Rhannu profiadau preswylwyr cartrefi gofal o'r pandemig
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig, mae cynllun gan elusen Age Cymru yn rhoi cyfle i breswylwyr cartrefi gofal siarad yn agored am yr argyfwng covid-19.
Mae gr诺p o artistiaid wedi helpu i greu ffilm unigryw yn crynhoi'r hanesion, gyda'r nod o gasglu dros 100 o leisiau erbyn diwedd 2021.
Mae cynllun 'Tell Me More' yn annog preswylwyr i fynegi sut beth ydy byw trwy gyfnod clo mewn cartref gofal.
Wrth gwrs, mae hi wedi bod yn gyfnod hynod anodd i lawer - gyda nifer o breswylwyr a staff gofal wedi mynd yn ddifrifol wael, a hyd yn oed wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig.
Ar Zoom neu Skype, mae'r elusen wedi bod yn holi preswylwyr cartrefi gofal ar hyd Cymru - gan gynnwys cartref gofal Glan Rhos ym Mrynsiencyn, Ynys M么n.
Dywedodd un o reolwyr y cartref, Helen Ombler Williams: "Mae'n braf iddyn nhw gael d'eud sut maen nhw'n teimlo.
"Mae'n braf gweld nhw'n siarad efo pobl wahanol a sut maen nhw 'di dod ymlaen efo Skype, medru siarad efo iPad o flaen nhw - rhywbeth 'sa nhw byth 'di 'neud o'r blaen."
Tan r诺an, ychydig iawn o gyfle sydd wedi bod i bobl h欧n leisio eu barn ar Covid-19.
Yn 么l Dafydd Iwan, sy'n gadeirydd Age Cymru yng Ngwynedd a M么n, mae hi'n bwysig ein bod ni'n clywed llais preswylwyr.
"Mae preswylwyr cartrefi gofal wedi diodde', o bosib mwy na neb yn ystod y pandemig, a theimlo oedden ni bod hi'n bwysig ein bod ni'n cael clywed eu llais nhw," meddai.
"'Dan ni'n s么n amdanyn nhw, 'dan ni'n poeni amdanyn nhw ac yn gweithio efo nhw - ond ydan ni'n clywed be' maen nhw'n ei feddwl a be' ydy eu profiadau nhw?
"Dyna ydy pwrpas y cynllun yma ac mae o wedi gweithio yn rhyfeddol o dda - artistiaid yn siarad 芒 nhw dros Zoom neu debyg, ac yna'n gwneud lluniau ohonyn nhw wrth siarad, ac yna'n animeiddio'r lluniau wrth i ni wrando ar y lleisiau'n 么l."
Ychwanegodd: "Wrth gwrs, mae hyn yn rhoi rhyddid iddyn nhw siarad. 'Dan ni'n clywed nhw, eu barn nhw, heb ymyrryd gormod ar eu preifatrwydd nhw.
"Mae'r cyswllt yna gyda'u hanwyliaid, gyda'r teulu, yn hollbwysig. Un o'r hen wragedd yn y fideo yn dweud ei bod hi'n lwcus yn medru codi llaw ar ei mab wrth iddo fynd heibio ar y prom yn y bore.
"Dyna oedd hi'n edrych ymlaen ato fo fwya' - ond ddim yn cael siarad go iawn, ddim yn cael cyswllt.
"Mae'n rhaid i ni ddarganfod ffyrdd o hwyluso'r cyswllt rhwng teuluoedd a phreswylwyr."
Mae lleisiau Cymraeg yn cael eu casglu ar gyfer y ffilm ar hyn o bryd - ac un o'r cyfranwyr ydy Arfon M么n Owen o gartref Glan Rhos.
"Nes i erioed feddwl 'sa 'na r'wbath fel hyn. O'n i'n clywed bod o 'di mynd i lot o gartrefi - yr hen salwch 'ma te - a rhai wedi colli'u bywyd," meddai.
"Ond dwi ddim yn poeni llawer, 'dwi ddim 'di meddwl amdano i boeni o gwbl. 'Da ni 'di cael ein cadw heb neb yn dod i mewn i fod o risg, ma' nhw 'di edrych ar ein holau ni'n dda iawn.
"'Swn i'n meddwl buaswn i ofn dipyn bach 'taswn i'n mynd 'n么l allan r诺an - 'swn i'n gwatshiad dipyn de."
'Dwi ddim am weld y byd yn mynd 'n么l i fel oedd o'
Mae rhai yn y ffilm yn s么n am ba mor hir ac unig mae'r dyddiau'n gallu bod, heb deulu a ffrindiau'n gallu ymweld mor rhwydd ag o'r blaen.
Yng nghartre' Glan Rhos, mae'r bingo wythnosol yn boblogaidd a hithau'n bwysig cadw'n brysur, fel yr esbonia un arall o'r preswylwyr, Ann Lloyd Rowlands:
"Mae 'na ddwy ochr - un ochr reit lwcus am ychydig wythnosau ac wedyn mae'r ochr arall wedyn. Mae o'n r'wbath i 'neud ac i gadw eich meddwl chi i fynd efo'r rhifau a phethau felly. Ydy, mae o'n hwyl!
"Mae'n si诺r bydd rhaid i ni fyw efo'r peth bydd? Ella neith o farw allan mewn amser ond mae'r ffliw a polio, maen nhw i gyd wedi bod yn dal i godi pen ar un adeg.
"Wedyn mae'n si诺r mai rhyw fath o ffliw fydd o ymhen blynyddoedd, gan obeithio bydd 'na wellhad iddo rhyw dro.
"Mae'n poeni fi braidd na fydda' i'n gweld y byd wedi mynd 'n么l i fel oedd o."
Mae'r ansicrwydd yn parhau, ond cadw pawb yn ddiogel yw'r flaenoriaeth yn 么l Helen Ombler Williams.
"Dwi'm yn meddwl eith pethau yn 么l i sut oedd hi cynt - lle'r oedd teuluoedd yn dod i mewn amser paned pnawn a chael teisen a phaned efo'r preswylwyr.
"Dwi'm yn gweld hynny'n digwydd am yn hir eto, os wneith o ailddechrau.
"Mae'n bechod achos mae'r drws wastad 'di bod yn agored i bobl ddod mewn ac allan. Mae'n od i beidio gweld pobl yn y cartre'.
"Ond 'da ni'n trio cadw pawb yn saff a gwneud y gorau ohoni."
Hyd yma mae preswylwyr cartrefi gofal ym M么n, Dinbych-y-pysgod, Yr Wyddgrug, Porthcawl a Phort Talbot wedi cael eu casglu ar gyfer y prosiect.
Trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Age Cymru yn gobeithio ehangu ar y gwaith a holi preswylwyr mewn rhagor o gartrefi ar draws y wlad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2021
- Cyhoeddwyd9 Mai 2021
- Cyhoeddwyd5 Mai 2021