91热爆

'Anodd gweithredu'r cyfyngiadau newydd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Irish pub
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed rhai perchnogion bariau ei bod hi'n anodd gweithredu'r rheolau newydd

Dywed rhai perchnogion busnesau ei bod hi'n anodd gweithredu y cyfyngiadau Covid diweddaraf gan nad yw rhai cwsmeriaid yn ymwybodol o'u bodolaeth tra bod eraill wedi cadw draw.

Ers 26 Rhagfyr mae rheol ymbellhau cymdeithasol wedi dychwelyd, ynghyd 芒'r gorchymyn i wisgo mwgwd, rheolau gweini wrth fwrdd ac olrhain cysylltiadau.

Yn ogystal mae grwpiau wedi cael eu cyfyngu i uchafswm o chwech er mwyn atal lledaeniad amrywiolyn Omicron.

Dywed un perchennog bar bod gweithredu'r cyfyngiadau newydd wedi bod yn "hunllef" gan nad yw llawer o bobl yn ymwybodol o'u bodolaeth.

"Dyw llawer o bobl ddim yn ymwybodol bod yna reolau newydd," medd Joann Cooney, perchennog The Irish yn Llandudno.

"Mae wedi bod yn 'chydig o hunllef yn rheoli pobl ac yn sicr dyw hi ddim wedi bod mor brysur ag arfer."

'50% yn llai o bobl ar 糯yl San Steffan'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Joann Cooney nad yw llawer o bobl yn sylweddoli bod gwisgo mwgwd yn orfodol mewn tafarndai

"Fel arfer mae Dydd San Steffan yn ddiwrnod da - pawb yn siarad wrth y bar ond doedd dim modd i hynna ddigwydd eleni. Roedd y cyfan yn eithaf anodd.

"Roedd ryw 50% yn llai o gwsmeriaid - fel arfer mae'n eitha prysur gyda cherddoriaeth fyw - awyrgylch wych."

Dywed Ms Cooney ei bod hi'n credu fod llawer o bobl wedi aros adref am eu bod ofn yr amrywiolyn newydd Omicron.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rheolau newydd yn golygu mwy o waith, medd Dai Beynon o Bontarddulais

"Mae gwasanaeth wrth fwrdd yn lot o waith ychwanegol a hynny heb arian ychwanegol," medd Dai Beynon, perchennog Clwb y Gweithwyr ym Mhontarddulais.

Mae'n credu bod clybiau fel hyn angen mwy o staff er mwyn darparu gwasanaeth bwrdd a darparu gwasanaeth olrhain.

Ychwanegodd fod pawb yn y diwydiant lletygarwch "yn gwneud eu gorau i gadw trefn a sicrhau rheol dau fedr ond mae fel petaent yn cael eu herlyn dro ar 么l tro".

Wrth gyhoeddi'r cyfyngiadau newydd wythnos diwethaf dywedodd y Prif Weinidog bod yn rhaid eu cyflwyno yn sgil lledaeniad sydyn yr amrywiolyn newydd Omicron sy'n hynod o heintus.

Dangosodd y data diwethaf ar ddydd San Steffan bod 5,000 yn rhagor o achosion a thair marwolaeth a chofnodwyd 304 achos newydd o'r amrywiolyn Omicron.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Ash hefyd ei bod yn gynyddol anoddach gweithredu'r cyfyngiadau newydd

Dywed Phil Ash sy'n cynrychioli tafarnwyr yn ardal Conwy bod y rheolau diweddaraf yn annheg.

"Rwy'n eu derbyn ond mae'n teimlo ein bod wedi cael ein taro'n galetach na gweddill cenhedloedd y DU unwaith eto," meddai.

Dywedodd Mr Ash hefyd ei bod yn gynyddol anoddach gweithredu'r cyfyngiadau newydd.

Ddydd Llun dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU na fydd mwy o reolau Covid yn Lloegr tan y flwyddyn newydd ond rhybuddiodd Sajid Javid bawb i "fod yn wyliadwrus".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod 拢120m ar gael i glybiau nos a'r diwydiannau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth yn sgil y cyfyngiadau newydd.

Ond dywed Mr Ash bod yr arian, o bosib, yn rhy hwyr gan fod busnesau angen cefnogaeth nawr.

"Fe fydd o gymorth pan gawn ni e ond fyddwn ni ddim yn cael yr arian tan ddiwedd Ionawr - dyw hwnna ddim yn helpu colledion mis Rhagfyr.

"Hefyd 'dan ni ddim yn gwybod sut mae pethau'n mynd i fod rhwng nawr a chael yr arian ddiwedd Ionawr," ychwanegodd.