Ymgyrch yr Urdd i annog mwy o ferched i ymarfer corff
- Cyhoeddwyd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn lansio prosiect cenedlaethol #FelMerch gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru i annog mwy o ferched i gymryd rhan mewn ymarfer corff.
Nod yr Urdd yw sicrhau fod pob merch a menyw ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon hamdden, beth bynnag fo'u gallu neu brofiad, wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio.
Mae ymchwil gan gwmni Always yn dangos fod perygl i genhedlaeth o ferched roi'r gorau i chwaraeon.
Mae'r gwaith ymchwil yn nodi nad yw dros hanner (55%) o ferched yn eu harddegau yn cadw'n heini, gyda thri chwarter (75%) yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth "i'w cadw mewn chwaraeon".
'Dwi ddim yn 'neud ymarfer corff'
"Dwi'n 18 oed, dwi'n mwynhau cerdded ond does gen i ddim motivation o gwbl i fynd i unrhyw gampfa neu ymuno 芒 chlwb chwaraeon," medd Gwenno Jobbins, o Aberystwyth.
"Ar wah芒n i gerdded, dwi ddim yn 'neud ymarfer corff. Mae ymuno 'da chlwb yn anodd achos dwi'n teimlo bo' fi ddim yn oedolyn nag yn blentyn.
"A does gen i ddim unrhyw gymhelliad i ymarfer ar hyn o bryd. Mi oeddwn i'n 'neud yn yr ysgol ond ar 么l gadael flwyddyn yn 么l dwi wedi 'neud dim heblaw cerdded."
Mae profiadau o'r fath yn dangos pa mor bwysig yw cynllun newydd yr Urdd, medd Mali Davies, 18 oed o Langeitho yng Ngheredigion.
Cyn y cyfnod clo roedd Mali yn teithio i Abertawe yn gyson i chwarae p锚l-rwyd ac mae hi hefyd yn aelod o d卯m p锚l-droed Tregaron a th卯m p锚l-rwyd Bont Blades.
"Do'dd dim posib 'neud dim un o'r campau yna yn y cyfnod clo, ac ar wah芒n i redeg 'nes i ddim neud lot i ddweud y gwir," meddai wrth Cymru Fyw.
"Dyw p锚l-rwyd ddim 'n么l 'to ond maen nhw'n trio gweld sut mae newid y g锚m rywfaint i gwrdd 芒'r gofynion. Mae'r p锚l-droed yn Nhregaron newydd ailddechrau a ma' hynny'n gr锚t.
"Wedi gadael ysgol - does dim cymaint o amser 'da pobl a hefyd dim hyder i 'neud ymarfer corff.
"I fi mae cymryd rhan mewn chwaraeon mor bwysig - bod yn rhan o d卯m. Mae'n dda i les meddwl ond hefyd mae'n ffordd o gymdeithasu. Mae hi mor bwysig siarad 芒 phobl eraill ac mae 'neud unrhyw chwaraeon yn rhoi'r cyfle yna i chi."
Mae ymchwil gan Chwaraeon Cymru hefyd yn dangos fod y pandemig wedi arwain at fwy o fenywod yn dweud eu bod yn gwneud llai o chwaraeon - yn ogystal 芒 theimlo'n euog am beidio 芒 chadw'n heini, ac yn poeni am adael y t欧.
Prif nod #FelMerch yw ysbrydoli, cefnogi ac annog merched 14-25 oed i gadw'n actif a chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon drwy gyflawni'r canlynol:
Cynnal gweithgareddau wythnosol cynhwysol, wyneb yn wyneb neu'n rhithiol;
Sefydlu fforymau rhanbarthol a chenedlaethol;
Penodi llysgenhadon er mwyn ysbrydoli eraill;
Darparu rhaglenni arweinyddiaeth;
Sefydlu hybiau cymunedol yn ystod gwyliau;
Trefnu cynhadledd genedlaethol er mwyn rhannu llwyddiant a syniadau.
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip, Dawn Bowden AS yn croesawu'r cyhoeddiad ac yn dweud: "Rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy i gau'r bylchau sy'n bodoli rhwng dynion a merched pan mae hi'n dod i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, a chanolbwyntio ar ddarparu mwy o gyfleoedd o ansawdd i ferched a menywod ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon.
"Rwy'n falch iawn o gefnogi prosiect Urdd Gobaith Cymru "#FelMerch"; bydd ganddo ran bwysig i'w chwarae wrth annog cyfranogiad merched mewn gweithgareddau chwaraeon, waeth beth fo'u gallu, ac wrth greu amgylcheddau diogel i wneud hynny."
Dywedodd Si芒n Lewis, prif weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Mae cadw'n heini a chymryd rhan mewn chwaraeon yn gwella iechyd meddwl yn ogystal 芒 chorfforol, yn codi hyder a hunan-barch, ac yn medru arwain at gyrhaeddiad addysgol hefyd.
"Felly rydym yn benderfynol o sicrhau fod digon o gyfleoedd gan ferched Cymru i ymwneud 芒 chwaraeon, a hynny o fewn gofod diogel, gan gynnwys darparu sesiynau ymarfer ar-lein sy'n diwallu eu hanghenion."
Ychwanegodd Sarah Powell, prif weithredwr Chwaraeon Cymru: "Mae ehangu ap锚l gwneud ymarfer corff a chwaraeon i ferched a menywod, yn ogystal 芒 deall y rhwystrau sy'n atal cyfranogiad, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.
"Byddwn yn cefnogi ymdrechion yr Urdd i adeiladu ar y cynnydd da a oedd yn cael ei wneud cyn pandemig ac i feddwl yn greadigol wrth ddatblygu cyfleoedd o ansawdd uchel i ferched a menywod eu mwynhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2021