Llacio rheolau ymweld 芒 chartrefi gofal yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fe fydd nifer fawr o berthnasau a ffrindiau'n gallu ymweld ag anwyliaid mewn cartrefi gofal am y tro cyntaf mewn misoedd wrth i gyfyngiadau coronafeirws lacio ddydd Llun.
Hyd yn hyn, dim ond dau ymwelydd penodol oedd yn cael ymweld 芒 phreswylwyr cartrefi gofal dan do dan reolau Llywodraeth Cymru, ond o ddydd Llun bydd unrhyw un yn cael ymweld, fesul dau ar y tro.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai'r newid yn "gwella ansawdd bywyd preswylwyr a'u teuluoedd".
Ond mae pryder o hyd gan mai cartrefi gofal unigol sy'n penderfynu i ba raddau y maen nhw'n gallu caniat谩u ymweliadau.
Dyw nifer o bobl heb fod 芒 hawl i ymweld 芒 pherthnasau mewn cartrefi gofal ers dechrau'r pandemig, gyda rhai yn dweud eu bod ond wedi gallu gweld eu hanwyliaid drwy ffenestri.
Mae nifer wedi beirniadu'r rheolau gan eu disgrifio fel rhai "creulon".
Tra bod ymweliadau yn yr awyr agored wedi eu caniat谩u ers haf 2020, mae rheolau clo lleol wedi golygu fod nifer o gartrefi gofal wedi rhwystro pobl rhag ymweld.
Dyw ymweliadau dan do gan un person penodol ond wedi ei ganiat谩u ers 13 Mawrth.
Ar 26 Ebrill fe laciodd y canllawiau ymweld rhywfaint, gan ganiat谩u i ddau o bobl ymweld dan do ar yr un pryd.
Ond dywed y rheolau fod yn rhaid i'r bobl hyn fod yn rhai oedd wedi eu henwi'n benodol.
Golygai hyn mai dim ond y ddau berson yma fyddai'n gallu ymweld.
Yn 么l y canllawiau newydd fe fydd unrhyw ddau berson yn cael ymweld ar yr un pryd, hynny ar 么l derbyn prawf negyddol am Covid-19.
Tra bod yna ganiat芒d i ddal dwylo preswylwyr, mae'n rhaid gwisgo mwgwd.
Dyw babanod a phlant ifanc iawn ddim yn cael eu cyfri o ran niferoedd sy'n cael ymweld.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn eu cynghori i beidio ymweld dan do oherwydd problemau cadw pellter cymdeithasol.
Does yna ddim cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n gallu ymweld 芒 phreswylwyr y tu allan.
'Colli gobaith'
Mae g诺r Prydwen Elfed-Owens, Tom, yn byw gyda dementia yng nghartref The Old Deanery yn Llanelwy.
Nid yw Tom wedi gadael y cartref ers 18 mis, ac mae hithau ond wedi cael ymweld ag o am gyfnodau byr ddwywaith.
"Mae o 'di ca'l dau frechlyn, dwi wedi ca'l dau frechlyn a dwi dal ddim yn cael mynd i mewn i'r cartref gofal," meddai.
"Be' ydy'r pwynt o gael profion cyn mynd i mewn, be ydy pwynt brechlynnau? 'Dan ni dal methu mynd yn agos at berson sydd angen cwtsh r诺an fwy nag erioed."
Nid oedd cartref The Old Deanery yn dymuno gwneud sylw.
Dywed canllawiau Llywodraeth Cymru fod gan bobl hawl i dynnu eu mwgwd unwaith eu bod yn eistedd, ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol cywir a'u bod mewn ystafell sydd wedi ei hawyru.
"Ond fe allai darparwyr iechyd gael hyblygrwydd i newid hyn mewn ymateb i amgylchiadau lleol," meddai'r llywodraeth.
'Torri calon'
Wrth ymateb i bryderon Mrs Elfed-Owens dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl ac yn annog darparwyr i geisio hwyluso ymweliadau dan do.
"Fel y mae ein canllawiau'n eu hamlinellu, dylai cartrefi gofal wneud hyn mewn ffordd sy'n lleihau'r risg i breswylwyr ac ymwelwyr, ar sail asesiadau risg deinamig o amgylchiadau'r cartref unigol a'r bobl sy'n byw."
Dywedodd llefarydd ar ran Care Forum Cymru fod y canllawiau yn glir a tra eu bod eisiau caniat谩u ymweliadau gan berthnasau, mae'n rhaid iddynt hefyd asesu'r risg.
Ychwanegodd Prydwen Elfed-Owens ei bod am wybod "faint o bobl sy wedi marw ar 么l torri eu calonnau".
"Mae nifer o bobl yng nghartref gofal fy ng诺r wedi penderfynu aros yn eu gwelyau gan eu bod wedi colli gobaith," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2021
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021