Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfyngiadau: Pryder ar y ffin am golli cwsmeriaid i Loegr
Mae rhai busnesau Cymreig ger y ffin yn poeni am golli cwsmeriaid i fusnesau yn Lloegr yn sgil cyfyngiadau Covid newydd Cymru.
Tra bod rheolau newydd ar gymdeithasu yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd cyfyngiadau pellach yn dod i rym yn Lloegr.
Mae rhai busnesau'n poeni y bydd cwsmeriaid yn dewis gwario eu harian ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Lloegr, yn enwedig ar nos Galan.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod rheolau newydd wedi eu cyflwyno er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel.
'Ofni fydd hi'n dawel'
Mae rhedeg busnes ger y ffin yn "reit rhyfeddol" ar hyn o bryd, yn 么l cadeirydd Saith Seren, tafarn a chanolfan Gymraeg Wrecsam.
"Mae 'na gymaint o bobl o Wrecsam fydd yn mynd yn draw at Groesoswallt neu Gaer i ddathlu nos Galan," meddai Chris Evans.
Ychwanegodd bod cefnogwyr t卯m p锚l-droed Wrecsam "mewn sefyllfa rhyfeddol iawn, lle dydyn nhw ddim yn cael cefnogi yn y Cae Ras ond yn cael mynd ar fws" i gefnogi'r t卯m oddi cartref yn Lloegr.
"Dw i'n gobeithio fydd pobl yn dal i ddod allan, ond yn ofni falle fydd hi'n dawel iawn.
"Dw i'n gwybod o'r cyfnodau clo eraill bod 'na rai sy'n anfodlon i wisgo mwgwd.
"Bydd rhai dal yn dod ond dwi'n gwybod am rai eraill fydd ddim.
Ychwanegodd y byddai'n "drychinebus" pe bai'r sefyllfa'n parhau tan mis Chwefror, gyda'r busnes eisoes wedi canslo digwyddiadau cyn y Nadolig ac ym mis Ionawr.
Dywedodd fod y busnes "lawr ymhell dros 50%" yn ariannol o ganlyniad.
'Problem parhaus'
"Mae'r gwahaniaeth rhwng y rheolau rhwng gwledydd yn broblem parhaus", yn 么l Jess Hope-Jones, perchennog siop hufen ia yn Y Gelli Gandryll.
"Rydyn ni'n cael trafferth am ein bod ni mor agos at y ffin, mae hi'n ddryslyd.
"Un peth sydd wedi digwydd i ni trwy'r pandemig yw gorfod esbonio, 'rwyt ti yng Nghymru nawr'.
"Mae pobl wedi cael digon o'r cyfyngiadau, a'r ffaith nad oes angen gwisgo mwgwd a'r holl bethau hyn dwy filltir i ffwrdd."
Er bod y cyfyngiadau'n caniat谩u i'r siop aros ar agor, dywedodd eu bod yn cyfyngu ar nifer y bobl sy'n cael bod yno ar yr un pryd.
Dywedodd Mark Finlay o'r Fat Boar, bwyty a bar yn Yr Wyddgrug, mai Nos Galan fyddai gwir prawf y sefyllfa.
"Rydyn ni wedi cael ambell sylw gan gwsmeriaid yn dweud y gwnawn nhw ddod fan hyn am bryd o fwyd ac wedyn mynd i Gaer i ddathlu go iawn, yn eu geiriau nhw.
"Mae'n eithaf rhwystredig, ond does dim llawer fedrwn ni ei wneud am hynny.
"Byddwn ni'n cyfri i lawr i'r flwyddyn newydd gydag ychydig llai o gyffro eleni."
'Cynnydd serth' yn sgil Omicron
Daeth cyfyngiadau Covid newydd i rym yng Nghymru ar 26 Rhagfyr yn sgil pryder am ledaeniad amrywiolyn Omicron.
Mae'r rheolau yn cynnwys 'rheol chwe pherson' mewn bwytai a thafarndai, ac ymbellhau cymdeithasol.
Dim ond 30 o bobl gall fynychu digwyddiadau dan do, a 50 o bobl tu allan.
Yn ogystal, mae clybiau nos wedi cau.
Yn y cyfamser, does dim cyfyngiadau pellach wedi eu cyflwyno yn Lloegr.
Ddydd Mawrth, cafodd y gyfradd achosion uchaf erioed ei chofnodi yng Nghymru, ac fe gafodd dros 12,000 achos newydd eu cofnodi o fewn cyfnod 48-awr.
Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod Omicron yn achosi "cynnydd serth" mewn achosion, fel y rhagwelwyd.
"Mae'n rhaid i ni gyd wneud popeth y gallwn ni i ddiogelu'n hunain ac i gadw Cymru'n ddiogel," meddai Llywodraeth Cymru.
"Mae Cymru ar Lefel Rhybudd 2 - mae mesurau newydd wedi eu cyflwyno er mwyn helpu i fusnesau barhau i fasnachu, ac mae cyngor newydd er mwyn helpu pobl i aros yn ddiogelu yn eu cartrefi."