Covid: Llai yn marw ond rhybudd newydd am amrywiolyn
- Cyhoeddwyd
Mae achosion o amrywiolyn Indiaidd o coronafeirws wedi'u nodi yng Nghasnewydd, Abertawe a Chaerdydd, yn 么l Prif Weinidog Cymru.
Ychwanegodd Mark Drakeford ei fod yn "iawn i boeni" am yr amrywiad o ystyried y cyflymder yr oedd yn dyblu yn Lloegr.
Hyd yn hyn mae 25 achos o'r amrywiad Indiaidd yng Nghymru.
Oherwydd hynny, mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn annog pobl i barhau'n wyliadwrus a chadw at y rheolau.
Yn fwy cyffredinol, erbyn hyn mae achosion o'r ffliw a niwmonia yn gyfrifol am achosi mwy o farwolaethau yng Nghymru na Covid-19.
Yn y chwech o'r 13 mis diwethaf coronafeirws oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o farwolaethau yng Nghymru, ond erbyn Ebrill fe'i cofnodwyd fel y 18fed achos pennaf dros farwolaethau.
'Hyd at 50% yn fwy trosglwyddadwy'
Ond mae'r pryder mwyaf yn parhau yngl欧n ag effaith posib bydd yr amrywiolyn Indiaidd yn ei gael.
Mae tua 2,967 o achosion o'r amrywiad bellach wedi'u cofnodi ar draws y DU.
Dywedodd Mr Drakeford wrth raglen Wales Live y 91热爆: "Maen nhw'n bennaf yn ardaloedd dinesig a threfol Cymru - Casnewydd, Abertawe a Chaerdydd."
Ychwanegodd y byddai gan dimau iechyd lleol yn yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio "hyblygrwydd ychwanegol i alw mwy o bobl ymlaen i gael eu brechu".
Dywedodd Dr Keith Reid o Fwrdd Iechyd Bae Abertawe bod risg yr feirws yn parhau yn yr ardal.
Wrth i bobl ddechrau cymdeithasu eto, mae'n "debygol iawn y byddwn yn gweld cyfraddau heintio'n cynyddu eto", meddai.
Gyda "nifer fechan" o achosion o'r amrywiolyn wedi eu cofnodi, ychwanegodd bod y timau profi ac olrhain yn "gweithio'n galed i'w atal rhag lledaenu'n bellach".
Fe wnaeth hefyd annog pawb yn yr ardal i fynychu apwyntiadau brechu er mwyn "ceisio dychwelyd i fywyd normal".
Mae profion a brechiadau brys eisoes wedi'u cyflwyno yn Lloegr mewn ardaloedd lle mae'r amrywiad Indiaidd yn dechrau cydio, fel Bolton a Blackburn.
Yn gynharach ddydd Mercher, awgrymodd Mr Drakeford y gallai'r amrywiad fod hyd at 50% yn fwy trosglwyddadwy na'r math sydd fwyaf amlwg yn y DU.
Bydd gwyddonwyr yn gwybod mwy am y ffigwr yma erbyn yr wythnos nesaf, meddai dirprwy brif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Jonathan Van-Tam ddydd Mercher.
Cartrefi gofal
Dywedodd Mr Drakeford hefyd y byddai mwy o ymweliadau yn cael eu caniat谩u mewn cartrefi gofal o ddydd Llun nesaf.
"Bydd mwy o bobl yn gallu ymweld ag unigolion mewn cartrefi gofal, byddwn yn gallu llacio ar beth o'r cyngor cyfredol sy'n cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr y gall pobl eu cael ar unrhyw un adeg i ganiat谩u mwy o ymweliadau," meddai.
Ar hyn o bryd gall preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru gael dau ymwelydd dynodedig a dim ond un ymwelydd dynodedig all ymweld y tu mewn ar y tro.
Ers dydd Llun, mae preswylwyr cartrefi gofal yn Lloegr wedi cael hyd at bump ymwelydd.
O ran y ffigyrau diweddara gan y Swyddfa Ystadegau roedd yna 35 o farwolaethau o ganlyniad i Covid-19 ym mis Ebrill
Mae hynny yn ostyngiad o 81.5% o'i gymharu 芒 mis Mawrth.
Golygai hyn raddfa o 12.6 o farwolaethau am bob 100,000 o bobl, y raddfa isaf ers mis Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021