Y cyfeillgarwch a dyfodd drwy Guro鈥檙 Corona鈥檔 Coginio
- Cyhoeddwyd
"Mae'n anhygoel y ffordd mae wedi digwydd - s'gyno ni dal ddim esboniad pam bod ni wedi clicio fel hyn. Mae o'r peth gorau sy' wedi dod o'r Corona i ni'n dwy."
Sefydlwyd y gr诺p Facebook er mwyn annog pobl i rannu eu ryseitiau a'u cynghorion coginio yn ystod y cyfnod clo. Ymhen rhai wythnosau roedd 15,000 wedi ymaelodi 芒'r gr诺p, gan greu cymuned gyfeillgar sy'n ymestyn ar draws Cymru a thu hwnt.
Ac mae'r fforwm wedi arwain at un cyfeillgarwch sy' wedi newid byd i ddwy o'r aelodau.
Ymunodd Helen Evans o Bethesda gyda'r gr诺p am fod ganddi ddiddordeb erioed mewn coginio. Ar 么l cael diagnosis a thriniaeth am ganser y thyroid dechreuodd Helen gadw rhandir (allotment) er mwyn codi ei chalon ar 么l cyfnod anodd.
Wedi iddi s么n am y rhandira'i phrofiad o frwydro canser ar y dudalen Facebook, cafodd Helen neges gan Eileen Jenkins, sy'n weinyddes feithrin o Beniel, Caerfyrddin.
Dywedodd Helen, sy' wedi ymddeol o'i gwaith gyda'r bwrdd iechyd lleol: "Ges i neges gan Eileen yn dweud bod hi'n medru uniaethu efo fi a fod hi'n torri ei chalon yn gweld beth ysgrifennais i.
"'Oedd hi 'di cael canser y fron a fi wedi cael thyroid cancer. Felly 'nath o gychwyn o fan 'na.
"Mae'r peth yn anhygoel - mae'n stori mor fendigedig. Mae'n werth ei dweud."
Dyma gychwyn cyfeillgarwch newydd ac arbennig i'r ddwy, sy' wedi eu helpu nhw drwy'r cyfnod clo. Mae'r ddwy wedi bod yn gefn i'w gilydd drwy'r cyfnod ac wedi rhannu eu profiadau o guro canser.
Dywedodd Helen: "'Nes i ymddeol ar 1 Ebrill a chael diagnosis ar 2 Ebrill. Mi oedd o'n horibl o amser ond dw i wedi bod trwyddo ac wedi cael triniaeth echrydus mewn chamber yn Ysbyty Glan Clwyd.
"Hwnna 'nath gychwyn y peth - bod y ddwy ohonon ni wedi bod trwy amser caled. 'Da ni'n all-clear erbyn hyn ond fyddwn ni'n cael ein monitro am byth."
Doedd y ddwy erioed wedi cyfarfod ond erbyn hyn maen nhw mewn cysylltiad dyddiol, yn 么l Helen: "'Da ni ar Facetime o leia' unwaith yr wythnos a 'da ni'n anfon negeseuon ar Facebook wyth gwaith y diwrnod! Bydda'r ddwy ohono ni'n gwneud rhywbeth i gael cyfarfod ein gilydd.
"A dw i medru trafod pethau efo Eileen dw i erioed wedi trafod yn fy mywyd ac mae hi yr un fath.
"Mae hi'n gwybod mwy amdanaf i na mae'n nheulu i'n gwybod a dw i yr un peth amdani hi!
"'Sen ni'n gwneud rhywbeth i gael cyfarfod ond mae'r amgylchiadau yn anodd gyda hi yn y de a dw i yn y gogledd, a'r busnes Covid - ond cyfarfod ydy'r aim."
Cwmni yn y cyfnod clo
Mae'r ddwy yn gyfranwyr cyson i'r gr诺p Curo Corona'n Coginio ac hefyd wedi cyfrannu sawl rys谩it i'r llyfr coginio newydd o'r un enw. Mae'r gyfrol, wedi ei chyhoeddi gan Merched y Wawr, yn cyflwyno cyfran fechan o gynnwys y dudalen Facebook, gan ddathlu'r creadigrwydd mewn ceginau yn y cyfnod clo.
Mae'r gr诺p wedi bod yn gysur i'r ddwy yn ystod y pandemig, yn 么l Helen: "Dw i'n hunan-ynysu o hyd oherwydd does gen i ddim imiwnedd. Dw i ddim wedi bod mewn un siop ers mis Mawrth.
"Mae pawb (ar y gr诺p) wrthi'n trin a trafod a rhoi lluniau o be' maen nhw wedi bod yn coginio. Mae o 'di bod yn fendith mewn ffordd i gadw ni fynd yn ystod y cyfnod. Ac mae dal i fynd.
"Mae'r coginio wedi bod o fudd ond mae'r gw欧r yn cwyno bod nhw wedi mynd yn dew - 'dy nhw 'rioed wedi gweld cymaint o gacennau a biscuits!"
"Mae wedi codi calon - rhwng bod fi wedi gwneud y ffrind eithriadol yma ac hefyd y coginio. Dw i wedi cyfrannu rhyw 80 o rys谩ets ers y cychwyn. Mae Eileen wedi gwneud yr un fath.
"Mae 'na rywbeth mwy na'r llyfr 'di dod allan o hwn i ni."
Hefyd o ddiddordeb