Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen gofalu am y gofalwyr' yn sgil mwy o achosion Covid
- Awdur, Elen Wyn
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Mae dwy sy'n gweithio mewn cartrefi gofal yn dweud eu bod yn poeni am yr effaith a gaiff yr amrywiolyn Omicron ar staff a phreswylwyr.
Dywed Mari Ellis Parker, rheolwraig cartref Plas Gwilym, Penygroes yn Nyffryn Nantlle, ei bod hi'n "poeni'n yn arw am gartrefi gofal drwy Gymru".
Mae'n galw ar wleidyddion i "ofalu am y gofalwyr".
"Fy ngobeithion ar gyfer y flwyddyn newydd yw fod gwleidyddion yn sylweddoli fod y sector gofal ar ei 'liniau ar 么l dwy flynedd erchyll o Covid," meddai.
"Mae'n amser pryderus iawn. Dydy o ddim gwahanol i ddechrau'r pandemig jyst bod neb yn s么n amdano."
Dywed Alison Burford sy'n gweithio mewn cartref yn Llanfairpwll ar Ynys M么n mai gweld trigolion y cartref yn marw yw "profiad gwaethaf ei gyrfa".
"Gafon ni Covid yn y cartref, o'dd o'n newid bywyd - o'dd o'n ofnadwy. Un tro roedd gynnon ni wyth o staff a dyna ni.
"'Nes i weithio 27 neu 28 diwrnod heb yr un break - heb ddiwrnod off. O'dd o'n ofnadwy."
'Angen mwy o ofal'
Wrth rannu eu profiadau 芒 Newyddion S4C canfu'r ddwy ofalwraig, nad oedd wedi cyfarfod ei gilydd o'r blaen, bod eu profiadau yn debyg.
Ac er yn heriol, ni fyddai Mari , 41, o'r Groeslon nac Alison, 27, o Lannerch-y-medd, Ynys M么n yn dymuno gyrfa arall.
Mae Mari wedi bod yn ei swydd ers naw mlynedd ac wedi gweithio ym maes gofal henoed ers iddi adael yr ysgol yn 16 oed.
Dywed bod y cyfrifoldeb ar staff cartrefi gofal wedi cynyddu'n fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Mae anghenion ein preswylwyr wedi dwys谩u yn ddifrifol dros y 10 mlynedd ddiwethaf," meddai.
"Ers talwm, mi oedd unigolion hefo anghenion gofal lot llai dwys yn dod i gartrefi preswyl. Erbyn hyn, mae'r preswylwyr sy'n cyrraedd yn fwy corfforol fregus ac mae ganddyn nhw gymhlethdodau iechyd dwys."
Dywed hefyd fod yna ddiffyg gwasanaethau a lleoliadau addas ar gyfer pobl sydd ag anghenion iechyd dwys neu dementia.
"Mae hyn yn golygu ein bod ni'n darparu gofal llawer iawn fwy cymhleth heb unrhyw gynnydd mewn adnoddau."
'Anodd cael staff'
Her arall i Mari yw recriwtio staff a dywed fod hynny wedi mynd yn anos yn sgil y pandemig.
"Mae recriwtio yn teimlo'n amhosib ar hyn o bryd," meddai.
"Mi faswn yn hoffi gweld mwy o fuddsoddi yn y sector er mwyn denu staff newydd sydd 'efo'r sgiliau pwrpasol a chydnabod a gwerthfawrogi gofalwyr proffesiynol am eu sgiliau a'r holl hyfforddiant maen nhw wedi ei 'neud."
"Mae pobl yn tueddu i fynd am swyddi sy'n haws ac sy'n rhoi mwy o arian. Mae hyn yn broblem ledled y wlad, gan nad yw'r cyflog yn gystadleuol gyda sectorau eraill.
"Mae cyflogau gofalwyr yn parhau i fod yn isel iawn - 'dach chi'n siarad am 拢8 i 拢10 yr awr.
"Weles i job yn ddiweddar mewn siop chips am 拢10.50 yr awr. 'Dan ni ddim yn mynd i gael y pobl da 'dan ni'n chwilio amdanyn nhw yn talu pres mor wael."
Ychwanegodd: "Mae ein gofalwyr ni yn darparu gofal sydd yn gorfod cysidro bob agwedd o iechyd a lles ein trigolion am lawer llai o arian... Maen nhw [hefyd] yn agored iawn i gyhuddiadau a rhagfarn fel rhan o'u gwaith."
Dywedodd Alison hefyd ei bod yn credu fod gofalwyr yn haeddu cyflogau uwch sy'n adlewyrchu eu cyfrifoldebau.
"Dwi'n meddwl bod y living wage yn isel ofnadwy i rhywun sydd yn gweithio mewn gofal am bod y gwaith yn rhoi straen yn feddyliol ac yn gorfforol."
Cariad at y gwaith
Ond er gwaetha'r heriau dywed Mari na fuasai hi'n medru meddwl am weithio mewn unrhyw faes arall.
"Dwi'n caru fy ngwaith... Y peth gorau am y swydd ydy'r fraint o helpu unigolyn i heneiddio yn dda.
"Mae amser Covid wedi bod yn arbennig o heriol i'n trigolion oherwydd pryder a gorbryder, ac absenoldeb eu hanwyliaid i'w cefnogi yn yr un ffordd ag arfer," meddai, ond y prif nod "er gwaetha'r anawsterau yw rhoi'r gofal gorau posib i drigolion".
"Rhoi amser ac ystyriaeth ar bob lefel iddyn nhw - gofalu am uchelgeisiau a dymuniadau'r trigolion, a chyfoethogi eu bywydau."
"Dwi'n teimlo mai dyma lle dwi isio bod," meddai Alison, " a dwi'n mynd i drio gwella fy hun a gweithio fy hun i fyny. Dyna dwi isio ei 'neud.
"Ar ddiwedd bywyd rhywun 'dan ni'n mynd 芒 lilis a dillad gwyn a Beibl ac yna fe fyddwn ni'n gada'l nhw 'efo'r teuluoedd - 'dan ni'n gwybod wedyn fod pob dim reit i'r diwedd wedi ei gyflawni.
"Pan mae'r teuluoedd yn ddiolchgar a bo chi wedi 'neud eich gorau - mae'n foddhad wedyn yn de."