Ymchwiliad wrth i filoedd fynd i g锚m Caer yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad ar y gweill i ganfod a wnaeth t卯m p锚l-droed Caer dorri rheolau Covid gan bod eu maes chwarae yng Nghymru.
Mae rheolau Cymru yn gorchymyn bod y rhan fwyaf o gemau yn cael eu chwarae y tu 么l i ddrysau caeedig.
Ond ers i'r rheolau diweddaraf ddod i rym ar 26 Rhagfyr mae t卯m Caer wedi cynnal dwy g锚m sydd wedi denu dros 2,000 o gefnogwyr yr un.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y clwb yng Nghymru a bod hi'n ofynnol iddo ddilyn rheolau Cymru.
Dywed llefarydd ar ran y clwb bod eu cyfarwyddwyr ar hyn o bryd yn cyfarfod 芒 swyddogion er mwyn trafod y rheoliadau a'u heffaith ar y clwb.
"Mae stadiwm Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caer yng Nghymru ac felly mae rheoliadau Cymru yn gymwys iddyn nhw," medd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
"Mae Cyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru yn delio 芒'r mater gan mai nhw yw'r awdurdodau gorfodi."
Mae Stadiwm Deva Caer yn Sir y Fflint gyda'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn croesi'r maes parcio i'r dwyrain o'r stadiwm.
Ers i Gymru symud i lefel rhybudd dau ar 26 Rhagfyr mae holl chwaraeon Cymru, i bob pwrpas, wedi cael eu cynnal y tu 么l i ddrysau caeedig.
Mae nifer y rhai sy'n gwylio wedi'u cyfyngu i 50.
Mae costau stiwardio a phlismona yn golygu nad yw hi'n ymarferol caniat谩u i nifer fechan o gefnogwyr fynd drwy'r gatiau.
Ond does dim cyfyngiadau ar dorfeydd mewn gemau yn Lloegr.
Yn 么l adroddiadau roedd y nifer a oedd yn bresennol yn ystod g锚m Caer yn erbyn AFC Fylde ar 28 Rhagfyr yn 2,075 ac yn erbyn Telford ar 2 Ionawr yn 2,116.
Mae CPD Caer wedi cyhoeddi datganiad yn ymateb i'r sefyllfa, gan ddweud: "Y bore ma fe gafodd CPD Caer ein gwahodd i gyfarfod gyda chynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Heddlu Sir Gaer a Chyngor Caer a GorllewinSir Gaer.
"Fe gawson lythyr sy'n amlinellu toriadau posib o reolau coronafeirws Cymru yn ein gemau ar 28 Rhagfyr a 2 Ionawr... mae hefyd yn dweud y byddai'r clwb o bosib yn torri'r rheolau eto os fydd yn parhau i chwarae gemau o flaen torf tra bod mesurau Cymru mewn lle.
"Cytunwyd y byddai pawb yn cael cyngor cyfreithiol pellach oherwydd natur cymhleth y mater a goblygiadau unrhyw ddatblygiad. Byddwn yn diweddaru ein cefnogwyr cyn gynted ag y medrwn."
Mae g锚m nesaf y clwb yn erbyn Brackley Town ar 15 Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022