Croeso 'diogel' wrth i filoedd fwynhau'r Ffair Aeaf
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf ers cyn y pandemig, mae miloedd o bobl wedi gallu heidio i faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar gyfer y Ffair Aeaf boblogaidd.
Bu'n amhosib cynnal y digwyddiad y llynedd, na'r Sioe Fawr ym mis Gorffennaf y llynedd ac eleni, yn sgil cyfyngiadau Covid-19.
Ond gyda dim diwedd mewn golwg ar y pandemig, mae'n rhaid archebu tocynnau o flaen llaw ac mae oedolion yn gorfod dangos p脿s Covid neu ganlyniad prawf llif unffordd negatif.
Dywedodd trefnwyr ar drothwy'r ffair, sy'n para am ddau ddiwrnod, eu bod yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pobl i'r digwyddiad ond bod rhaid i bawb ufuddhau i fesurau diogelwch.
Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd Mared Rand Jones, Pennaeth Gweithrediadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru bod yna "fwlch mawr y llynedd" gan nad oedd modd cynnal y ffair.
Ond rhybuddiodd mai dim ond pobl sydd wedi prynu tocynnau o flaen llaw fydd yn cael mynediad, a bydd hi'n ofynnol i'r dorf ddilyn rheolau Llywodraeth Cymru.
"Bydd yn rhaid i bobl dros 18 hefyd ddangos p脿s neu dystiolaeth lateral negyddol - rhaid cofio bod rhain yn wahanol i'r garden frechu," meddai.
"Bydd ymbellhau cymdeithasol yn holl bwysig, gwisgo mwgwd dan do a defnyddio'r hylif diheintio.
"Ry'n ni am wneud y profiad yn un pleserus i bawb ond yn ddiogel hefyd. Mae mor bwysig fod pawb yn teimlo'n saff," meddai.
Gydol yr wythnosau diwethaf mae trefnwyr wedi bod yn rhybuddio bod yn rhaid prynu tocyn o flaen llaw neu fydd dim modd mynd i mewn.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Ychwanegodd Ms Rand Jones bod y trefnwyr yn hynod o bl锚s gyda nifer y cystadleuwyr - yn enwedig yn adran y ceffylau.
"Ro'n i'n eitha' hwyr yn cyhoeddi ein bod ni'n cynnal y Ffair Aeaf ac mae'r niferoedd lawr bach yn adran y gwartheg ond mae nifer entries y moch lan a'r ceffylau i fyny tipyn ers 2019.
"Ry'n ni wedi gohirio'r dofednod oherwydd y ffliw adar ond ry'n ni'n falch i ddweud bod nifer y stondinau ar i fyny - mae nifer fawr wedi penderfynu dod i gefnogi ac felly ry'n ni'n ddiolchgar iawn.
"Mae lot wedi gweld bwlch mawr bod dim ffair y llynedd - mae mor braf rhoi cyfle i bawb ddod at ei gilydd unwaith eto. Mae'r ffair aeaf yn torri hyd y gaeaf.
"Bydd yn braf cymdeithasu - mae wedi bod yn gyfnod ynysig i lawer a dyma gyfle i weld ein cynnyrch ar ei orau. Mae 'na gyfle hefyd i 'neud tipyn o siopa Dolig wrth gwrs!"
'Y pandemig wedi ysbrydoli'
"Mae'n neis ofnadw' bod n么l," medd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr.
"Mae'n rhoi ryw ffocws i ni ar gyfer y Nadolig ac yn rhywbeth i bobl edrych 'mla'n ato.
"Yn amlwg fydd pethau bach yn wahanol - dim ond dwy stiward fydd 'da ni a fydd 'na ddim gwres a bydd y drysau ar agor - felly bydd hi'n ofynnol i bawb wisgo yn gynnes iawn a fydd yna ddim gwin tymhorol.
"Bydd yna ffordd unffordd o gwmpas y stondin, ac fe fydd hi'n ofynnol i bawb wisgo mwgwd a gwneud defnydd o'r diheintydd.
"Dyw cael tocynnau o flaen llaw ddim wedi bod yn broblem - mae rhai o'dd methu mynd ar y we wedi gofyn i gymydog neu ffrind i wneud hynny."
Yn sgil y pandemig dywed Tegwen Morris bod cadw cysylltiad gyda'r aelodau wedi bod yn hynod bwysig ac fe gyhoeddwyd dwy gyfrol - Curo'r Corona'n Coginio a Caru Crefftio.
"I ddweud y gwir mae'r pandemig wedi ysbrydoli un o'n cystadlaethau ni eleni sef coginio cacen i gymydog. Mae pedair cystadleuaeth i gyd - mae nifer y cystadleuwyr ychydig yn llai ac yn 么l y disgwyl fydd llai na'r arfer yn gallu bod yn bresennol.
"Ond ry'n yn edrych ymlaen yn fawr iawn ond bod yn ddiogel ar yr un pryd."
Mewn sesiwn frecwast, cafodd gweledigaeth ei chyhoeddi gan y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths ar gyfer tyfu sector bwyd a diod Cymru.
Nod y strategaeth, medd Llywodraeth Cymru yw "helpu sicrhau diwydiant bwyd a diod ffyniannus ag enw da am ragoriaeth ledled y byd".
Bydd yn anelu at dyfu trosiant y sector ar raddfa gyflymach na gweddill y DU, gan ei gynyddu o'r oddeutu 拢7.5bn presennol i o leiaf 拢8.5bn erbyn 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020