Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Aelodaeth Urdd am 拢1 i blant sy'n cael cinio am ddim
- Awdur, Aled Huw
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Mae'r Urdd i gynnig aelodaeth blwyddyn i blant ysgol o gefndiroedd difreintiedig am 拢1.
A hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant ddydd Sadwrn, mae'r mudiad wedi datgan "ymrwymiad pellach i gefnogi plant a phobl ifanc o gartrefi incwm isel".
Fe ddaw hyn wrth i nifer plant Cymru sy'n gymwys i gael cinio ysgol ddringo eto'n ystod y pandemig.
Yn 么l ystadegau diweddar mae 31% o blant Cymru'n byw mewn tlodi - y wlad sydd 芒'r ganran ucha'n y Deyrnas Unedig.
拢10 yw aelodaeth blwyddyn gyda'r Urdd ar hyn o bryd, ond fe fydd hyn yn gostwng i 拢1 i blant sy'n cael cinio am ddim.
105,000 o blant yn gymwys
Mae mwy na un ymhob pump o ddisgyblion ysgol Cymru'n gallu cael cinio am ddim.
Mae cyfanswm o dros 105,000 o blant yn byw mewn cartrefi lle mae'r incwm yn isel neu'n dibynnu ar gymorthdaliadau.
Gyda phob ceiniog yn cyfri i'r teuluoedd yma, mae'r Urdd am gynnig aelodaeth am 拢1 iddyn nhw fel eu bod nhw'n gallu elwa o weithgareddau'r mudiad.
Yn 么l prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis: "Mae'r pandemig wedi cael effaith ar yr Urdd - mae pawb yn ymwybodol o hynny - ond mae hefyd wedi cael effaith ar les ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc Cymru.
"Mae wedi rhoi cyfle i ni fel mudiad ailasesu ac i flaenoriaethu, ac yn naturiol ein nod ni fel mudiad yw sicrhau bod 'na fwy o blant a phobl ifanc yn ymwneud 芒'n gweithgareddau ni nag erioed o'r blaen."
Cynllun 'arbennig'
Ym Mhentre-baen yng ngorllewin Caerdydd y mae ysgol gynradd Coed y Gof.
Yma, fel mewn cymaint o ysgolion eraill Cymru, mae 'na ganran sylweddol - 34% o blant - yn derbyn neu'n gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim.
Ers dechrau'r pandemig mae hynny wedi dringo 10%.
Dywedodd Sara Edwards, cydlynydd yr Urdd Ysgol Coed y Gof, fod y cynllun yma gan y mudiad yn un arbennig.
"Mae'n beth mor fawr i'r ysgol a hefyd i'r teuluoedd, achos er bod 拢10 ddim i'w weld yn lot o arian - i lot o deuluoedd mae e'n lot o arian ac mae'r gostyngiad i 拢1 yn r'wbeth arbennig," meddai.
"Beth fi'n gweld yw achos bod y teuluoedd falle yn ddifreintiedig a di-Gymraeg, dy'n nhw ddim yn cael cyfleoedd falle i wneud y pethau yn Gymraeg - nofio, chwaraeon, unrhyw beth fel'na - felly mae cael y cyfleon hyn yn allgyrsiol yn Gymraeg yn arbennig."
'Y broblem fwyaf yng Nghymru'
Ers ei sefydlu mae'r Urdd wedi cefnogi cenedlaethau o blant o bob cefndir.
Mae 'na gronfeydd eisoes ar gael i gefnogi plant o gefndiroedd llai breintiedig i fynd i ganolfannau preswyl y mudiad fel Llangrannog a Glan Llyn.
Yn 么l Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, tlodi plant yw un o'n heriau mwyaf, ac fe fydd y cynllun yma'n gam ymlaen at gydraddoldeb a thegwch.
"Dwi'n credu mai dyma'r broblem fwyaf yng Nghymru ac mae rhaid i ni gyd daclo'r mater," meddai.
"Wrth gwrs mae'n bwysig i'r llywodraethau wneud y mwyaf - San Steffan a Chymru - ond mae 'na bethau mae sefydliadau, gan gynnwys y trydydd sector fel yr Urdd, yn gallu gwneud.
"Dwi'n credu y bydd camau fel hyn yn bwysig i'r teuluoedd sy'n gweld costau'n codi bob wythnos ar hyn o bryd."