau o'r Urdd, yn ogystal 芒'm plant ac mae rhai o'r ffotograffau sy'n cael eu cynnwys yn y prosiect yn lluniau o'm teulu," meddai Ceinwen Parry, Ysgrifennydd Pwyllgor Eisteddfod Treuddyn.

"Mae Eisteddfod yr Urdd bob amser wedi bod yn rhan o dreftadaeth Treuddyn."

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, eu bod yn hynod falch bod cymuned leol Treuddyn wedi dod ynghyd i ddathlu Adran gyntaf erioed yr Urdd.

"Mae'n wych i gael cofnod o hanes cynnar yr Urdd.

"Pwy fyddai wedi meddwl y byddai'r Adran gyntaf yn arwain at fwy na 250 o grwpiau cymunedol yn cyfarfod heddiw ym mhob rhan o Gymru, gan sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn fyw i filoedd o blant?"

Ychwanegodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cymru: "Mae'r prosiect cyfareddol hwn yn dod 芒 phobl o bob oedran ym mhentref Treuddyn ynghyd er mwyn rhannu eu hatgofion a'u profiadau o sefydliad diwylliannol unigryw.

"Yn ogystal ag annog trigolion lleol i archwilio'u gorffennol, bydd y prosiect yn darparu cofnod parhaol o gysylltiad arbennig Treuddyn 芒'r Urdd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol