'Merched a menywod ifanc yn gwneud llai o chwaraeon'
- Cyhoeddwyd
Mae llai o ferched a menywod ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon na bechgyn, ac yn colli allan ar y manteision iechyd, yn 么l elusen.
Dim ond 44% o ferched yn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, o'i gymharu 芒 52% o fechgyn.
Dywedodd Chwaraeon Cymru fod nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi codi o 27% yn 2011 i 48% yn eu harolwg diwethaf yn 2015.
Ddydd Iau bydd elusen Women in Sport yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd y Cynulliad ar eu hymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc.
'Diffyg arweinwyr'
Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig dywedodd rheolwr polisi'r elusen, Laura Matthews fod "nifer o ferched a menywod yn colli allan ar y budd sydd yn dod o gymryd rhan mewn chwaraeon".
"[Mae'n] gwella iechyd, lleihau'r siawns o gael afiechydon, codi hyder, gwella iechyd meddwl a gwell cyrhaeddiant addysgiadol hefyd," meddai.
"Mae 'na ddiffyg arwyr chwaraeon benywaidd yn y cyfryngau.
"Mae 'na hefyd ddiffyg arweinwyr benywaidd yn gweithio ac yn gwirfoddoli ar lefelau uchaf chwaraeon yng Nghymru.
"Er enghraifft dim ond un o bob tri o gadeiryddion y cyrff chwaraeon yng Nghymru sy'n fenywod. A dim ond chwarter y prif weithredwyr yn y sector sydd yn fenywod."
'Tyfu'n sylweddol'
Yn 么l Chwaraeon Cymru mae arian wedi cael ei neilltuo i gynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae'r gefnogaeth wedi'i dargedu at fenywod a merched, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl sydd ag anableddau, a chymunedau mewn ardaloedd difreintiedig.
Dywedodd llefarydd ar ran Chwaraeon Cymru: "Fe wnaeth ein prosiect Galw am Weithredu fuddsoddi 拢3m i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan gynnwys annog mwy o ferched a menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon.
"Fe wnaethon ni edrych i weithio gyda phartneriaid newydd gan gynnwys Girlguiding Cymru a phrosiect StreetGames.
"Mae p锚l-droed menywod wedi tyfu'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda'r niferoedd sydd wedi'u cofnodi yn chwarae wedi codi 32%.
"Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddar fod 10,000 o fenywod yn chwarae rygbi yng Nghymru."
Mae gan fwrdd rheoli Chwaraeon Cymru gynrychiolaeth hafal o fenywod a dynion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017