Covid-19: Cymru'n anfon offer achub bywyd i helpu India
- Cyhoeddwyd
Bydd 1,000 o ddarnau o offer achub bywyd yn cael eu hanfon o Gymru i ysbytai yn India i helpu gydag argyfwng Covid yn y wlad.
Mae ysbytai yn brwydro i drin cleifion gyda phrinder ocsigen a meddyginiaethau yn sgil ail don ddinistriol o heintiau.
Mae miloedd o bobl wedi marw yn dilyn ymchwydd mewn achosion Covid.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi crynhowyr ocsigen ac awyryddion fel rhan o ymdrechion i helpu.
Cymru yw'r wlad ddiweddaraf i ateb galwadau gan feddygon yno sydd angen cyflenwadau meddygol.
"Oherwydd bod y sefyllfa yng Nghymru yn llawer gwell roedd gennym offer dros ben y gallem allu chwarae ein rhan fach wrth helpu," meddai Mark Roscrow o GIG Cymru.
Mae Dr Keshav Singhai, Cadeirydd Cymru Cymdeithas Meddyg Tarddiad Indiaidd Prydain, wedi bod yn rhan o gydlynu'r ymateb i gais India am help.
Dywedodd: "Dyma un o'r llwythau mwyaf o offer achub bywyd sy'n dod o'r DU.
"Mae wedi bod yn waith dwys iawn am yr wythnos ddiwethaf," ychwanegodd.
"Rhaid i mi ddweud ei fod wedi bod yn anhygoel o bwerus oherwydd bod swyddogion yn gweithio trwy'r penwythnos."
Bydd yr offer yn cael ei anfon i ysbytai yn rhai o'r ardaloedd sydd wedi'u taro waethaf yn India.
Amrywiad Indiaidd
Mae India wedi cofnodi mwy na 19m o achosion o coronafeirws - y nifer uchaf tu 么l i'r Unol Daleithiau.
Mae gwyddonwyr yn edrych i weld a allai amrywiad Indiaidd newydd fod y tu 么l i'r cynnydd mewn achosion.
Ymwelodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething 芒 chanolfan ddosbarthu'r GIG yng Nghasnewydd sy'n paratoi i anfon yr offer ddydd Llun.
Gofynnwyd i'r gwasanaeth iechyd ledled y DU gyflenwi adnoddau.
Cafodd y warws 250,000 troedfedd sgw芒r hefyd ei ddefnyddio i bentyrru deunydd cyn Brexit.
Mae cyflenwadau PPE a brechlyn yn cael eu cadw ar y safle. Mae labordai prawf Covid hefyd wedi'u hadeiladu yno.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021